Sut ydw i'n ychwanegu grŵp apwyntiadau Trefnydd at galendr cwrs?

Os yw’r nodwedd Trefnydd wedi’i galluogi ar gyfer eich sefydliad, gallwch greu grwpiau o apwyntiadau yn y Trefnydd. Mae grwpiau apwyntiadau yn creu bloc amser i fyfyrwyr drefnu cyfarfod â chi. Gall myfyrwyr gofrestru ar gyfer amser apwyntiad yn eu calendrau eu hunain.

Bydd apwyntiadau’n ymddangos yn eich calendr ar ôl i slot amser gael ei neilltuo i fyfyriwr neu grŵp. Bydd manylion apwyntiad yn cael eu cynnwys hefyd wrth i chi allgludo’r calendr gan ddefnyddio ffrwd Calendr.

Nodiadau:

  • Os mai dim ond rhwng dyddiad dechrau a dyddiad gorffen y cwrs y gall defnyddwyr gymryd rhan yn y cwrs, fydd dim modd golygu na dileu digwyddiadau’r Trefnydd ar ôl y dyddiad y daw’r cwrs i ben.
  • Mae’r adnodd Trefnydd yn ddewisol. Os nad yw wedi’i alluogi’n barod ar gyfer eich cyfrif, cysylltwch â’ch gweinyddwr Canvas.
  • Pan fydd addysgwr neu gynorthwyydd dysgu yn creu grŵp apwyntiadau ar gyfer cwrs cyfan, gall holl ddefnyddwyr adran y cwrs weld y grŵp apwyntiadau. Fodd bynnag, os bydd grŵp apwyntiadau yn cael ei greu ar gyfer adran benodol neu’n cael ei ychwanegu gan hyfforddwr neu gynorthwyydd dysgu sydd wedi’i gyfyngu i adran, dim ond defnyddwyr yn yr adran honno fydd yn gallu gweld y grŵp apwyntiadau.

Agor Calendr

Agor Calendr

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).

Ychwanegu Digwyddiad

Yn y rhestr Calendrau, cliciwch y blwch ticio ar gyfer y calendr rydych chi eisiau ychwanegu’r grŵp apwyntiadau ato [1]. Mae modd ychwanegu grwpiau apwyntiadau at fwy nag un calendr.

Cliciwch unrhyw ddyddiad ar y calendr i ychwanegu digwyddiad [2]. Neu, cliciwch y saethau drws nesaf i enw’r mis i fynd i fis gwahanol [3] a dewis dyddiad.

Os nad ydych chi am ddod o hyd i'r dyddiad eich hun, gallwch glicio’r eicon Ychwanegu [4].

Agor Grŵp Apwyntiadau

Agor Grŵp Apwyntiadau

Cliciwch y tab Grŵp Apwyntiadau (Appointment Group).

Creu Enw a Lleoliad

Creu Enw a Lleoliad

Teipiwch enw’r apwyntiad yn y maes enw [1]. Teipiwch leoliad yr apwyntiad yn y maes lleoliad [2].

Dewiswch Galendrau

Dewiswch Galendrau

Cliciwch y botwm Dewiswch Galendrau (Select Calendars) [1]. I ddewis y cyrsiau neu’r adrannau lle rydych chi eisiau dangos y grŵp apwyntiadau, cliciwch y blwch ticio wrth ymyl enw’r cwr neu enw’r adran [2]. I gau rhestr Calendr, cliciwch y botwm Gorffen (Done) [3].

Os ydych chi eisiau dewis adrannau penodol o’ch cwrs, cliciwch yr eicon saeth [4].

Nodiadau:

  • Does dim modd addasu'r calendr pan fydd y grŵp apwyntiadau wedi’i gadw. Ond, mae modd ychwanegu calendrau ychwanegol at y grŵp apwyntiadau gwreiddiol.
  • Os nad yw’r cwrs neu’r adran rydych chi eisiau eu dewis yn ymddangos yn y rhestr Dewis Calendrau, ewch yn ôl i’r calendr a chliciwch y blwch ticio ar gyfer y cwrs neu adran yn y rhestr Calendrau.

Caniatáu i Fyfyrwyr Gofrestru mewn Grwpiau

Caniatáu i Fyfyrwyr Gofrestru mewn Grwpiau

Os ydych chi wedi creu o leiaf un set grwpiau yn eich cwrs, gall myfyrwyr gofrestru mewn grwpiau drwy glicio’r blwch ticio Gwneud i fyfyrwyr gofrestru fel grwpiau (Have students sign up in groups) [1]. Dewiswch enw’r categori grŵp rydych am ei ddefnyddio i gofrestru fel grŵp [2].

