Sut ydw i’n ychwanegu cyhoeddiad mewn grŵp?
Fel myfyriwr, gallwch wneud cyhoeddiad mewn grŵp.
Agor Cyhoeddiadau
Yn y ddewislen Crwydro Grwpiau, cliciwch y ddolen Cyhoeddiadau.
Ychwanegu Cyhoeddiad
Cliciwch y botwm +Cyhoeddiad (+Announcement).
Creu Cyhoeddiad
Rhowch deitl i’ch cyhoeddiad [1] ac ychwanegwch gynnwys drwy ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2].
Nodyn: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun.
Cadw Cyhoeddiad
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Gweld Cyhoeddiad
Gallwch weld y cyhoeddiad ar y dudalen cyhoeddiadau.