Bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cael ei derfynu mewn fersiwn yn y dyfodol. Gallwch alluogi'r nodwedd Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn yr opsiynau nodweddion cwrs.
Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys adnodd hygyrchedd sy'n gwirio gwallau hygyrchedd cyffredin yn y golygydd. Gall yr adnodd hwn eich helpu chi i lunio cynnwys ar gyfer cwrs gan ystyried priodoleddau hygyrchedd, ac mae ym mar dewislenni’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Mae’r adnodd hwn yn dilysu cynnwys sydd wedi’i greu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn unig. Mae modd i chi ddefnyddio adnoddau hygyrchedd eraill i ddilysu cynnwys ychwanegol yn Canvas hefyd.
Mae’r holl gydrannau wedi’u llunio yn unol â'r templed sydd yng Ngolygydd Thema'r sefydliad ac maent yn dilysu’r rheolau hygyrchedd canlynol:
Nodyn: O ran cyferbynnedd testun, mae’r Gwirydd Hygyrchedd yn dilysu lliw drwy ddefnyddio’r un cyfrifiadau â’r adnodd WebAIM ac yn dilysu yn erbyn templedi'r Golygydd Thema heb Arddulliau Cyferbynnedd Uchel. Fodd bynnag, rhaid galluogi Arddulliau Cyferbynnedd Uchel er mwyn dilysu a yw lliw dolen yn cael ei ddiystyru â llaw yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog gan ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.
cliciwch yr eicon Gwirydd Hygyrchedd.
Nodyn: Gan ddibynnu ar led ffenestr eich porwr, efallai y bydd yn rhaid i chi sgrolio'r bar dewislenni yn llorweddol i weld yr eicon.
Ar ôl canfod problem, mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn nodi’r ardal yr effeithiwyd arni [1]. Mae'r bar ochr yn dangos y priodoledd hygyrchedd [2] ac esboniad o’r gwall [3]. I gael rhagor o wybodaeth am y priodoledd hygyrchedd, cliciwch yr eicon Gwybodaeth [4].
Os yw’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys mwy nag un problem [1], gallwch weld yr holl broblemau drwy glicio y botymau Blaenorol (Previous) neu Nesaf (Next) [2].
I ddatrys problem, dylech gwblhau’r dasg fel y nodir yn y bar ochr [1]. Er enghraifft, os oes angen ychwanegu capsiwn at dabl i ddatrys y broblem, bydd y bar ochr yn dangos maes testun lle gallwch chi roi capsiwn.
Ar ôl i chi orffen eich newidiadau, cliciwch y botwm Trwsio (Apply Fix) [2].
Bydd y Gwirydd Hygyrchedd yn gwneud y gwaith trwsio ac yn dangos yr wybodaeth am y broblem nesaf. Parhau i adolygu a thrwsio unrhyw broblemau sydd wedi’u canfod yn y golygydd.
Ar ôl i’r holl broblemau gael eu trwsio, neu os nad oes problemau wedi’u canfod yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, bydd y bar ochr yn dangos nad oes problemau a bydd yn cau’n awtomatig.