Sut ydw i’n cysoni deilliant â chyfarwyddyd sgorio mewn cyfrif?

Gallwch gysoni unrhyw ddeilliant yn eich cyfrif â chyfarwyddyd sgorio. Mae modd defnyddio cyfarwyddiadau sgorio i helpu myfyrwyr i ddeall disgwyliadau ar gyfer yr aseiniad a sut bydd eu cyflwyniadau’n cael eu graddio. Mae modd cysoni deilliannau gyda chyfarwyddyd sgorio ar gyfer asesiad ychwanegol a mesur perfformiad.

I gysoni deilliant, rhaid i’r deilliant fodoli’n barod ar gyfer eich cyfrif. Gwybodaeth am sut mae creu deilliannau cyfrif.

Nodiadau:

  • Mae modd ychwanegu deilliannau at gyfarwyddiadau sgorio, ond does dim modd ychwanegu cyfarwyddiadau sgorio at ddeiliannau.
  • Does dim modd golygu cyfarwyddiadau sgorio ar ôl iddynt gael eu hychwanegu at fwy nag un aseiniad mewn cwrs.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Cyfarwyddiadau Sgorio

Agor Cyfarwyddiadau Sgorio

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Cyfarwyddiadau Sgorio (Rubrics).

Agor Cyfarwyddyd Sgorio

Agor Cyfarwyddyd Sgorio

Cliciwch enw’r cyfarwyddyd sgorio.

Creu Cyfarwyddyd Sgorio

Creu Cyfarwyddyd Sgorio

I greu cyfarwyddyd sgorio newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio (Add Rubric).

Golygu Cyfarwyddyd Sgorio

Cliciwch y botwm Golygu Cyfarwyddyd Sgorio (Edit Rubric).

Dod o hyd i ddeilliant

Dod o hyd i ddeilliant

Cliciwch y ddolen Dod o hyd i Ddeilliant (Find Outcome).

Mewngludo Deilliant

Dod o hyd a dewis y deilliant rydych chi am ei gysoni [1]. Os ydych chi am ddefnyddio’r maen prawf ar gyfer sgorio, ticiwch y blwch Defnyddio’r maen prawf hwn ar gyfer sgorio (Use this criterion for scoring)[2]. Cliciwch y botwm Mewngludo (Import) [3].

Note: Mae’n bosib y bydd deilliannau sydd ar gael yn amrywio yn ôl sefydliad.

Cadarnhau Mewngludo

Cadarnhau Mewngludo

Cliciwch y botwm Iawn (OK).

Diweddaru Cyfarwyddyd Sgorio

Gweld y deilliant sydd wedi’i gysoni [1]. Cliciwch y botwm Diweddaru Cyfarwyddiadau Sgorio (Update Rubric) [2].