Sut ydw i’n creu cwis yn defnyddio New Quizzes?

Gallwch chi greu cwis yn defnyddio New Quizzes yn y dudalen Gwisiau. Gallwch greu pob math o gynnwys ym mhob cwis.

Dysgu mwy am New Quizzes.

Note: Mae New Quizzes yn adnodd optio i mewn. Os nad yw’r adnodd hwn ar gael i chi, cysylltwch â’ch gweinyddwr Canvas.

Agor Cwisiau

Agor Cwisiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).

Note: Gallwch chi gae mynediad at gwisiau o’r dudalen Aseiniadau hefyd.

Ychwanegu Cwis

Ychwanegu Cwis

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis (Add Quiz).

Creu Cwis Newydd

Creu Asesiad New Quiz

Yn y sgrin Dewiswch Beiriant Cwisiau, dewiswch yn opsiwn New Quizzes [1]. I gadw eich dewis o beiriant cwis ar gyfer y cwrs hwn, ticiwch y blwch ticio Cofio fy newis ar gyfer y cwrs hwn (Remember my choice for this course) [2].

Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [3].

Note: Gallwch chi ailosod eich dewis o beiriant cwis o’r ddewislen Opsiynau Cwis ar unrhyw adeg.

Golygu Manylion Cwis

Golygu Manylion Cwis

Yn y maes Enw’r Aesiniad (Assignment Name) [1], rhowch enw eich cwis. I roi manylion cwis, rhowch yr uchafswm pwyntiau posib [2], dewiswch y grŵp aseiniadau [3], a dewiswch sut y bydd y radd yn cael ei dangos i fyfyrwyr [4].

I beidio â chynnwys y cwis hwn yn y radd derfyno, cliciwch y blwch ticio Peidio â chynnwys yr aseiniad hwn yn y radd derfynol (Do not count this assignment towards the final grade) [5].

Y pwyntiau posib a osodir ar dudalen manylion yr aseiniad yw cyfanswm y pwyntiau sy'n bosib ar gyfer y cwis. Mae'r pwyntiau a osodir fesul cwestiwn yn pennu'r pwyntiau a enillwyd ar gyfer atebion cywir. Mae pwyntiau a enillir am atebion cywir yn cael eu cyfrif a'u rhannu â chyfanswm y pwyntiau cwestiwn ar gyfer y cwis. Yna defnyddir y ganran honno i gyfrifo'r sgôr derfynol yn seiliedig ar gyfanswm y pwyntiau a osodir ar dudalen manylion yr aseiniad. Er enghraifft, os ydych chi'n gosod cyfanswm y pwyntiau ar dudalen manylion yr aseiniad i 50 ac yn creu cwis gyda 10 cwestiwn yr un gwerth 1 pwynt, mae gan y cwis gyfanswm o 10 pwynt ond mae'n werth 50 pwynt wrth ei raddio. Os yw myfyriwr yn ateb 9 cwestiwn yn gywir, ei sgôr cwis yw 90% (9/10). Ond, ei sgôr derfynol yn y Llyfr Graddau fydd 45/50 (90%).

Os nad yw eich cwis yn werth unrhyw bwyntiau, gallwch chi ddewis peidio â dangos y cwis yn y Llyfr Graddau neu dudalen Graddau’r myfyriwr [6].

Graddio’n Ddienw

Graddio’n Ddienw

Mae Graddio’n ddienw yn cuddio enwau myfyrwyr pan fydd graddwyr yn gweld cyflwyniadau aseiniadau yn SpeedGrader.

Note: Ar ôl i raddio’n ddienw gael ei roi ymlaen ar gyfer cwis, does dim modd ei ddiffodd.

Neilltuo Cwis

Neilltuo Cwis

Yn y maes Neilltuo I (Assign To) [1], dewiswch bwy fydd yn gorfod cymryd eich cwis. Mae modd i chi neilltuo’r cwis i fyfyriwr unigol neu i adrannau.

Yn y maes Erbyn [2], dewiswch ddyddiad erbyn y cwis.

