Sut ydw i’n gosod hawliau ar gyfer rôl ar lefel y cyfrif?

Ar ôl i chi greu rôl ar lefel y cyfrif, gallwch adolygu’r hawliau diofyn sydd wedi’u gosod gan bob rôl ar lefel y cyfrif. Mae hawliau yn caniatáu neu’n gwrthod mynediad at nodweddion penodol o fewn cyfrif a chwrs, ac maen nhw’n cael eu rhoi i unrhyw ddefnyddiwr sydd wedi cael rôl benodol ar lefel y cyfrif. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ychwanegu defnyddiwr gweinyddol at gyfrif.

Yn dibynnu ar y rôl, efallai y byddwch chi am ddiystyru'r hawliau diofyn er mwyn creu hawliau personol.

I ddysgu mwy am hawliau cyfrif, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Hawliau Cyfrif.

Nodiadau: 

  • Mae'n bosib na fydd rhai hawliau ar gael ar gyfer is-gyfrifon. I ddysgu mwy am hawliau a chyfyngiadau is-gyfrifon, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Cymharu Cyfrif ac Is-gyfrif.
  • Pan fyddwch chi’n newid hawl, gall gymryd 30 munud neu fwy i’r hawl hwnnw ddod i rym. Os nad yw’r newidiadau disgwyliedig yn ymddangos yn sych, rhowch gynnig arall arni mewn peth amser.
  • Mae cyfrifon consortiwm plentyn yn etifeddu rolau a hawliau o’r cyfrif rhiant. Mae cyfrifon plentyn yn gallu golygu unrhyw rolau a hawliau sydd wedi’u datgloi.  

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Hawliau

Clicio Dolen Hawliau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Hawliau (Permissions).

Agor Rolau Cyfrif

Agor Rolau Cyfrif

Cliciwch y tab Rolau Cyfrif (Account Roles).

Rheoli Hawliau

I ddiystyru unrhyw hawliau, dewch o hyd i, a chlicio enw rôl y defnyddiwr [1]. Cliciwch yr eicon sydd wrth ymyl enw’r hawl [2]. Yn y ddewislen hawliau, mae'r hawl gyfredol wedi'i nodi â thic [3].

Dewiswch statws hawl newydd trwy glicio un o'r opsiynau hawliau: Galluogi neu Analluogi. Ar ôl i chi alluogi neu analluogi’r caniatâd, gallwch chi ddewis cloi statws y caniatâd. Cliciwch y Clo (Lock) i gloi statws y caniatâd [4]. Mae opsiynau wedi eu cloi yn atal y gosodiad rhag cael ei newid gan weinyddwyr isgyfrifon mewn cyfrif is. Bydd statws hawl newydd yn cael ei gadw’n awtomatig.

Note: Os nad yw eicon hawl yn ymddangos fel un sydd wedi'i phylu, does dim modd i chi newid yr hawl [5].

Gweld Caniatâd mewn Grŵp

Mae’n bosib bydd rhai hawliau yn cael eu grwpio er mwyn cael gwell gafael a rheolaeth dros y caniatâd.

Mae caniatâd mewn grŵp yn rhestru’r caniatadau mewn grŵp o dan enw’r grŵp [1].

Er mwyn ehangu caniatâd mewn grŵp, cliciwch yr eicon ehangu [2].

Rheoli Caniatâd mewn Grŵp

Gallwch chi reoli pob elfen o ganiatâd mewn grŵp gyda’r blychau ticio cyfatebol. Er mwyn galluogi neu analluogi pob elfen o’r caniatâd, cliciwch y blwch ticio [1]. Mae tic yn y blwch yn dangos bod y caniatâd wedi’i alluogi [2]. Os nad oes tic yn y blwch, mae’r caniatâd wedi’i analluogi [3].

Os yw pob caniatâd wedi’u galluogi ar gyfer rôl defnyddiwr, bydd eicon tic yn ymddangos ger y grŵp caniatâd [4].

Os bydd rhai caniatadau wedi’u galluogi ac eraill wedi’u hanalluogi ar gyfer rôl defnyddiwr, bydd grŵp caniatâd yn ymddangos gydag eicon ar ei hanner [5].

Os bydd pob caniatâd wedi’u hanalluogi ar gyfer rôl defnyddiwr, bydd eicon X yn ymddangos ger y grŵp [6].

Gweld Hawliau Rôl Defnyddiwr

I weld hawliau rôl defnyddiwr unigol, cliciwch enw’r rôl [1].

Ar y bar ochr, gallwch weld enw’r rôl [2], amser neu ddyddiad y cafodd yr hawliau ar gyfer y rôl defnyddiwr ei newid ddiwethaf [3], a hawliau’r defnyddiwr wedi'u neilltuo a heb eu neilltuo [4].

Rheoli Hawliau Rôl Defnyddiwr

Rheoli Hawliau Rôl Defnyddiwr

I reoli hawliau defnyddiwr o’r bar ochr, cliciwch yr eicon sydd wrth ymyl enw’r hawl [1]. Yn y ddewislen hawliau [2], bydd marc tic wrth ymyl yr hawl sy’n bodoli’n barod.

Dewiswch statws hawl newydd trwy glicio un o'r opsiynau hawliau: Galluogi neu Analluogi. Ar ôl i chi alluogi neu analluogi’r caniatâd, gallwch chi ddewis cloi statws y caniatâd. Cliciwch y Clo i gloi statws y caniatâd [3]. Mae opsiynau wedi eu cloi yn atal y gosodiad rhag cael ei newid gan weinyddwyr isgyfrifon mewn cyfrif is. Bydd statws hawl newydd yn cael ei gadw’n awtomatig.

Note: Os nad yw eicon hawl yn ymddangos fel un sydd wedi'i phylu, does dim modd i chi newid yr hawl [4].

Golygu Rôl Defnyddiwr

Golygu Rôl Defnyddiwr

I olygu enw rôl y defnyddiwr, cliciwch yr eicon Golygu (Edit) [1]. Ewch ati i olygu enw rôl y defnyddiwr [2], a chlicio’r saeth Yn ôl (Back) [3].

Dileu Rôl Defnyddiwr

Golygu Rôl Defnyddiwr

I ddileu rôl defnyddiwr, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [1]. Edrychwch eto ar y rhybudd am rolau defnyddiwr–bydd unrhyw ddefnyddwyr sydd â'r rôl rydych chi’n ei dileu yn cadw’r hawliau presennol, ond fydd dim modd creu defnyddwyr newydd â'r rôl defnyddiwr honno.

Dodes dim modd dadwneud y broses o ddileu rôl defnyddiwr.

I gadarnhau dileu rôl y defnyddiwr, cliciwch y botwm Iawn (OK).