Sut ydw i’n plannu delweddau o Canvas yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?
Bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cael ei derfynu mewn fersiwn yn y dyfodol. Gallwch alluogi'r nodwedd Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn yr opsiynau nodweddion cwrs.
Gallwch lwytho ffeiliau delwedd i fyny i’ch ffeiliau yn Canvas, a’u plannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Hefyd, gallwch ychwanegu tagiau amgen at eich lluniau er mwyn bod yn fwy hygyrch.
Fel addysgwr, mae gennych chi’r opsiwn i lwytho delweddau i fyny i’ch ffeiliau cwrs gan ddefnyddio’rDewisydd Cynnwys. Os oes newid yn cael ei wneud i’r ddelwedd yn eich ffeiliau personol ar ôl iddi gael ei phlannu, yna ni fydd y ddelwedd rydych chi wedi’i hychwanegu at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor) yn newid.
Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog gan ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.
Agor Delwedd

Cliciwch yr eicon Delwedd.
Dewis Tab Canvas

Cliciwch y tab Canvas.
Agor Ffeiliau Cwrs neu Ffeiliau Personol

Gallwch ddewis plannu delweddau sydd yn eich ffeiliau cwrs [1] neu yn eich ffeiliau personol [2]. Fel addysgwr, gallwch blannu unrhyw ddelwedd o’ch ffeiliau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor), gan gynnwys delweddau mewn ffolderi nad oes modd i fyfyrwyr eu gweld.
Nodyn: Wrth gael mynediad at ffeiliau cwrs, dim ond delweddau cyhoeddus sydd ar gael i’r cwrs cyfan fydd myfyrwyr yn gallu eu gweld.
Dewis Delwedd

I blannu delwedd sydd wedi’i llwytho i fyny’n barod, cliciwch y ddelwedd rydych chi am ei phlannu.
Llwytho Delwedd i Fyny

I lwytho delwedd i fyny i’w phlannu, cliciwch y botwm Llwytho Ffeil i Fyny.
Dewis Ffeil

Yn y blwch deialog, dewiswch ffeil i’w llwytho i fyny [1]. Cliciwch y botwm Agor (Open) [2].
Gweld Ffeil

Gallwch weld y ffeil rydych wedi’i llwytho i fyny.
Mewnosod Testun Amgen

Bydd y maes Priodoleddau (Attributes) yn llenwi’r maes Testun amgen (Alt text) [1], sef enw’r ddelwedd. I weld yn well, rhowch ddisgrifiad o gynnwys y ddelwedd. I ychwanegu’r ddelwedd fel addurn, cliciwch y blwch ticio Delwedd Addurniadol (Decorative image) [2]. Os yw’r blwch ticio Delwedd Addurniadol (Decorative image) wedi’i ddewis, yna bydd y maes testun amgen yn llwyd.
Nodyn: Os ydych chi am gynnwys teitl delwedd, a fydd yn ymddangos pan fydd defnyddiwr yn hofran dros y ddelwedd, plannwch y ddelwedd ac yna newid i’r Golygydd HTML. Rhaid mynd ati i ychwanegu tagiau teitl at y cod HTML.
Newid Dimensiynau Priodoleddau Delwedd

Bydd dimensiynau diofyn y ddelwedd hefyd yn cael eu llenwi’n awtomatig. Cyfeirir at ddimensiynau mewn picseli wedi eu diffinio yn ôl lled ac uchder.
I newid dimensiynau’r ddelwedd, teipiwch sawl picsel yr hoffech chi ei ddefnyddio ar gyfer lled newydd y ddelwedd [1]. Yna pwyswch yr allwedd Tab ar fysellfwrdd eich cyfrifiadur. Gan fod Canvas yn rheoli cymhareb agwedd eich delwedd, bydd uchder y ddelwedd yn cael ei newid yn awtomatig [2].
Plannu Delwedd

Cliciwch y botwm Diweddaru (Update).
Nodyn: Fel llwybr byr ar gyfer y dyfodol, os nad oes angen i chi newid unrhyw un o briodoleddau eich delwedd, dewch o hyd i’ch delwedd a chliciwch ddwywaith ar enw eich delwedd. Bydd y ddelwedd yn cael ei phlannu’n syth i’ch neges.
Gweld Delwedd wedi’i Phlannu

Gweld y ddelwedd rydych wedi’i phlannu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Golygu Priodweddau Delwedd

I olygu delwedd sy’n bodoli’n barod, cliciwch y ddelwedd [1], yna cliciwch yr eicon Delwedd (Image) [2]. Bydd y ffenestr mewnosod/plannu yn ymddangos er mwyn gwneud newidiadau.
Pan fyddwch chi’n golygu delwedd sy’n bodoli’n barod, bydd y tab URL yn dangos lle mae’r ddelwedd Canvas; ond, bydd y tab Canvas yn parhau i ddangos y ffeil. Bydd y priodoleddau yn aros yr un fath ym mhob tab a bydd modd eu golygu yn ôl yr angen.
Os ydych chi am ddisodli eich delwedd Canvas, cliciwch y tab Canvas [3] a dod o hyd i ddelwedd arall.
Newid Maint Delwedd yn Weledol

Hefyd, gallwch ddefnyddio’r trinwyr o amgylch y ddelwedd i newid maint y ddelwedd yn weledol. I wneud hyn, cliciwch y ddelwedd, yna hofran dros un o’r blychau terfyn gwyn nes bod eich cyrchwr yn troi’n saeth. Llusgwch a newidiwch faint y ddelwedd. Cofiwch y bydd y ddelwedd yn cadw ei chymhareb agwedd bob amser er mwyn edrych yn iawn
Nodyn: Nid yw’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn delio â thocio delweddau.