Ar ôl i mi gyhoeddi cwis, pa fath o ystadegau cwis fydd ar gael?

Gallwch weld ystadegau cwisiau sydd wedi cael eu cyhoeddi ac sydd wedi cael o leiaf un cyflwyniad. Hefyd, gallwch lwytho i lawr ffeiliau gwerthoedd sydd wedi’u gwahanu gydag atalnodau (CSV) er mwyn gweld manylion am Ddadansoddi Myfyrwyr neu Ddadansoddi Eitem ar gyfer pob cwestiwn cwis. Am wybodaeth fanylach ynglŷn â chyfyngiadau a chyfrifiadau dadansoddi eitem, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Dadansoddi Eitem.

Er mwyn sicrhau bod y cwrs yn gweithio cystal â phosib yn rhyngwyneb Canvas, bydd ystadegau cwis ddim ond yn cael eu creu ar gyfer cwisiau sydd â llai na 100 cwestiwn neu gyfanswm o lai na 1000 ymgais. Er enghraifft, ni fydd cwis gyda 200 cwestiwn yn creu ystadegau cwis. Ond, bydd cwis gyda 75 cwestiwn yn creu ystadegau cwis nes bod y cwis wedi cyrraedd 1000 o ymgeisiau. Mae modd gweld canlyniadau mwy na’r gwerthoedd mwyaf hyn drwy lwytho’r adroddiad Dadansoddi Myfyrwyr (Student Analysis) i lawr a gweld y ffeil CSV.

Nodiadau:

  • Mae’n bosib y bydd golygu cwis sy’n cynnwys cyflwyniadau myfyrwyr yn cael effaith ar ystadegau’r cwis. Os nad yw’r siartiau Dadansoddi Cwestiwn (Question Breakdown) bellach yn dangos yr wybodaeth y byddech chi'n ei disgwyl ar ôl i chi olygu cwis, yna gall yr adroddiad Dadansoddi Myfyrwyr (Student Analysis) ddarparu’r data cywir.
  • Nid yw eitemau cyfryngau’n ymddangos yn ystadegau'r cwis.

Agor Cwisiau

Agor Cwisiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).

Agor Cwis

Agor Cwis

Cliciwch deitl y cwis rydych chi am ei agor.

Agor Ystadegau Cwis

Agor Ystadegau Cwis

Cliciwch y ddolen Ystadegau Cwis (Quiz Statistics).

Nodyn: Ni fydd Ystadegau Cwis ar gael nes bod o leiaf un myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs.

Gweld Ystadegau

Yn ddiofyn, mae crynodeb y cwrs yn dangos ystadegau ar gyfer pob adran gan gynnwys sgôr gyfartalog y cwis, sgôr uchaf, sgôr isaf, gwyriad safonol (sut mae’r gwerthoedd wedi’u gwasgaru ar draws yr holl ystod sgorio), a’r amser cyfartalog i gwblhau’r cwis [1].

I weld ystadegau cwis ar gyfer adran, cliciwch y ddewislen Hidlo Adran (Section Filter) [2]. I gael mynediad at ganlyniadau arolwg ychwanegol, gwnewch adroddiad Dadansoddi Myfyriwr/Eitem (Student/Item Analysis) [3].

Yn y graff crynodeb, mae’r echelin x yn dangos canran sgorau’r cwis [4], ac mae’r echelin y yn dangos sawl myfyriwr sydd wedi derbyn pob canran [5].

Os yw myfyriwr wedi gwneud mwy nag un ymgais ar yr aseiniad, yna gallwch weld ymgeisiau blaenorol yn SpeedGrader. Ni fydd ystadegau’r cwis ond yn dangos y sgôr sydd wedi’i chadw ar gyfer y myfyriwr (sgôr uchaf neu’r sgôr ddiweddaraf). I weld y gosodiad sgôr ar gyfer mwy nag un ymgais, golygwch eich cwis a mynd i weld yr opsiwn gosodiadau mwy nag un ymgais. Os oes angen, gallwch roi ymgais ychwanegol i’ch myfyrwyr.

Gweld Adroddiadau Dadansoddi

Gweld Adroddiadau Dadansoddi

Llwythwch ffeiliau CSV i lawr er mwyn gweld manylion am Ddadansoddi Myfyrwyr neu Ddadansoddi Eitem ar gyfer pob cwestiwn cwis er mwyn cyfrif holl ymgeisiau myfyrwyr yn yr ystadegau. Am wybodaeth fanylach ynglŷn â chyfyngiadau a chyfrifiadau dadansoddi eitem, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Dadansoddi Eitem Cwis.

Pan fyddwch chi’n cynhyrchu adroddiad dadansoddi, bydd Canvas yn dangos y tro diwethaf y cafodd yr adroddiad ei gynhyrchu.. Os oes gwall gyda'r adroddiad, gallwch roi cynnig arall ar yr opsiwn neu ganslo'r dadansoddiad yn llwyr.

