Sut ydw i’n rheoli nodweddion newydd yn fy nghyfrif defnyddiwr fel addysgwr?

Mae Canvas yn creu nodweddion newydd yn barhaus er mwyn gwella profiad defnyddwyr. Bydd y mwyafrif o’r gwelliannau yn cael eu cyflwyno fel rhan o’n cylch rhyddhau rheolaidd. Fodd bynnag, gall rhai nodweddion effeithio ar eich rhyngweithio personol â Canvas.

Mae’r wers hon yn rhoi trosolwg o sut mae rheoli gosodiadau nodweddion ar lefel defnyddiwr ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr. Does gan weinyddwyr nac addysgwyr ddim rheolaeth dros nodweddion lefel y defnyddiwr.

I weld gosodiadau nodweddion penodol sydd ar gael yn Canvas, ewch i’r wers nodweddion cyfrif defnyddiwr.

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Gweld Gosodiadau Nodweddion

Bydd nodweddion sydd ar gael yn ymddangos yn yr adran Gosodiadau Nodweddion.

Hidlo'r Opsiynau Nodwedd

Hidlo’r Opsiynau Nodwedd

I hidlo yn ôl pob nodwedd, nodweddion wedi'u galluogi neu nodweddion wedi'u hanalluogi, cliciwch y gwymplen Hidlo (Filter).

Chwilio Gosodiadau Nodweddion

Chwilio Gosodiadau Nodweddion

I chwilio am osodiad nodwedd, teipiwch allweddair yn y maes Chwilio (Search).

Gweld Mathau o Nodweddion

Gweld Mathau o Nodweddion

Mae pob nodwedd yn cynnwys disgrifiad o'r nodwedd. I ehangu blwch y nodwedd a dangos y disgrifiad, cliciwch yr eicon saeth.

Gweld Tagiau Nodweddion

Gweld Tagiau Nodweddion

Mae tagiau nodweddion yn helpu i adnabod cyflwr pob nodwedd. Mae nodwedd heb label yn golygu bod y nodwedd yn sefydlog ac yn barod i’w defnyddio yn eich amgylchedd cynhyrchu [1]. Efallai y bydd nodweddion hefyd yn cynnwys tag beta [2], sy’n golygu bod y nodwedd ar gael i’w defnyddio yn eich amgylchedd cynhyrchu ond ei bod yn parhau i gael ei phrofi ar gyfer defnyddioldeb a hygyrchedd. Gall galluogi nodwedd beta achosi ymddygiad anfwriadol yn eich cyfrif Canvas.

Nodyn: O bryd i’w gilydd efallai y bydd nodweddion yn cynnwys tag Datblygiad (Development), sy’n golygu bod y nodwedd ar gael i’w phrofi yn eich amgylchedd beta yn unig, ac nad yw ar gael ar gyfer eich amgylchedd cynhyrchu. Nid yw pob sefydliad yn caniatáu profi mewn amgylchedd beta.

Gweld Cyflyrau Nodweddion

Gallwch chi ddewis i alluogi neu analluogi gosodiadau nodwedd.

I alluogi neu analluogi nodwedd, cliciwch eicon Cyflwr y nodwedd [1].

I roi’r nodwedd ar waith, cliciwch yr opsiwn Wedi Galluogi (Enabled) [2]. Mae nodweddion sydd wedi’u galluogi yn dangos yr eicon Wedi Galluogi [3].

I ddiffodd y nodwedd, cliciwch yr opsiwn Wedi Analluogi (Disabled) [4]. Mae nodweddion sydd wedi’u hanalluogi yn dangos yr eicon Wedi Analluogi [5].