Sut ydw i’n rheoli rhestr o gyfeiriadau wedi'u caniatáu Edu App Center yn Canvas?

Os yw eich sefydliad yn defnyddio rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu ar gyfer Edu App Center, gallwch reoli eich rhestr o gyfeiriadau wedi'u caniatáu yn syth yn Canvas. I ddefnyddio’r rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu, bydd angen i chi wybod beth yw’r Tocyn API sydd wedi'i greu ar gyfer eich sefydliad Edu App Center. Mae’r tocyn mynediad yn cysoni’r rhestr Apiau Allanol ar lefel y cyfrif ac ar lefel y cwrs er mwyn dangos dim ond apiau o’r rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu ar gyfer Edu App Center, sydd wedi’u creu ar gyfer y sefydliad.

Gall gweinyddwyr reoli’r rhestr apiau unrhyw bryd i dynnu tocyn mynediad neu roi un arall yn ei le. Pan nad oes tocyn mynediad mewn cyfrif neu isgyfrif, bydd y rhestr Apiau Allanol yn dangos y rhestr apiau ddiofyn sy’n cael ei darparu gan Canvas. Dim ond ar lefel cyfrif ac isgyfrif mae modd rheoli'r rhestrau o gyfeiriadau wedi’u caniatáu.

Dim ond un tocyn API ar gyfer sefydliad mae Canvas yn ei dderbyn. Mae tocyn sy’n cael ei ddefnyddio ar lefel y cyfrif yn hidlo i lawr yn awtomatig i bob isgyfrif. Mae Edu App Center yn gallu delio â chreu mwy nag un tocyn ar gyfer sefydliad, ond bydd pob tocyn yn mynd i’r un rhestr o gyfeiriadau wedi’u caniatáu. Os ydych chi am greu rhestrau cyfeiriadau ar wahân sy’n berthnasol i isgyfrifon unigol, bydd angen i chi greu sefydliadau ychwanegol yn Edu App Center a chreu tocynnau API ar gyfer pob rhestr o gyfeiriadau wedi'u caniatáu.

Nodyn: Bydd Apiau sy’n cael eu hychwanegu at restr caniatáu EduAppCenter yn cymryd hyd at 24 awr i ymddangos yn Canvas.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Agor Apiau

Agor Apiau

Cliciwch y tab Apiau (Apps).

Rheoli Rhestr Apiau

Cliciwch y botwm Rheoli Rhestr Apiau (Manage App List).

Rhoi Tocyn API

Rhoi Tocyn API

Yn y maes Tocyn Mynediad (Access Token) [1], rhowch y Tocyn API gan eich sefydliad Edu App Center.

Cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].

Gweld Apiau

Gallwch weld y rhestr o apiau sydd wedi’u cymeradwyo o’ch rhestr o gyfeiriadau wedi'u caniatáu.

Nodyn: Pan mae tocyn mynediad annilys yn cael ei roi yn yr Edu App Center, ni fydd adnoddau’n ymddangos.