Sut ydw i’n recordio fideo yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?

Bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cael ei derfynu mewn fersiwn yn y dyfodol. Gallwch alluogi'r nodwedd Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn yr opsiynau nodweddion cwrs.

Gallwch ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i recordio fideo. Gallwch recordio cyfryngau am unrhyw hyd, ond fe argymhellir recordiadau fideo byrrach. Os yw eich fideo yn hirach na 15 munud, efallai yr hoffech chi ystyried recordio fideo a’i lwytho i fyny gan ddefnyddio darparwr allanol. Mae angen mwy o amser i rendro cyfryngau hirach, ac os nad oes gennych gysylltiad sefydlog â'r rhyngrwyd, gall hynny darfu ar y broses.

Caiff y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ei ddefnyddio mewn nodweddion sy’n delio â'r golygydd (Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau, Cwisiau neu Feysydd Llafur).

Mae fideos Canvas hefyd yn gallu delio â ffeiliau capsiwn. Ar ôl i chi recordio eich fideo a’i gadw, gallwch ddysgu sut mae ychwanegu capsiynau at fideo.

Nodyn: Dim ond i Chrome a Firefox y mae recordio fideo HTML5 yn berthnasol. Os ydych chi’n defnyddio Safari, rhaid i chi ddefnyddio recordio fideo Flash.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog gan ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.

Agor Adnodd Gwneud Sylw ar Gyfryngau

Agor Adnodd Gwneud Sylw ar Gyfryngau

Cliciwch yr eicon Cyfryngau (Media).

Dewis Opsiwn Recordio Fideo

Dewis Opsiwn Recordio Fideo

Os oes gan eich cyfrifiadur we-gamera, bydd Canvas yn dewis eich camera diofyn yn awtomatig. Ond, os oes gennych chi fwy nag un gwe-gamera, gallwch ddewis eich gwe-gamera drwy glicio’r botwm Gwe-gamera.

Dewis Opsiwn Sain

Dewis Opsiwn Sain

Bydd Canvas hefyd yn dewis eich meicroffon diofyn. Ond, os oes gennych chi fwy nag un meicroffon, gallwch ddewis eich hoff feicroffon drwy glicio’r botwm Meicroffon .

Dechrau’r Recordiad

Dechrau’r Recordiad

I ddechrau recordio fideo, cliciwch yr eicon Dechrau Recordio (Start Recording).

Stopio’r Recordiad

Stopio’r Recordiad

Bydd amser [1] a lefel sain [2] eich recordiad yn diweddaru’n gyson wrth i chi recordio. I stopio recordio, cliciwch y botwm Gorffen (Finish)[3].

Adolygu’r Recordiad

Adolygu’r Recordiad

I adolygiadau eich fideo, cliciwch y botwm Chwarae (Play) [1]. I gadw eich fideo, cliciwch y maes testun [2], rhowch deitl i’ch fideo, yna cliciwch y botwm Cadw (Save) [3]. I ail-recordio eich fideo, cliciwch y botwm Dechrau eto (Start Over) [4].

Nodyn: Mae'n bosib y bydd fideos hir yn cymryd bach o amser i gadw. Peidiwch â gadael y dudalen nes bod eich fideo wedi cadw.

Gwylio’r Fideo

Gwylio’r Fideo

Gweld eich fideo wedi ei roi yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn awtomatig.

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw.

Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog gydag Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau a Chwisiau, gallwch ddewis Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish). Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog ar y tudalennau Maes Llafur a Thrafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw yn ymddangos fel Diweddaru Maes Llafur neu Postio Ymateb.