Sut ydw i’n plannu cyfryngau Canvas Studio mewn cwrs Canvas gan ddefnyddio Porwr Chrome neu Edge?

Yn Canvas, mae modd i ddefnyddwyr blannu cyfryngau o Canvas Studio yn unrhyw ardal nodwedd gyda’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gan gynnwys Aseiniadau, Trafodaethau, a Thudalennau. Mae cyfryngau’n cael eu plannu gan ddefnyddio adnodd LTI Studio. Gallwch chi ddewis cyfryngau sy’n bodoli’n barod a llwytho cyfryngau newydd i fyny drwy adnodd LTI Studio.

Wrth blannu cyfryngau yn Canvas, gallwch chi ddewis i guddio neu ddangos tabiau cyfryngau. Mae tabiau cyfryngau’n sicrhau mynediad at gapsiynau, mewnwelediadau, sylwadau a manylion cyfryngau. Pan fydd tabiau cyfryngau wedi’u hanalluogi, mae modd newid maint cyfryngau Canvas Studio sydd wedi’u plannu yn y rhyngwyneb defnyddiwr. P’un ai oes sylwadau neu beidio, mae ymweliadau â chyfryngau wedi’u plannu’n cael eu cynnwys mewn dadansoddiadau bob amser.

Os oes angen, gallwch chi blannu fideos YouTube neu Vimeo ar stamp amser penodol. Yn ogystal, wrth blannu cyfryngau yn Canvas, mae’r opsiwn llwytho i lawr wedi’i analluogi’n ddiofyn ar gyfer cyfryngau sy’n eiddo i chi, ond gallwch chi ddewis galluogi’r opsiwn llwytho i lawr.

Plannu Cyfryngau mewn Aseiniadau a Thrafodaethau

Os ydych chi’n addysgwr ac yn plannu cyfryngau mewn aseiniad neu drafodaeth, gallwch chi ystyried analluogi sylwadau. Ar gyfer aseiniadau wedi’u graddio, nid yw sylwadau mewn-llinell yn disodli cyflwyniadau ac nid ydynt yn ymddangos yn SpeedGrader. Er enghraifft, wrth blannu cyfryngau mewn trafodaeth wedi’i graddio, gallai myfyrwyr bostio sylwadau mewn-llinell, ond i gael gradd, byddai’n rhaid iddynt bostio ymateb i’r drafodaeth wedi’i graddio hefyd. Byddai’r ymateb i’r drafodaeth yn ymddangos yn SpeedGrader ar gfyer ei graddio. Ond, gallai sylwadau gael eu galluogi wrth blannu cyfryngau mewn aseiniad Dim Cyflwyniad neu aseiniad Heb ei Raddio.

Plannu Cyfryngau fel Myfyriwr

Os ydych chi’n fyfyriwr, gallwch chi blannu cyfryngau Canvas Studio mewn ymateb i drafodaeth, ac aseiniad cofnod testun, neu aseiniad llwytho ffeil i fyny. Cyfryngau rydych chi’n eu plannu i gwrs neu grŵp Canvas yn cael eu creu fel copi newydd sy’n eiddo i’ch addysgwr. Wrth blannu cyfryngau, ni fyddwch chi’n gallu golygu unrhyw fanylion, felly efallai y byddwch chi eisiau cadarnhau enw eich cyfryngau cyn iddynt gael eu llwytho i fyny. Neu, gallwch chi gysylltu â’ch addysgwr i addasu manylion eich cyfryngau.

Nodyn: Mae’r wers hon yn disgrifio’r broses ar gyfer plannu cyfryngau Studio gan ddefnyddio porwr Chrome neu Edge yn unig. Dysgwch ragor am blannu cyfryngau gan ddefnyddio porwr Safari neu Firefox.

Agor Studio yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch unrhyw ardal nodwedd Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, fel Trafodaethau, Aseiniadau, neu Dudalennau. Cliciwch yr eicon Studio [1]. Neu, gallwch chi glicio’n eicon Ap (App) [2].

Nodyn: Os nad yw’r eicon Studio yn ymddangos yn y bar offer, cliciwch yr eicon Opsiynau [3].

