Sut ydw i’n graddio cwis yn New Quizzes?

Gallwch chi raddio cwisiau New Quizzes yn defnyddio SpeedGrader. Mae’r rhan fwyaf o eitemau cwis yn cael eu graddio’n awtomatig ar ôl i fyfyriwr gyflwyno’r cwis. Ond rhaid i gwestiynnau llwytho ffeil i fyny a thraethodau gael eu graddio gennych chi.

Mae'r wers hon yn disgrifio sut i gael mynediad at SpeedGrader o’r Llyfr Graddau.

Nodiadau:

  • Os nad yw’r cwis yn ymddangos yn y Llyfr Graddau ac nad yw werth unrhyw bwyntiau, efallai fod manylion aseiniad y cwis wedi’i osod i adael y cwis o’r Llyfr Graddau.
  • Allwch chi ddim graddio cwisiau New Quizzes mewn cyrsiau sydd wedi dirwyn i ben.
  • Nid yw graddau Cwisiau Newydd gydag ymrestriadau sydd wedi dod i ben yn cael eu hanfon i Lyfr Graddau Canvas.
  • Os ydych chi’n defnyddio Cwisiau Newydd, dysgwch sut i raddio un cwestiwn cwis ar y tro.
  • Os yw graddio’n ddienw wedi’i alluogi, dydych chi ddim yn gweld enwau’r myfyrwyr wrth raddio.

Agor Graddau

Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).

Agor SpeedGrader

SpeedGrader o'r Llyfr Graddau Newydd.

I agor SpeedGrader, hofrwch dros bennawd y golofn aseiniad a chlicio’r eicon Opsiynau (Options) [1]. Yna cliciwch y ddolen SpeedGrader [2].

Gweld SpeedGrader

Gweld y cwis yn SpeedGrader [1]. Wrth raddio cwisiau, gallwch chi ddefnyddio opsiynau dewislen [2], newid myfyrwyr [3], newid cyflwyniadau [4], a gadael sylwadau aseiniadau [5] yn SpeedGrader. Dysgwch sut i ddefnyddio SpeedGrader.

Gweld Cwestiynau sydd Angen eu Hadolygu

Gweld Cwestiynau sydd Angen eu Hadolygu

Os oes unrhyw gwestiynau angen eu graddio eich hun, bydd y dudalen Canlyniadau yn dangos neges rhybudd yn rhestru’r cwestiynau i’w hadolygu. Rhaid i gwestiynau llwytho ffeil i fyny a thraethodau gael eu graddio gennych chi.

Gweld Canlyniadau

Gweld Canlyniadau

Mae canlyniadau cwisiau’n cynnwys y sgôr canran [1], sgôr pwyntiau [2], a’r amser i gwblhau’r ymgais [3].

Graddio Eitem

Graddio Eitem

Mae gan eitemau sydd angen eu graddio gennych chi forder llwyd [1]/

I adael sylwadau ychwanegol ar yr eitem, cliciwch yr eicon Comment [2]. I roi pwyntiau llawn i fyfyriwr am ateb, cliciwch y botwm Tic (Checkmark) [3]. I roi dim pwyntiau i fyryriwr am ateb, cliciwch y botwm X [4]. Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r botymau Saeth (Arrow) i gynyddu neu leihau’r sgôr [5].

Ailraddio Eitem

Ailraddio Eitem

Gallwch chi hefyd ailraddio eitemau cwis sydd wedi cael eu graddio’n barod.

Neilltuo Pwyntiau Ystumio

Yn y maes Pwyntiau Ystumio ar waelod y ffenestr, rhowch nifer y pwyntiau rydych chi eisiau eu hychwanegu at sgôr y cwis [1]. Gallwch chi hefyd roi pwyntiau negyddol.

Pan fyddwch chi’n barod i newid sgôr cwis y myfyriwr, cliciwch y botwm Diweddaru (Update) [2].