Mae’r adroddiad Dadansoddi Myfyrwyr yn cynnwys cynrychiolaeth dablaidd o atebion pob myfyriwr a’r radd a ddyfarnwyd ar gyfer pob ateb.

Nodiadau:

  • Yn ddiofyn, mae’r amser cyflwyno yn yr adroddiad Dadansoddi Myfyrwyr (Student Analysis) yn cael ei ddangos yn UTC, ac nid yn eich cylchfa amser benodol chi.
  • Dyw’r adroddiad Dadansoddi Eitem ddim ond yn dangos ystadegau ar gyfer cwestiynau Mwy nag un dewis a Gwir/Ffug.
  • Os oes gennych chi hawl i ddarllen darllen data SIS yn y cwrs, yna bydd y golofn sis_id wedi’i chynnwys yn y ffeiliau CVS sy’n cael eu llwytho i lawr.

Gweld Dadansoddiad Cwestiwn

Mae’r adran cwestiwn cwis yn dangos y ganran o fyfyrwyr a atebodd y cwestiwn cwis yn gywir [1].

Mae pob cwestiwn yn cynnwys dadansoddiad o bob dewis ateb cwestiwn. Mae ateb(ion) cywir i’w gweld mewn bar gwyrdd sy’n cynnwys tic [2]; mae atebion anghywir i’w gweld mewn bar du [3]. Mae mathau o gwestiynau sydd heb opsiynau penodol wrth ateb, er enghraifft cwestiynau llenwi’r bwlch, yn dangos cofnodion ar wahân i’r ateb cywir mewn bar gyda streipiau du [4]. Mae’r barrau llorweddol wedi eu graddio yn unol â’r ganran ateb [6].

Mae pob ateb hefyd yn dangos sawl atebwr a ddewisodd yr ateb [6]. I weld enwau'r myfyrwyr a ddewisodd ateb penodol, cliciwch y ddolen [x atebwr] (x respondents).

Gweld Cwestiynau wedi’u graddio eich hun

Gweld Cwestiynau wedi’u graddio eich hun

Mae ystadegau cwis hefyd yn dangos perfformiad cymharol ar gyfer traethodau sydd heb gael eu graddio’n awtomatig a mathau o gwestiynau cwis lle roedd angen llwytho ffeiliau i fyny. Mae’r mathau o gwestiynau sydd ddim wedi cael eu graddio’n awtomatig yn cael eu dangos yn yr un math o dabl â mathau eraill o gwis.

Mae math o gwis sydd ddim yn cael ei raddio’n awtomatig yn cael ei farcio’n gywir os yw’n cynnwys sgôr myfyriwr sy’n fwy neu’n gyfartal â’r pwyntiau sy’n bosib ar gyfer cwestiwn.

Mae ymatebion dadansoddi gradd yn cael eu dangos fel y 27% uchaf [1], y 46% yn y canol [2], a’r 27% isaf [3]. Mae’r ystadegau hefyd yn dangos cyflwyniadau sydd heb gael eu graddio eto [4]. Ond, os yw pob sgôr yr un fath, mae’n bosib y bydd categori ymatebion yn dangos mwy na’r ganran o fyfyrwyr (ee bod pob myfyriwr yn cael 100%).

Mae cwestiynau sydd heb eu graddio’n awtomatig hefyd yn cynnwys mynediad at SpeedGrader er hwylustod [5].

Gweld Mynegai Gwahaniaethu

Gweld Mynegai Gwahaniaethu

Mae cwestiynau cwis Gwir/Ffug a Mwy nag un dewis yn cynnwys mynegai gwahaniaethu eitem, sy’n cynnig mesur o ba mor dda y mae un cwestiwn yn gallu gwahaniaethu rhwng myfyrwyr sy’n gwneud yn dda mewn arholiad a’r rhai sydd ddim.

Mae’n rhannu myfyrwyr yn dri grŵp ar sail eu sgorau yn y cwis cyfan, y 27% uchaf, y 46% canol, a’r 27% isaf. Mae nifer yr atebion cywir o’r grŵp isaf yn cael ei dynnu o nifer yr atebion cywir o’r grŵp uchaf, ac mae’r cyfanswm yn cael ei rannu gan faint y grŵp.

Mae sgorau gwahaniaethu isel yn cael sgôr o +0.24 neu is, mae sgorau da yn +0.25 neu uwch. Mae mynegai gwahaniaethu delfrydol yn dangos myfyrwyr sydd wedi sgorio’n uwch ar y cwis yn cael y cwestiwn cwis yn gywir, myfyrwyr sydd wedi sgorio’n is ar y cwis yn cael y cwestiwn cwis yn anghywir, a myfyrwyr yn y canol ar bob ochr. Mae mynegai gwahaniaethu o sero yn dangos pob myfyriwr yn cael y cwestiwn cwis yn gywir neu’n anghywir.

Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr a wnaeth yn dda yn yr arholiad gael y cwestiwn yn gywir. Os bydd myfyrwyr yn gwneud yn dda yn yr arholiad yn gyffredinol ond ddim yn yr arholiad, efallai y bydd angen adolygu’r cwestiwn ei hun.