Sut ydw i’n rhannu adnodd â Commons?

Gallwch rannu aseiniadau, modiwlau, cwisiau, tudalennau a thrafodaethau yn Canvas â Commons.

I rannu holl gynnwys cwrs â Commons, dysgwch sut i rannu cwrs â Commons.

I addasu adnodd wedi’i rannu, yma gallwch ddysgu sut mae diweddaru adnodd sydd wedi cael ei rannu â Commons o’r blaen.

Sylwch:

  • Mae’r camau yn y wers hon yn debyg i'r camau ar gyfer rhannu aseiniadau, modiwlau, cwisiau, tudalennau neu drafodaethau. Mae’r gwahaniaethau’n cynnwys agor y nodwedd yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, a defnyddio'r eicon Gosodiadau ar y tudalennau Mynegai a Manylion. Mae'r delweddau yn y wers hon yn dangos sut mae rhannu aseiniad â Commons.
  • I alluogi Commons yn eich fersiwn chi o Canvas, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid.
  • Mae Commons ar gael ym mhob cyfrif Am-Ddim-i-Athrawon. Mae defnyddwyr Am-Ddim-i-Athrawon wedi’u cyfyngu i ddod o hyd i adnoddau cyhoeddus, eu mewngludo a’u rhannu.
  • Y terfyn ar gyfer maint ffeil wrth lwytho cynnwys i fyny yw 500 MB.
  • Mae cynnwys sy’n cael ei rannu trwy Commons yn cadw statws wedi’i gyhoeddi/heb ei gyhoeddi’r eitem pan gafodd ei rannu’n wreiddiol. Os byddwch chi’n rhannu adnodd wedi’i chyhoeddi, pan fydd pobl eraill yn mewngludo’r adnodd honno, bydd yn cael ei chyhoeddi ar eu cwrs.
  • Does dim modd rhannu cynnwys Studio i Commons na’i fewngludo o Commons.

Agor Cwrs

Agor Cwrs

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs lle rydych am rannu'r adnodd (resource) [2].

Agor Ardal Nodwedd

Agor Ardal Nodwedd

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs, cliciwch ddolen yr ardal nodwedd lle mae'ch adnodd.

Rhannu Adnodd

Rhannu Adnodd

Chwiliwch am yr adnodd rydych am ei rannu ar dudalen yr ardal nodwedd, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1], ac wedyn clicio'r ddolen Rhannu â Commons (Share to Commons) [2].

Sylwch:

  • Os oes cyfarwyddyd sgorio yn gysylltiedig ag adnodd, bydd yn cael ei rannu â Commons fel rhan o’r adnodd. Bydd y cyfarwyddyd sgorio hefyd yn cael ei fewngludo fel rhan o’r adnodd.
  • Mae cynnwys sy’n cael ei rannu trwy Commons yn cadw statws wedi’i gyhoeddi/heb ei gyhoeddi’r eitem pan gafodd ei rannu’n wreiddiol. Os byddwch chi’n rhannu adnodd wedi’i chyhoeddi, pan fydd pobl eraill yn mewngludo’r adnodd honno, bydd yn cael ei chyhoeddi ar eu cwrs.

Rhannu drwy’r dudalen Manylion Adnodd

Rhannu drwy’r dudalen Manylion Adnodd

Gallwch hefyd agor yr adnodd unigol i’w rannu â Commons. Cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1], yna cliciwch y ddolen Rhannu â Commons (Share to Commons) [2].

Dewis Opsiwn Rhannu

Dewis Opsiwn Rhannu

Dewiswch opsiwn rhannu.

Nodyn: Gan ddibynnu ar y gosodiadau cyfrif sydd wedi’u gosod gan eich gweinyddwr Canvas, mae’n bosib na fyddwch chi’n gallu gweld a/neu rannu cynnwys cyhoeddus. Bydd awduron adnoddau sydd wedi’u rhannu’n gyhoeddus yn gallu gweld eu hadnodd bob amser.

Dewis Trwydded Cynnwys

Dewis Trwydded Cynnwys

Dewiswch eich trwydded cynnwys o’r gwymplen Hawlfraint a Thrwyddedau (Copyright and Licenses) [1]. I roi unrhyw wybodaeth ychwanegol am ddefnyddio, hawlfraint neu drwyddedu, cliciwch y ddolen Ychwanegu Gwybodaeth Ychwanegol (Add Additional Information) [2].

Ychwanegu Gradd/Lefel

Ychwanegu Gradd/Lefel

Dewiswch y lefel(au) gradd priodol gan ddefnyddio’r llithryddion neu’r cwymplenni.

Rhannu â Commons

Rhannu â Commons

Ar ôl i chi orffen, cliciwch y botwm Rhannu (Share).

Gweld Adnodd wedi’i Rannu

Gweld eich adnodd sydd wedi’i rannu. Mae’n gallu cymryd hyd at 30 munud i brosesu adnodd. Dydy’r nodwedd rhagolygon o adnoddau ddim ar gael tra bydd yr adnodd yn cael ei brosesu.