Sut ydw i’n rheoli fy newisiadau ar gyfer gosodiadau hysbysiadau Canvas fel addysgwr?

Mae Canvas yn cynnwys set o osodiadau diofyn ar gyfer hysbysiadau y gallwch eu cael mewn perthynas â'r cyrsiau. Fodd bynnag, gallwch newid y gosodiadau diofyn drwy bennu eich gosodiadau eich hun ar gyfer hysbysiadau. Dim ond i chi y mae’r gosodiadau hyn yn berthnasol; dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio i reoli sut mae diweddariadau am y cwrs yn cael eu hanfon at ddefnyddwyr eraill. I gael gwybod mwy am yr holl hysbysiadau, gosodiadau diofyn a’r hyn sy’n sbarduno hysbysiadau, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Hysbysiadau Canvas.

Caiff hysbysiadau eu hanfon fel un o bedwar math: rhoi gwybod i mi ar unwaith, crynodeb dyddiol, crynodeb wythnosol neu beidio ag anfon. Os byddwch chi’n newid gosodiad, bydd yn newid ar unwaith yn eich cyfrif.  

Mae’r gosodiadau o ran hysbysiadau yn berthnasol i bob un o’ch cyrsiau oni bai eich bod chi’n gosod gosodiadau ar gyfer hysbysiadau ar gyfer cyrsiau unigol.

Efallai y byddwch yn gallu ymateb yn uniongyrchol i hysbysiadau e-bost y tu allan i Canvas. Caiff ymatebion eu diweddaru ym Mlwch Derbyn Canvas. Fodd bynnag, dylech nodi na fydd atodiadau sy’n cael eu hychwanegu fel rhan o ateb allanol yn cael eu cynnwys gyda’r neges sy’n ymddangos yn Canvas.

Nodiadau:

  • Caiff hysbysiadau eu hanfon i ddulliau cysylltu Canvas yn unol â’r hyn a nodir yn eich cyfrif. Ni allwch dderbyn hysbysiadau os na fydd eich dulliau cysylltu wedi cael eu cadarnhau. Os nad ydych chi’n derbyn hysbysiadau Canvas, mae angen i chi gadarnhau eich dulliau cysylltu yn Canvas.
  • Efallai y byddwch chi’n gallu dewis gosodiadau hysbysiadau ar gyfer cwrs unigol. Dysgwch fwy am reoli hysbysiadau ar gyfer cwrs unigol.

Agor Hysbysiadau

agor hysbysiadau

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Hysbysiadau (Notifications) [2].

Gweld Gosodiadau Hysbysiadau Cyfrif

Ar y dudalen Gosodiadau Hysbysiadau, gallwch chi reoli’r gosodiadau hysbysiadau ar gyfer eich cyfrif Canvas a/neu reoli’r gosodiadau hysbysiadau ar gyfer cyrsiau unigol gan ddefnyddio’r gwymplen Gosodiadau.

Yn ddiofyn, mae’r gwymplen Gosodiadau’n dangos yr opsiwn Cyfrif (Account) [1]. Mae baner yn ymddangos yn dweud bod gosodiadau hysbysiadau lefel y cyfrif yn berthnasol i’ch holl gyrsiau canvas, ond mae unrhyw osodiadau hysbysiadau penodol i gwrs yn disodli gosodiadau hysbysiadau’r cyfrif [2]. I anwybyddu’r neges, cliciwch yr eicon Cau [3].

Mae baner yn ymddangos pan fo negeseuon dyddiol ac wythnosol yn cael eu darparu [4]. I anwybyddu’r neges, cliciwch yr eicon Cau [5].

Gweld y mathau o hysbysiadau lefel y cyfrif [6] a’ch dulliau cysylltu sydd wedi’u rhestru [7].

Mae gan bob hysbysiad ddewis amlder danfon diofyn. I weld yr amlder danfon hysbysiad presennol ar gyfer math o hysbysiad a’r dull cysylltu, hofrwch dros yr eicon hysbysiad [8].

Gweld Manylion Hysbysiad

Gweld Manylion Hysbysiad

I weld manylion hysbysiad, ewch ati i hofran dros yr enw’r hysbysiad.