Nodyn: Er mwyn i’r opsiwn grwpiau fod ar gael, mae gofyn eich bod chi wedi dewis y calendr ar gyfer y cwrs cyfan. Does dim modd i chi ddewis calendr ar gyfer adran benodol gan nad yw Canvas yn gallu delio ag adrannau mewn grwpiau ar hyn o bryd.

Caniatáu Cofrestru Arsyllwr

Caniatáu Cofrestru mewn Grwpiau

I adael i arsyllwr gofrestru ar gyfer apwyntiadau, cliciwch y blwch ticio Gadael i arsyllwyr gofrestru (Allow observers to sign up).

Gosod Ystod Amser Apwyntiad

Gosod Ystod Amser Apwyntiad

Yn y maes dyddiad [1], rhowch ddyddiad yr apwyntiad. Gallwch chi hefyd ddewis dyddiad drwy glicio’r eicon Calendr.

Gosodwch ystod amser yr apwyntiad drwy deipio yn y maes ystod amser [2]. Rhaid i chi gynnwys o leiaf un slot amser.

Gallwch rannu’r ystod amser yn sawl slot, drwy roi’r amser rhannu yn y maes amser [3]. Er enghraifft, os ydych chi am greu cyfarfodydd o chwarter awr rhwng 2:00pm a 5:00pm, rhowch y rhif 15.

I greu’r slotiau amser, cliciwch y botwm Mynd (Go) [4].

Addasu Amseroedd Apwyntiad

Addasu Amseroedd Apwyntiad

Gallwch chi fynd ati i newid amser unrhyw apwyntiad sydd wedi’i greu gan y broses o rannu slotiau amser. Os ydych chi am dynnu amser apwyntiad, cliciwch yr eicon Tynnu.

Nodiadau:

  • Does dim modd addasu dyddiad yr apwyntiad, ystod amser na slotiau apwyntiadau ar ôl i’r grŵp apwyntiadau gael ei gadw. Fodd bynnag, mae modd ychwanegu dyddiadau ychwanegol, ystod amser a slotiau apwyntiadau at y grŵp apwyntiadau gwreiddiol.
  • Rhaid i chi greu o leiaf un slot amser ar gyfer pob grŵp apwyntiadau.

Gosod Opsiynau Apwyntiad

Gosod Opsiynau Apwyntiad

Fe allwch chi gyfyngu faint o ddefnyddwyr sy’n gallu cofrestru ar gyfer slot amser drwy glicio’r blwch ticio Cyfyngu pob slot amser (Limit each time slot), a theipio nifer y slotiau amser yn y maes cyfyngiad (limit) [1]. Os ydych chi wedi dewis yr opsiwn i fyfyrwyr gofrestru mewn grwpiau, bydd Cyfyngu pob slot amser i x grŵp (Limit each time slot for x groups) yn ymddangos yn y maes hwn.

Er mwyn i fyfyrwyr y cwrs allu gweld y slotiau apwyntiadau, cliciwch y blwch ticio Gadael i fyfyrwyr weld pwy sydd wedi cofrestru ar gyfer slotiau amser sy’n dal ar gael (Allow students to see who has signed up for time slots that are still available) [2]. Wrth ddewis yr opsiwn hwn, bydd myfyrwyr hefyd yn gallu gweld y sylwadau y bydd myfyrwyr eraill yn eu hychwanegu at eu hapwyntiadau.

Os ydych chi am gyfyngu nifer yr apwyntiadau sydd ar gael, cliciwch y blwch ticio Rhwystro rhag mynd i fwy na [rhif] apwyntiad (Limit participants to attend [number] appointment(s)) [3].

Nodyn: Wrth ddefnyddio’r opsiwn cofrestru fel grŵp, dim ond un aelod o’r grŵp fydd angen cofrestru ar gyfer slot amser ar ran gweddill y grŵp. Bydd pob aelod o’r grŵp yn gweld yr apwyntiad ar eu calendr grŵp eu hunain.

Ychwanegu Manylion Apwyntiad

Ychwanegu Manylion Apwyntiad

Os ydych chi am ychwanegu manylion am y grŵp apwyntiadau, dylech eu teipio yn y maes manylion.

Cyhoeddi Grŵp Apwyntiadau

Cyhoeddi Grŵp Apwyntiadau

Cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish).

Gweld Calendr

Gallwch weld amseroedd a dyddiadau apwyntiadau yng nghalendr y cwrs. Gall myfyrwyr gadw slotiau amser. Os yw wedi’i ganiatáu, gall arsyllwyr hefyd gadw slotiau amser Bydd slotiau amser sydd wedi’u cadw gan ddefnyddwyr yn ymddangos mewn lliw solet.

Nodyn: Os ydych chi wedi ychwanegu grŵp apwyntiadau at fwy nag un cwrs, fydd slotiau apwyntiadau ond yn ymddangos yn y calendr ar gyfer y cwrs cyntaf sydd i’w weld yn y grŵp apwyntiadau.