Sut ydw i’n rheoli rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu yn yr Edu App Center?

Mae’r Edu App Center yn gadael i chi greu rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu sy'n cynnwys apiau allanol ar gyfer eich sefydliad. Ar ôl i chi greu rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu, gallwch reoli eich rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu yn Canvas a dangos apiau allanol wedi’u cymeradwyo yn unig i gyrsiau yn eich cyfrif ac isgyfrifon.

Nodyn: Bydd Apiau sy’n cael eu hychwanegu at restr caniatáu EduAppCenter yn cymryd hyd at 24 awr i ymddangos yn Canvas.

Mewngofnodi i’r Edu App Center

Ym mar chwilio’r porwr, teipiwch eduappcenter.com a chliciwch y ddolen Mewngofnodi (Login).

Rhoi Manylion Mewngofnodi

Dewiswch sut i fewngofnodi drwy ddewis Twitter, Github, Microsoft, Google, neu greu cyfrif gan ddefnyddio e-bost.

Agor Sefydliadau

Agor Sefydliadau

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1]. Yn y gwymplen, dewiswch y ddolen Sefydliadau (Organizations) [2].

Dysgwch fwy am greu a rheoli sefydliadau.

Rheoli rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu

Cliciwch y botwm Rheoli rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu (Manage Allow List).

Rheoli Apiau

Yn ddiofyn, mae pob ap wedi’i guddio. Dydy apiau wedi’u cuddio ddim yn ymddangos yn rhestr y ganolfan apiau. Gallwch ddangos neu guddio’r holl apiau drwy glicio’r botymau Caniatáu pob un (Allow All) neu Cuddio pob un (Hide All) [1].

Dangoswch neu cuddiwch apiau unigol drwy glicio’r botymau Wedi cuddio (Hidden) [2] ac I’w gweld (Visible) [3] ar bwys yr ap.

Pan fyddwch chi wedi gorffen, ewch yn ôl i dudalen eich sefydliad drwy glicio enw eich sefydliad [4].

Nodyn: Bydd Apiau sy’n cael eu hychwanegu at restr caniatáu EduAppCenter yn cymryd hyd at 24 awr i ymddangos yn Canvas.

Creu Tocyn Newydd

I greu Tocyn API, cliciwch y botwm Creu Tocyn Newydd (Create New Token).

Nodyn: Pan mae tocyn mynediad annilys yn cael ei roi yn yr Edu App Center, ni fydd adnoddau’n ymddangos.

Rhannu Tocyn API

I weld eich tocyn ap, cliciwch y tab Tocynnau Canolfan Apiau (App Center Tokens) [1].

Copïwch y tocyn API i’w ddefnyddio yn eich rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu [2].

Mae modd defnyddio tocyn API i reoli rhestrau o gyfeiriadau wedi’u caniatáu yn syth yn Canvas a dangos apiau wedi’u cymeradwyo ar lefel y cyfrif, yr isgyfrif, a’r cwrs.

Nodyn: Mae modd i sefydliad greu mwy nag un tocyn, ond mae pob tocyn yn arwain at yr un rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu Mae modd defnyddio mwy nag un tocyn i greu mynediad ar gyfer defnyddwyr penodol cyn eu dileu rywbryd eto.