Sut ydw i’n defnyddio Sgwrs fel myfyriwr?

Mae modd defnyddio’r adnodd Sgwrs i gael sgyrsiau amser real gyda defnyddwyr y cwrs. Mae unrhyw ddefnyddiwr mewn cwrs yn gallu cymryd rhan mewn sgwrs. Mae holl gynnwys sgwrs cwrs yn gallu cael ei weld gan unrhyw un yn y cwrs. Ar hyn o bryd does dim terfyn o ran llwyth ar gyfer sgwrs cwrs, ond gall niferoedd uwch o ddefnyddwyr cwrs effeithio ar y perfformiad.

Rhaid i ddefnyddiwr fod yn edrych ar yr adnodd sgwrs i ymddangos ar restr y sgwrs. Gallwch chi agor Sgwrs mewn ffenestr porwr newydd tra’n edrych ar adrannau eraill o Canvas.

Nodyn:

  • Os na allwch chi weld yr adnodd Sgwrs, nid yw Sgwrs wedi cael ei alluogi ar gyfer eich sefydliad.
  • Does dim modd i chi ddileu negeseuon sgwrs.
  • Mae Safari 13.1 yn cynnwys diweddariad a allai achosi problemau gyda rhybuddion ar gyfer sgwrs. Gallwch osgoi gwallau gyda ffeiliau a delweddau drwy analluogi’r nodwedd atal tracio ar draws safleoedd yn Safari wrth ddefnyddio Canvas.

Agor Sgwrs

Agor Sgwrs

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Sgwrs (Chat).

Gweld Sgwrs

Pan fyddwch chi’n agor y dudalen Sgwrs, byddwch chi’n ymuno â’r sgwrs yn syth. Mae trafodaeth sgwrs yn ymddangos yn y ffenestr cynnwys [1].

I gael negeseuon hysbysu ar gyfer negeseuon sgwrs newydd, cliciwch y bottwm Negeseuon hysbysu neges newydd [2]. Os ydy’r opsiwn hwn ymlaen, byddwch chi’n cael negeseuon hysbysu os ydy Sgwrs ar agor yn Canvas ond bod eich ffenestr porwr wedi’i lleihau neu os ydych chi’n edrych ar dab porwr arall. Ni fydd negeseuon hysbysu’n cael eu hanfon os byddwch chi’n gadael Sgwrs i edrych ar adran arall o Canvas.

Mae hanes negeseuon pob cwrs wedi’i gynnwys yn y sgwrs. Mae modd cael gafael ar hanes y sgwrs am gyfnod amhenodol trwy lwytho rhagor o ganlyniadau a sgrolio drwy sgyrsiau cwrs blaenorol.

Gweld Defnyddwyr Ar-lein

Mae Sgwrs yn dangos nifer y defnyddwyr sydd yn y sgwrs [1]. I weld rhestr o’r defnyddwyr hyn [2], hofrwch eich cyrchwr dros y rhif.

Gweld Stamp Amser

Gweld Stamp Amser

Pan fo defnyddiwr yr anfon mwy nag un neges sgwrs heb i ddefnyddiwr arall anfon neges, bydd yr holl negeseuon yn ymddangos o dan stamp amser y neges gyntaf. I weld stampiau amser ychwanegol, hofrwch eich cyrchwr dros y neges.

Anfon Neges

I anfon neges sgwrs, rhowch eich neges yn y ffenestr sgwrs [1]. I ychwanegu emoji at eich neges, cliciwch yr eicon Emoji [2]. Yna cliciwch y botwm Anfon (Send) [3].