Canfod Cyfryngau

Canfod Cyfryngau

I chwilio am ffeil sain neu fideo, cliciwch yr eicon Chwilio [1].

I drefnu yn ôl dyddiad neu enw, cliciwch y gwymplen Dyddiad Ychwanegu (Date Added) [2].

I weld yr holl gyfryngau, dewiswch y gwymplen Gweld Pob Un (View All) [3].

Nodyn: Mae cyfryngau sy’n cynnwys cwis fideo yn dangos yr eicon Cwis [4].

Canfod Cyfryngau wedi’u Rhannu

Canfod Cyfryngau wedi’u Rhannu

I blannu cyfryngau sydd wedi’u rhannu gan ddefnyddiwr arall, cliciwch y gwymplen Fy Llyfrgell (My Library.

Cliciwch wedi rhannu â mi

Yn y ffenestr Fy Llyfrgell, cliciwch y ddolen Wedi Rhannu â Mi (Shared with Me).

Llwytho Cyfryngau Newydd i Fyny

Llwytho Cyfryngau Newydd i Fyny

I lwytho cyfryngau newydd i fyny, cliciwch yr eicon Rhagor o Opsiynau (More Options) [1].

I recordio recordiad gwe-gamera neu gipio sgrin gan ddefnydddio’r opsiwn Cipio Sgrin Studio cliciwch y ddolen Studio Capture [2].

Neu, i ddefnyddio Screencast-o-Matic i recordio cipio sgrin cliciwch y ddolen Screencast-o-Matic [3].

I ychwanegu ffeil cyfryngau o’ch cyfrifiadur, dewiswch yr opsiwn Llwytho i fyny o Gyfrifiadur (Upload from Computer) [4].

I ychwanegu ffeil cyfryngau gan ddefnyddio dolen allanol, dewiswch yr opsiwn Dolen Allanol (External Link) [5].

Nodyn: Dim ond defnyddwyr gyda phorwyr Chrome neu Edge sy’n gallu plannu cipiadau sgrin a fideos gwe-gamera gan ddefnyddio nodwedd Canvas Studio Capture. Dysgwch ragor am blannu fideo mewn cwrs Canvas gan ddefnyddio porwr Safari neu Firefox.

Dewis Cyfryngau

Dewis Cyfryngau

Hofrwch dros y cyfryngau rydych chi eisiau eu dewis a chlicio’r botwm Dewis (Select).

Dangos neu Guddio Tabiau Cyfryngau

Dangos neu Guddio Tabiau Cyfryngau

Gallwch chi ddangos Tabiau Cyfryngau yn y ffeil cyfryngau sydd wedi’i phlanu. Mae’r Tabiau Cyfryngau yn gallu cynnwys y tabiau Manylion, Sylwadau, Mewnwelediadau, a Chapsiynau. I ddangos neu guddio’r Tabiau Cyfryngau yn y ffeil cyfryngau wedi’i phlannu, cliciwch y togl Dangos Tabiau Cyfryngau (Display media tabs) ymlaen neu i ffwrdd.

Nodyn: Yn ddiofyn, bydd yr opsiwn hwn ymlaen neu wedi’i ddiffodd. Mae gweinyddwyr yn rheoli p’un ai yw ymlaen neu wedi’i ddiffodd drwy Osodiadau Studio.

Gosod Amser Cychwyn ar gyfer Cyfryngau

Gosod Amser Cychwyn ar gyfer Cyfryngau

Wrth blannu cyfryngau o Vimeo neu YouTube, gallwch chi ddefnyddio plannu’n seiliedig ar stamp amser. I ddewis y stamp amser lle mae cychwyn y cynnwys perthnasol yn cael ei amlygu wrth chwarae, rhowch yr amser yn y maes Dechrau cyfryngau wedi’u plannu am (Start embedded media at) [1].

Neu, gallwch chi ddod o hyd i amser cychwyn yn y chwaraewr cyfryngau. I gychwyn chwarae, cliciwch y botwm Cychwyn (Start) [2]. Mae’r stamp amser yn dangos [3]. I fynd trwy’r cyfryngau, cliciwch a llusgo’r dangosydd stamp amser [4]. Pan mae’r cyfryngau’n cyrraedd y pwynt rydych chi ei eisiau, stopiwch chwarae a chlicio’r botwm Gosod Nawr (Set Current) [5].  

