Sut ydw i’n cysylltu myfyriwr â’m cyfrif defnyddiwr fel arsyllwr?

Os ydych chi wedi cofrestru i gael cyfrif Canvas fel rhiant, gallwch chi ychwanegu myfyrwyr i’w harsyllu yn yr un ysgol. Ar ben hynny, os oes ysgol wedi creu cyfrif arsyllwr sy’n gysylltiedig â myfyriwr ar eich cyfer, gallwch chi ychwanegu myfyrwyr i’w harsyllu.

I gysylltu chi eich hun â myfyriwr, bydd angen i chi roi cod paru sy’n benodol i’r myfyriwr. Mae codau paru yn gwahaniaethu rhwng llythrennau bach a mawr, ac maen nhw’n ddilys am saith niwrnod. Gall myfyrwyr greu codau paru o’u Gosodiadau Defnyddiwr. Yn dibynnu ar hawliau ysgol, maen bosib y bydd gweinyddwyr ac addysgwyr yn gallu creu codau paru hefyd. Am ragor o wybodaeth am y codau paru, edrychwch ar y PDF Codau Paru – Cwestiynau Cyffredin.

Gallwch chi hefyd dynnu myfyrwyr sy’n cael eu harsyllu o’r dudalen Arsyllu.

Nodiadau:

  • Does dim modd i chi ychwanegu myfyrwyr os nad yw eu cyfrifon yn yr un ysgol â chi (URL Canvas). I arsyllu myfyrwyr mewn ysgol arall, rhaid i chi gofrestru ar gyfer cyfrif gan ddefnyddio URL Canvas yr ysgol honno.
  • Os nad ydych chi’n gallu cael mynediad at bob cwrs myfyriwr, fydd yr opsiwn i gysylltu â myfyrwyr ychwanegol ddim ar gael i chi.

Agor Gosodiadau Cyfrif

Agor Gosodiadau Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Agor Arsyllu

Agor Arsyllu

Yn y ddewislen Crwydro - Defnyddiwr (User Navigation), cliciwch y ddolen Arsyllu (Observing).

Ychwanegu Myfyriwr

Ychwanegu Myfyriwr

Teipiwch y cod paru yn y maes Cod Paru Myfyriwr (Student Pairing Code) [1] a chlicio’r botwm Ychwanegu Myfyriwr (Add Student) [2].

Gweld Myfyriwr

Gweld Myfyriwr

Gallwch weld y myfyriwr sydd wedi’i baru.

Tynnu Myfyriwr

Tynnu Myfyriwr

I roi’r gorau i arsyllu myfyriwr, cliciwch y ddolen Tynnu (Remove).

Cadarnhau’r Tynnu

Cadarnhau’r Tynnu

I gadarnhau eich bod chi eisiau tynnu myfyriwr o’ch rhestr arsyllu, cliciwch y botwm Iawn (OK).