Sut ydw i’n creu hyperddolenni i gynnwys grŵp neu gwrs yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?

Wrth ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, gallwch chi fewnosod dolenni i gynnwys cwrs neu gynnwys grŵp. Efallai y byddwch chi’n gallu cysylltu â chynnwys mewn Tudalennau, Aseiniadau, Cwisiau, Cyhoeddiadau, Trafodaethau, a Modiwlau. Gallwch chi hefyd fewnosod dolenni, a fydd yn gweithredu fel dolenni Crwydro’r Cwrs neu ddolenni Crwydro’r Grŵp pan fyddwch chi’n clicio arnyn nhw.

Nodwch: I greu hyperddolenni i gynnwys grŵp neu ddolenni Crwydro’r Grŵp, rhaid i chi agor y Golygydd Cynnwys Cyfoethog mewn grŵp.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth greu neu olygu cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, tudalen, cwis, neu faes llafur.

Nodwch: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu Option+F8 (Bysellfwrdd Mac).

Dewiswch Gynnwys Grŵp neu Gwrs

Dewiswch Gynnwys Grŵp neu Gwrs

Defnyddiwch y ddewislen Ychwanegu i ddewis y cynnwys wedi’i gysylltu. Yn ddiofyn, mae’r gwymplen Ychwanegu yn dangos opsiynau Dolenni (Links) cynnwys [1]. Gallwch chi hefyd ychwanegu dolenni ffeiliau cyfryngau, delweddau, a dogfennau.

I chwilio am gynnwys grŵp neu gwrs, teipiwch o leiaf dri nod yn y maes Chwilio [2].

Mae eitemau cynnwys wedi’u grwpio yn ôl y math o gynnwys. I weld rhestr o eitemau cynnwys grŵp neu gwrs cliciwch yr eicon saeth wrth y math o gynnwys [3]. Yna cliciwch enw’r eitem grŵp neu gwrs rydych chi eisiau ei gysylltu â’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog [4].

Nodwch: Bydd y testun yn fflachio cyn troi’n hyperddolen.

Ychwanegu Cynnwys Grŵp neu Gwrs

Ychwanegu Cynnwys Grŵp neu Gwrs

I ychwanegu eitem cynnwys, agorwch yr adran cynnwys [1] a chlicio’r ddolen Ychwanegu un! (Add one!) [2].

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw (Save).

Nodiadau:

  • Mae’r tudalennau manylion cwisiau, tudalennau, trafodaethau, ac aseiniadau yn cynnwys botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).
  • Mae’r dudalen maes llafur yn cynnwys botwm Diweddaru Maes Llafur (Update Syllabus).
  • Mae ymatebion i drafodaethau yn cynnwys botwm Postio Ymateb (Post Reply).

Gweld Cynnwys

Gweld y cynnwys I weld y cynnwys cwrs sydd wedi’i gysylltu, cliciwch y ddolen sydd wedi’i mewnosod [1].

Nodwch: Mae dolenni i URL allanol yn dangos eicon Agored [2].