I ailosod a gosod amser newydd, cliciwch y botwm Ailosod (Reset) [6].

Nodyn: Nid yw trafodaethau wedi’u creu’n uniongyrchol mewn grŵp yn cynnwys yr opsiynau plannu ar gyfer cyfryngau Studio ac nid yw’n cadw cofnod o ddata gwylwyr. I weld yr opsiynau plannu a’r data gwylwyr wrth greu trafodaeth ar gyfer grŵp cwrs, rhaid i’r drafodaeth gael ei chreu ar lefel y cwrs ac yna’i gosod fel trafodaeth grŵp.

Newid Maint Cyfryngau wedi’u Plannu

Newid Maint Cyfryngau wedi’u Plannu

I newid maint cyfryngau, rhaid i dabiau cyfryngau fod wedi’u hanalluogi. I analluogi tabiau cyfryngau, cliciwch y togl Dangos tabiau cyfryngau (Display media tabs) i ffwrdd [1]. Yna cliciwch y botwm Plannu (Embed) [2].

Agor Opsiynau Cyfryngau Studio

Cliciwch yn ffenestr y fideo i ddangos neidlen Opsiynau Cyfryngau Studio Yna cliciwch y ddolen Opsiynau Cyfryngau Studio (Studio Media Options).

Ardal Opsiynau Cyfryngau Studio

Mae’r ardal Opsiynau Cyfryngau Studio yn dangos gwybodaeth am y cyfryngau, gan gynnwys teitl y cyfryngau, ac opsiynau maint a dangosydd.

Gallwch chi bersonoli sut mae’r cyfyngau sydd wedi’u plannu yn ymddangos. Gallwch chi blannu’r fideo yn syth yn y golygydd cynnwys cyfoethog, cliciwch y botwm Plannu Fideo (Embed Video) [1]. I ddangos dolen testun i agor y cyfryngau mewn tab newydd, cliciwch y botwm radio Dangos Dolen Testun (Yn agor mewn tab newydd) [Display Text Link (Opens in a new tab)] [2].

I ddewis maint wedi’i osod yn barod o restr, cliciwch y gwymplen Maint (Size) [3]. Rhagosod opsiynau maint gan gynnwys canolig, mawr, a mawr iawn.

I roi maint personol, dewiswch yr opsiwn Personol (Custom) [4]. Rhowch led neu uchder personol mewn picseli yn y meysydd maint [5]. Wrth i chi roi maint, bydd y maes arall yn diweddaru’n awtomatig i gadw’r gymhareb agwedd.

I gadw opsiynau sydd wedi’u dewis, cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [6].

Nodyn: Does dim modd golygu teitl y cyfryngau o’r ardal Opsiynau Cyfryngau Studio I olygu teitl y cyfryngau, ewch i fanylion y cyfryngau.

Plannu Cyfryngau

Plannu Cyfryngau

I blannau cyfryngau safonol, cliciwch y ddolen Plannu safonol (Standard embed) [1].

Os yw’r cyfryngau’n cynnwys cwis fideo, i blannu’r cyfryngau gyda’r cwis fideo, cliciwch y ddolen Plannu cwis fideo (Video quiz embed) [2].

I blannu’r cyfryngau, cliciwch y botwm Plannu (Embed) [3].

I ganslo a dewis cyfryngau gwahanol, cliciwch y botwm Dewis Fideo Arall (Select Another Video) [4].

Nodyn: Os nad yw’r cyfryngau sydd wedi’u dewis yn cynnwys cwis fideo, nid yw’r ddolen Plannu cwis fideo i’w gweld.

Rheoli Cyfryngau

I weld rhagolwg o’r fideo rydych chi wedi’i phlannu yn y maes Golygydd Cynnwys Cyfoethog, cliciwch y botwm Chwarae (Play).  

Cadw Newidiadau

Cyhoeddi Cyfryngau

I gyhoeddi’r cynnwys cwrs Canvas sy’n cynnwys y cyfryngau wedi’u plannu, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish) [1]. I gadw'r cyfryngau ar ffurf drafft, cliciwch y botwm Chwarae (Play) [2].