Sut ydw i’n creu hyperddolenni i ffeiliau defnyddwyr, grŵp a chwrs yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?

Gallwch chi ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i fewnosod hyperddolenni i ffeiliau cyfryngau, delweddau a dogfennau sydd wedi’u storio yn eich cwrs, grŵp, neu ffeiliau defnyddiwr. Os ydych chi’n defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog mewn cwrs, gallwch chi gael gafael ar ffeiliau yn y ffolderi Ffeiliau’r Cwrs a Ffeiliau’r Defnyddiwr. Os ydych chi’n defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog mewn grŵp, gallwch chi gael gafael ar ffeiliau yn y ffolderi Ffeiliau’r Grŵp a Ffeiliau’r Defnyddiwr.

Nodiadau: 

  • Os byddwch chi’n gosod ffeil fel ddim i'w weld gan fyfyrwyr yn Ffeiliau’r Cwrs ac yn cysylltu â’r ffeil honno yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, bydd myfyrwyr yn gallu gweld y ffeil honno gan ddefnyddio’r ddolen yn Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
  • I greu hyperddolenni i ffeiliau grŵp, rhaid i chi agor y Golygydd Cynnwys Cyfoethog mewn grŵp.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth greu neu olygu cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, tudalen, cwis, neu faes llafur.

Nodwch: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu Option+F8 (Bysellfwrdd Mac).

Gweld y Bar Ochr Ychwanegu

Gweld y Bar Ochr Ychwanegu

Yn ddiofyn, mae’r bar ochr Ychwanegu’n dangos dolenni cyrsiau. I weld pob cwrs, grŵp, neu ffeiliau defnyddwyr sydd ar gael, cliciwch y gwymplen Ychwanegu (Add) [1] a dewiswch yr opsiwn Ffeiliau (Files) [2].

Gweld Ffeiliau

I weld ffeiliau cwrs, cliciwch y ddolen Ffeiliau Cwrs (Course Files) [1].

I weld eich ffeiliau defnyddiwr, cliciwch y ddolen Fy Ffeiliau (My Files) [2].  

Os ydych chi’n defnyddio’r Golygydd cynnwys Cyfoethog mewn grŵp, gallwch chi ddewis ffeil grŵp drwy glicio’r ddolen Ffeiliau Grŵp (Group Files) [3].

Trefnu Ffeiliau

Trefnu Ffeiliau

I drefnu’r ffeiliau sydd i’w gweld yn ôl math o ddelwedd, dogfen neu gyfryngau, cliciwch y gwymplen Pob Un (All) [1] a dewiswch y math o ffeil i drefnu ffeiliau [2].

Trefnu Ffeiliau

I drefnu’r ffeiliau sydd i’w gweld yn ôl dyddiad ychwanegu neu yn nhrefn yr wyddor, cliciwch y gwymplen Dyddiad Ychwanegu (Date Added) [1].

I chwilio am ffeil, rhowch enw’r ffeil yn y maes Chwilio (Search) [2]. Rhaid i chi roi o leiaf tri nod er mwyn i ganlyniadau chwilio ymddangos.

Dewis Ffeil

Gweld a Threfnu Ffeiliau

Cliciwch enw’r ffeil rydych chi eisiau ei chysylltu â’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Nodwch: Bydd y testun yn fflachio cyn troi’n hyperddolen.

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw (Save).

Nodiadau:

  • Mae’r tudalennau manylion cwisiau, tudalennau, trafodaethau, ac aseiniadau yn cynnwys botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).
  • Mae’r dudalen maes llafur yn cynnwys botwm Diweddaru Maes Llafur (Update Syllabus).
  • Mae ymatebion i drafodaethau yn cynnwys botwm Postio Ymateb (Post Reply).

Gweld Cynnwys

Gweld y cynnwys I weld y ffeil sydd wedi’i chysylltu, cliciwch y ddolen [1].

I lwytho’r ffeil i lawr, cliciwch yr eicon Llwytho i Lawr [2].

Nodwch: Mae dolenni i URL allanol yn dangos eicon Agored [3].