Sut ydw i’n gweld cynlluniau graddau mewn cyfrif?
Mae modd gweld cynlluniau graddau eich cyfrif, gan gynnwys cynlluniau graddau rydych chi wedi’u creu ar gyfer eich cyfrif. Mae modd i chi olygu a dileu cynlluniau graddau hefyd, os oes angen.
Bydd unrhyw gynlluniau graddau sydd wedi’u creu yn eich cyfrif yn ymddangos mewn isgyfrifon hefyd.
Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adran Graddio

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Graddio (Grading).
Agor Cynlluniau Graddau

Os yw’r nodwedd Mwy Nag Un Cyfnod Graddio wedi’u galluogi ar gyfer eich sefydliad, cliciwch y tab Cynlluniau (Schemes).
Gweld Cynlluniau Graddau
Mae'r dudalen Cynlluniau’n dangos yr holl gynlluniau graddau ar gyfer eich cyfrif.
Ychwanegu Cynllun Graddau

I ychwanegu cynllun graddau at gyfrif,, cliciwch y botwm Ychwanegu Cynllun Graddau (Add Grading Scheme).
Rheoli Cynlluniau Graddau
I olygu cynllun graddau, cliciwch yr eicon Golygu [1].
I ddileu cynllun graddau, cliciwch yr eicon Dileu [2].
Nodiadau:
- Dim ond cynlluniau graddau sydd heb gael eu cysylltu â chwrs y mae modd eu golygu. Fodd bynnag, mae hi bob amser yn bosib dileu cynlluniau graddau.
- Os ydych chi’n dileu cynllun graddau lefel cyfrif sydd wedi cael ei alluogi ar lefel y cwrs ac wedi’i ddefnyddio i asesu myfyriwr, ni fydd y cynllun graddau’n cael ei ddileu o’r cwrs.