Sut ydw i’n gweld dadansoddiadau cyfrif?

Gallwch weld dadansoddiadau cyfrif ar dudalen cyrsiau eich cyfrif. Gallwch hefyd weld dadansoddiadau fel rhan o dudalen Ystadegau y cyfrif. Mae dadansoddiadau cyfrif yn dangos data am y gweithgarwch ar bob cwrs yn eich cyfrif, ac yn rhoi golwg gyffredinol ar nifer y cyrsiau a’r defnyddwyr, a’r math o weithgarwch y mae defnyddwyr yn ei wneud.

Os oes angen i chi edrych yn fanylach ar ddadansoddiadau cyfrif, gallwch agor y cwrs a gweld dadansoddiadau ar gyfer y cwrs hwnnw.

Nodiadau:

  • Mae dadansoddiadau cyfrif hefyd yn cynnwys dadansoddiadau sydd wedi eu galluogi ar lefel yr isgyfrif.
  • Os yw eich dadansoddiad yn edrych yn wahanol i’r hyn sydd i’w weld yn y wers, efallai bod y rhagolwg nodwedd Admin Analytics wedi’i alluogi ar eich cyfrif. Dysgwch sut i ddefnyddio Admin Analytics yn eich cyfrif.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Dadansoddiadau Cyfrif

Agor Dadansoddiadau Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Dadansoddi (Analytics).

Gweld Trosolwg o’r Tymor

Mae dadansoddiadau cyfrif yn dangos i chi faint o Gyrsiau, Athrawon, Myfyrwyr, Aseiniadau, Cyflwyniadau, Pynciau Trafod, Ffeiliau wedi’u Llwytho i Fyny, a Recordiadau ar Gyfryngau sydd yn rhan o dymor penodol. Yn ddiofyn, mae’r cyfrif yn dangos dadansoddiadau ar gyfer y Tymor Diofyn. Mae tymhorau’n cael eu trefnu yn ôl yr wyddor.

I weld dadansoddiadau ar gyfer tymor gwahanol, cliciwch y botymau blaenorol neu nesaf yn y ddewislen tymor [1], neu chwiliwch am y tymor yn y gwymplen [2].

Ar gyfer pob tymor, bydd y Dadansoddiadau yn cynnwys yr wybodaeth gyffredinol ganlynol:

  • Cyrsiau (Courses): yn dangos faint o gyrsiau sydd wedi’u cyhoeddi yn y cyfrif. Dydy’r rhif hwn ddim yn cynnwys cyrsiau heb eu cyhoeddi na chyrsiau wedi’u dileu.
  • Athrawon (Teachers): yn dangos faint o athrawon unigryw sydd â gweithgarwch yn gysylltiedig â'r tymor dan sylw. Os yw un defnyddiwr yn athro mewn 5 cwrs, bydd yr ystadegyn yn cyfrif fel 1 athro.
  • Myfyrwyr (Students): yn dangos yr un ystadegau â'r rhai ar gyfer athrawon, ond yng nghyd-destun myfyrwyr.
  • Aseiniadau (Assignments): yn dangos nifer yr aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno i gyrsiau gweithredol.
  • Pynciau Trafod (Discussion Topics): yn dangos nifer y pynciau trafod sydd wedi’u postio ar gyrsiau gweithredol.
  • Ffeiliau wedi’u Llwytho i Fyny (Files Uploaded):yn dangos nifer y ffeiliau sydd wedi’u llwytho i fyny i’r cyfrif. Dydy ffeiliau wedi’u dileu ddim yn cael eu cynnwys yma.
  • Recordiadau ar Gyfryngau (Media Recordings): yn dangos nifer y gwrthrychau cyfryngau sydd wedi’u llwytho i fyny i gyrsiau gweithredol, fel ffeiliau fideo, sain a cherddoriaeth.

Gweld Graffiau Dadansoddiadau

Gweld Graffiau Dadansoddiadau

Yn ddiofyn, bydd dadansoddiadau yn ymddangos mewn fformat graff. Mae tri math o graff: Gweithgarwch yn ôl Dyddiad, Gweithgarwch yn ôl Categori a Dosbarthiad Graddau.

Gweld Gweithgarwch yn ôl Dyddiad

Mae’r graff Gweithgarwch yn ôl Dyddiad (Activity by Date) yn dangos holl weithgarwch cyfrif ar gyfer pob defnyddiwr sydd wedi ymrestru ar gwrs ar gyfer y tymor. Mae echelin x yn cynrychioli dyddiadau’r tymor, ac echelin y yn cynrychioli nifer y tudalennau a welwyd. Mae barrau glas tywyll yn cynrychioli’r achosion o gymryd rhan yn y cyfrif. Os yw dyddiad ond yn dangos y tudalennau a welwyd, bar glas golau fydd yn ymddangos.