Yn y meysydd Ar gael o (Available from) a Nes (Until) [3], dewiswch y dyddiadau ar gael ar gyfer y cwis. Bydd cwisiau sydd ar y gweill yn cael eu cyflwyno’n awtomatig pan fydd y dyddiad a’r amser erbyn yn cyrraedd.

Note: Os ydych chi wedi gosod dyddiadau diystyru manylion adran yn eich cwrs, mae'n bosib y bydd angen i chi ddewis adran cwrs a gosod dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael sy'n syrthio o fewn y dyddiadau diystyru manylion adran.

Cadw Cwis

Cadw Cwis

I gadw manylion eich cwis, cliciwch y botwm Cadw (Save) [1]. I gadw a chyhoeddi eich cwis, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish) [2].

Mae clicio’r botwm Cadw neu’r botwm Cadw a Chyhoeddi yn mynd a chi’n ôl i’r dudalen lle gwnaethoch chi agor y cwis.

Agor Tudalen Adeiladu

Agor Tudalen Adeiladu

I agor tudalen adeiladu New Quizzes ac ychwanegu cwestiynau a chynnwys at eich cwis, cliciwch y botwm Adeiladu (Build).

Agor Tudalen Adeiladu

Os gwnaethoch chi glicio’r botwm Cadw neu’r botwm cadw a Chyhoedd a dychwelyd i’r dudalen lle gwnaethoch chi agor y cwis, gallwch chi glicio’r eicon Opsiynau [1] ac yna clicio’r ddolen Adeiladu (Build) [2].

Creu Cwis

Yn y dudalen Adeiladu, gallwch chi olygu teitl a disgrifiad eich cwis [1], gweld eich banc eitemau [2], cysoni’r asesiad gyda’r deilliannau [3], cael cipolwg o’r asesiad o olwg y myfyriwr [4], a chrwydro’r asesiad [5].

Gallwch chi ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i fformatio ac ychwanegu cynnwys yn ôl cyfarwyddiadau eich cwis.

Ychwanegu Cynnwys

Ychwanegu Cynnwys

I ychwanegu cynnwys at eich cwis, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add).

Dewiswch Gynnwys

I fewnosod cynnwys o fanc eitemau, cliciwch y botwm Banc Eitemau (Item Bank) [1]. I greu cwestiwn newydd, cliciwch y botwm at gyfer y math o gwestiwn [2] neu ychwanegu cynnwys symbylu [3]

Mae’r mathau canlynol o gwestiwn ar gael yn New Quizzes:

Golygu’r Cwestiwn

Ar gyfer pob cwestiwn, gallwch chi roi teitl y cwestiwn [1], sail y cwestiwn [2], ac atebion [3]. Gallwch chi hefyd ddewis opsiynau sy’n benodol i’r cwestiwn [4], cysonwch y cwestiwn gyda deilliant [5], ac ychwanegu’r cwestiwn at fanc eitemau [6].

Yn y maes Pwyntiau (Points) [7], newidich werth y pwynt ar gyfer cwestiwn drwy roi rhif neu glicio’r botymau saeth. I ychwanegu adborth cyffredinol gan fyfyrwyr, cliciwch yr eicon Adborth (Feedback) [8].

I gadw'r cwestiwn, cliciwch y botwm Wedi gorffen (Done) [9].

Note: Dydy cwestiynau traethawd ddim yn cynnwys maes ateb a rhaid i chi eu graddio eich hun.

Dileu Cwestiwn

I ddileu cwestiwn, cliciwch yr eicon Dileu. Bydd y dudalen yn cadarnhau eich bod chi eisiau symud yn eitem.

Agor y Llywiwr Cwestiynau

Agor y Llywiwr Cwestiynau

I agor y Llywiwr Cwestiynau a gweld eich cwis, cliciwch yr eicon Ehangu.

Dychwelyd i’r Dudalen Gwisiau

Dychwelyd i’r Dudalen Gwisiau

I gau eich cwis a dychwelyd i’r dudalen Gwisiau, cliciwch y botwm Dychwelyd (Return).