Sut ydw i’n llwytho ffeil sain i fyny gan ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel myfyriwr?

Bydd y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cael ei derfynu mewn fersiwn yn y dyfodol. Mae addysgwyr yn gallu galluogi'r nodwedd Golygydd Cynnwys Cyfoethog Newydd yn yr opsiynau nodweddion cwrs.

Gallwch ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i lwytho ffeil sain i fyny. Caiff y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ei ddefnyddio mewn nodweddion sy’n delio â'r golygydd (Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau a Chwisiau).

Am ragor o wybodaeth am y mathau o gyfryngau wedi'u llwytho i fyny y mae modd delio â nhw, edrychwch ar y wers Ffeiliau Cyfryngau Canvas.

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog gan ddefnyddio un o nodweddion Canvas sy’n gallu delio â’r Golygydd.

Agor y Llwythwr Cyfryngau

Agor y Llwythwr Cyfryngau

Cliciwch yr eicon Cyfryngau (Media).

Llwytho Cyfryngau i fyny

Llwytho Cyfryngau i fyny

Cliciwch y tab Llwytho Cyfryngau i Fyny (Upload Media).

Dewiswch Ffeil Sain

Dewiswch Ffeil Sain

Dewiswch y botwm Dewis Ffeil Sain (Select Audio File).

Agor Ffeil Sain

Agor Ffeil Sain

Dewiswch y ffeil sain rydych chi am ei lwytho i fyny [1]. Cliciwch y botwm Agor (Open) [2].

Llwytho Ffeil Sain i Fyny

Llwytho Ffeil Sain i Fyny

Bydd y bar statws yn dangos y cynnydd o ran faint o’ch ffeil sain sydd wedi'i lwytho i fyny. Bydd pa mor gyflym mae’n cael ei lwytho i fyny yn dibynnu ar eich cysylltiad â'r rhyngrwyd a maint y ffeil sain. Arhoswch i’ch cyfryngau lwytho i fyny. Pan fydd y bar cynnydd yn llawn, bydd y ffenestr hon yn cau yn awtomatig.

Gweld Ffeil Sain

Gweld Ffeil Sain

Gweld eich ffeil sain wedi ei rhoi yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn awtomatig.

Cadw Newidiadau

Cadw Newidiadau

Cliciwch y botwm Cadw (Save).

Nodyn: Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog gydag Aseiniadau, Trafodaethau, Tudalennau a Chwisiau, gallwch ddewis Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish). Pan fyddwch yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog ar y tudalennau Trafodaethau, efallai y bydd y botwm Cadw (Save) yn ymddangos fel botwm Postio Ymateb (Post Reply).