Bydd y graff yn newid y bar sy’n ymddangos yn unol ag amser. Os yw gweithgarwch wedi digwydd o fewn y chwe mis diwethaf, barrau gweithgarwch dyddiol fydd yn ymddangos. Gyda gweithgarwch sydd dros chwe mis yn ôl, barrau gweithgarwch wythnosol fydd yn ymddangos, a barrau gweithgarwch misol fydd yn ymddangos ar gyfer gweithgarwch tua blwyddyn yn ôl. Mae’r wedd wythnosol yn dangos dyddiad cyntaf ac olaf yr wythnos; mae’r wedd fisol yn dangos y mis a’r flwyddyn. I weld manylion y graff bar, dylech hofran dros y bar penodol rydych chi am ei weld. Gall maint ffenestr y porwr, lefel nesáu a phellhau, a chydraniad y sgrin newid sut mae'r barrau'n ymddangos.

Bydd y gweithredoedd canlynol gan ddefnyddiwr yn achos o gymryd rhan ar gyfer dadansoddiadau:

  • Cyhoeddiadau: postio sylw newydd ar gyhoeddiad
  • Cyhoeddiadau: postio cyhoeddiad (addysgwr)
  • Aseiniadau: diweddaru disgrifiad o aseiniad neu ei osodiadau (addysgwr)
  • Aseiniadau: cyflwyno aseiniad (myfyriwr)
  • Calendr: diweddaru disgrifiad o ddigwyddiad calendr neu ei osodiadau (digwyddiadau calendr myfyrwyr a chyrsiau addysgwyr)
  • Cydweithrediadau: llwytho cydweithrediad i weld/golygu dogfen
  • Cynadleddau: ymuno â gwe-gynhadledd
  • Trafodaethau: postio sylw newydd ar drafodaeth
  • Ffeiliau: llwytho ffeiliau neu ffolderi i fyny, neu edrych arnyn nhw
  • Graddau: diweddaru’r llyfr graddau a’r dudalen graddau neu edrych arnyn nhw, llwytho ffeiliau i fyny i’r llyfr graddau, creu safon graddio
  • Grwpiau: gweld cynnwys mewn grwpiau
  • Modiwlau: creu neu edrych ar gynnwys mewn modiwlau
  • Tudalennau: creu tudalen wiki
  • Cwisiau: cyflwyno cwis (myfyriwr)
  • Cwisiau: dechrau gwneud cwis (myfyriwr)

 

Os oes angen i chi edrych yn fanylach ar y tudalennau mae defnyddiwr penodol wedi’u gweld, gallwch ddysgu sut mae gweld y tudalennau y mae defnyddwyr wedi’u gweld yn eich cyfrif.

Gweld Gweithgarwch yn ôl Categori

Mae’r graff Gweld Gweithgarwch yn ôl Categori (View Activity by Category) yn dangos yr holl weithgarwch yn y cyfrif yn ôl categori nodwedd. Mae echelin x yn cynrychioli gweithgarwch yn ôl categori, ac echelin y yn cynrychioli nifer y tudalennau a welwyd. Mae’r categori Cyffredinol yn cyfeirio at y tudalennau mwyaf poblogaidd a welwyd ar y cwrs, sydd ddim yn cael eu hystyried yn y categorïau mwy penodol. Mae hyn yn cynnwys Tudalen Hafan y Cwrs, cofrestr y cwrs (tudalen Pobl), Gosodiadau Cwrs a’r Maes Llafur.

Mae'r categori Arall yn cyfeirio at yr holl dudalennau eraill a welwyd nad oedd modd eu hadnabod.

I weld manylion y graff bar, dylech hofran dros y bar penodol rydych chi am ei weld.

Gweld Dosbarthiad Graddau

Mae’r graff Dosbarthiad Graddau (Grade Distribution) yn dangos dosbarthiad graddau presennol y cwrs ar gyfer pob myfyriwr sydd wedi ymrestru. Mae echelin x yn cynrychioli canran graddau, ac echelin y yn cynrychioli canran yr ymrestriadau gweithredol a’r ymrestriadau sydd wedi dirwyn i ben. Os yw’r cwrs wedi dirwyn i ben, mae echelin x yn cynrychioli’r radd gyflawn.

Mae’r barrau graff yn ymddangos fel pigynnau sy’n cynrychioli graddau’r mwyafrif o’r myfyrwyr ar y continwwm. Gallai pigyn ar ochr chwith y siart olygu bod myfyrwyr yn cael trafferth ar y cwrs. Gallai pigyn ar ochr dde'r siart olygu bod myfyrwyr yn ymateb i ddeunydd cyrsiau ac yn cymryd rhan yn y cyrsiau.

I weld manylion y graff bar, dylech hofran dros y bar penodol rydych chi am ei weld.

Gweld Tablau Dadansoddiadau

Gweld Tablau Dadansoddiadau

I weld dadansoddiadau heb hofran dros golofnau graffiau, gallwch weld yr holl ddata mewn fformat tabl. I newid i’r fformat tabl, cliciwch yr eicon Dadansoddi. Bydd yr eicon yn symud o’r ochr chwith i’r ochr dde, gan ddangos y wedd dadansoddi bresennol.

Gweld Data Tabl

Bydd tablau ar gyfer pob graff ar y dudalen berthnasol, a bydd pob colofn yn diffinio’r data yn y graff perthnasol. Mae data’r graff yn cael ei ddangos fesul colofn.

Ym mhob tabl, bydd 30 cofnod yn ymddangos ar bob tudalen. Mae modd gweld tudalennau ychwanegol drwy symud ymlaen i’r dudalen nesaf.