Gosod Gosodiadau Hysbysiadau

Mae gosodiad diofyn wedi'i bennu ar gyfer pob hysbysiad. I newid hysbysiad ar gyfer dull cysylltu, dewch o hyd i'r hysbysiad a chlicio eicon y dull cysylltu [1].

I gael hysbysiad ar unwaith, dewiswch yr opsiwn Hysbysu’n syth (Notify immediately) [2]. Mae’n bosib y bydd oedi o hyd at awr yng nghyswllt yr hysbysiadau hyn, rhag ofn y bydd addysgwr yn gwneud newidiadau ychwanegol. Bydd hyn yn sicrhau nad ydych chi’n cael eich llethu gan lawer o hysbysiadau mewn cyfnod byr.

I gael hysbysiad dyddiol, dewiswch yr opsiwn Crynodeb dyddiol (Daily summary) [3].

I gael hysbysiad wythnosol, dewiswch yr opsiwn Crynodeb wythnosol (Weekly summary) [4]. Caiff dyddiad ac amser eich hysbysiadau wythnosol eu postio ar waelod y dudalen hysbysiadau.

Os nad ydych chi eisiau cael hysbysiad, dewiswch yr opsiwn Hysbysiadau wedi diffodd (Notifications off) [5].

Mae mathau o hysbysiadau anghydnaws yn dangos yr eicon Anghydnaws [6]. Does dim modd galluogi mathau o hysbysiadau anghydnaws.

Nodiadau:

  • Bydd pob dewis sydd wedi’i osod o ran hysbysiadau yn cael ei roi ar waith ar gyfer pob un o’ch cyrsiau yn awtomatig. Ond, os ydych chi’n rheoli gosodiadau hysbysiadau ar gyfer cwrs unigol, rhaid i hysbysiadau ar gyfer y cwrs hwnnw barhau i gael eu rheoli yn y cwrs.
  • Does dim modd dewis crynodeb dyddiol na chrynodeb wythnosol ar gyfer hysbysiadau Twitter.
  • Bydd dulliau cysylltu heb eu cofrestru yn ymddangos yn y gosodiadau ar gyfer hysbysiadau, ond ni fyddwch yn cael hysbysiadau nes byddwch yn cadarnhau'r cofrestriad.

Gweld Hysbysiad Preifatrwydd

Gweld Hysbysiad Preifatrwydd

Os ydych chi wedi galluogi hysbysiad ar gyfer cyfeiriad e-bost y tu allan i’ch sefydliad, efallai y byddwch yn gweld rhybudd preifatrwydd. Gallwch gau'r rhybudd drwy glicio'r botwm Iawn (OK). Ar ôl i’r rhybudd gael ei ddangos, ni fydd yn cael ei ddangos eto.

Gosod Hysbysiadau Marchnata

Gosod Hysbysiadau Marchnata

Os ydych chi wedi galluogi hysbysiadau marchnata yn yr ap Canvas Teacher, gallwch reoli eich gosodiadau yn y golofn Hysbysiadau Marchnata. Cofiwch mai dim ond ar unwaith neu ddim o gwbl y mae modd anfon hysbysiadau marchnata i’ch dyfais symudol. Does dim modd dewis cael hysbysiadau dyddiol nac wythnosol.  

Hefyd, bydd gosodiadau yn yr ap yn diystyru’r gosodiadau sydd wedi’u gosod ar y dudalen hysbysiadau.

Nodyn: Nid yw rhai categorïau ar gael er gyfer hysbysiadau marchnata. Mae’r manylion llawn am yr hysbysiadau y mae hysbysiadau marchnata yn gallu delio â nhw ar gael yn y ddogfen adnoddau Hysbysiadau Canvas.

Gosod Hysbysiadau Slack

Mae eich sefydliad wedi galluogi Slack fel dull cysylltu, gallwch chi ychwanegu Slack fel dull cysylltu a derbyn hysbysiadau negeseuon yn uniongyrchol gan Canvas yn Slack.

Mae hysbysiadau Slack yn gallu amrywio yn dibynnu ar eich gosodiadau hysbysiadau Slack.