Sut ydw i’n recordio fideo Canvas Studio gan ddefnyddio gwe-gamera?

Gallwch chi recordio fideo gan ddefnyddio eich gwe-gamera yn Canvas Studio. Mae modd recordio fideos o unrhyw dudalen yn eich cyfrif. Gallwch chi recordio cyfryngau am unrhyw hyd, ond fe argymhellir recordiadau fideo byrrach o dan 5 munud oherwydd cyfyngiadau adnoddau porwyr.

Nodiadau:

  • Dim ond porwyr Chrome a Firefox sy’n gallu delio â chipio gwe-gamera Studio. Os ydych chi’n defnyddio porwr nad oes modd delio ag ef , bydd Studio yn gofyn i chi newid porwr.
  • Efallai y bydd angen i chi adael i’r porwr ddefnyddio eich camera a’ch meicroffon.
  • Mae cipio gwe-gamera Studio yn creu fideo webM.
  • I gael rhagor o wybodaeth am sut mae darllenwyr sgrin yn gweithio wrth recordio fideo yn Studio, ewch i Hygyrchedd yn Studio.
  • Os ydych chi’n defnyddio dyfais iOS neu iPad iOS, does dim modd i chi recordio fideo yn uniongyrchol yn Canvas Studio gan ddefnyddio gwe-gamera. Yn hytrach, gallwch chi recordio fideo gan ddefnyddio rhaglen gwe-gamera eich dyfais a llwytho’r fideo i fyny fel ffeil cyfryngau.

Recordio Fideo

Recordio Fideo

I recordio fideo, cliciwch y botwm Recordio (Record) [1], yna clicio’r ddolen Cipio Gwe-gamera (Webcam Capture) [2].

Nodyn: Os ydych chi’n defnyddio dyfais iOS, nid yw’r ddolen Cipio Gwe-gamera ar gael. Ond, gallwch chi recordio fideo gan ddefnyddio rhaglen gwe-gamera eich dyfais a llwytho’r fideo i fyny fel ffeil cyfryngau.

Caniatáu Mynediad

Caniatáu Mynediad Chrome a Firefox

I roi mynediad at feicroffon a chamera eich cyfrifiadur, cliciwch y botwm Caniatáu (Allow).

Dechrau’r Recordiad

Os oes mwy nag un meicroffon ar gael, cliciwch y botwm Meicroffon (Mic) [1] a dewis y meicroffon o’r rhestr.

Os oes mwy nag un gwe-gamera ar gael, cliciwch y botwm Gwe-gamera (Webcam) [2] a dewis y gwe-gamera o’r rhestr.

Cliciwch y botwm Dechrau Recordio (Start Recording) [3].

 

Gorffen Recordio

Gorffen Recordio

Ar ôl i chi orffen recordio eich fideo, cliciwch y botwm Gorffen (Finish).

 

Cadw’r Recordiad

Cadw’r Recordiad

Gweld y recordiad Rhowch deitl yn y maes Teitl (Title) [1] a chlicio’r botwm Cadw Cyfryngau (Save Media) [2].

I ail-recordio eich fideo, cliciwch y botwm Dechrau eto (Start Over) [3].

Gweld Recordiad

Gweld Recordiad

Yn y dudalen Fy Llyfrgell, gallwch chi weld eich recordiad fideo. Ar ôl i’r recordiad gael ei brosesu, gallwch chi reoli’r holl osodiadau a rheoliadau.

0 Likes
Was this article helpful? Yes No