Beth yw rôl Athro?

Yn Canvas, caiff y rôl Athro ei defnyddio i ymrestru defnyddwyr sy'n gyfrifol am greu, rheoli a rhoi cyfarwyddiadau mewn cwrs. Mae Addysgwyr yn enw arall am Athrawon yn Canvas. Yn gyffredinol, mae gan ddefnyddwyr sydd â rôl Athro hawliau sy’n eu galluogi nhw i safoni cyrsiau, gweld data cyrsiau ac arwain sgyrsiau dyddiad mewn cyrsiau. Fodd bynnag, gall yr hawliau hyn amrywio ymysg sefydliadau.

Mae gan Canvas rolau defnyddiwr lefel cwrs eraill sydd â mynediad lefel cwrs amrywiol. Gall Dylunwyr weithio gydag Athrawon (sy’n goruchwylio Cynorthwywyr Dysgu) a gyda’i gilydd maent yn creu cynnwys cwrs y mae Myfyrwyr ac Arsyllwyr yn ei ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau defnyddiwr ar lefel y cwrs, edrychwch ar y PDF ar Hawliau Cwrs Canvas.

Gall Athrawon hefyd ddefnyddio ap Canvas Teacher i weld rhywfaint o gynnwys cyrsiau gan gynnwys cyhoeddiadau, aseiniadau, trafodaethau a chwisiau.

Defnyddio Rôl Athro

Gall Athrawon greu deunyddiau ar gyfer cyrsiau, gweld data am gyrsiau yn ogystal â rheoli a chael mynediad at holl feysydd cyrsiau Canvas. Er enghraifft, gellir ychwanegu addysgwr at gwrs gyda rôl Athro er mwyn arwain y cwrs.

Prif ddefnydd rôl Athro yw galluogi defnyddwyr i wneud y canlynol:

  • Creu ac addasu cynnwys cyrsiau
  • Safoni a chyflwyno graddau
  • Gwahodd pobl eraill i'r cwrs
  • Cyfathrebu â chyfranogwyr y cwrs
  • Gweld data am fyfyrwyr a dadansoddiadau cwrs
  • Monitro a safoni cyfranogiad a rhyngweithiadau’r holl ddefnyddwyr sydd wedi ymrestru ar gwrs

Pan fydd defnyddiwr yn creu cwrs â llaw, bydd Canvas yn ymrestru'r defnyddiwr hwnnw’n awtomatig fel Athro ar y cwrs. Gall gweinyddwr ymrestru athro ar gwrs ei hun, neu gellir gwneud hynny'n awtomatig drwy fewngludo SIS.

Mynediad Athro yn Canvas

Yn ddiofyn, bydd gan addysgwyr sydd â rôl Athro fynediad at holl feysydd cwrs Canvas. Fodd bynnag, gall yr hawliau hyn amrywio ymysg sefydliadau. I gael rhagor o wybodaeth am gyfranogiad Athro yn Canvas, darllenwch Ganllaw Canvas i Addysgwyr.

Mae Athro yn gallu:

  • Ychwanegu a dileu rhaglenni allanol (LTI) ar gyfer cwrs
  • Ychwanegu, golygu a dileu aseiniadau, cwisiau, tudalennau a ffeiliau cyrsiau a phob cynnwys cwrs arall
  • Ychwanegu, golygu a dileu eitemau mewn calendr cwrs, gan gynnwys apwyntiadau'r Trefnydd
  • Ychwanegu, golygu neu ddileu deilliannau dysgu sy'n gysylltiedig â chynnwys cwrs
  • Creu, gweld a phostio cyhoeddiadau a thrafodaethau mewn cwrs
  • Creu a golygu cyfarwyddiadau sgorio
  • Creu cynadleddau a chydweithrediadau myfyrwyr
  • Creu, golygu a dileu adrannau a grwpiau o fyfyrwyr mewn cyrsiau
  • Dileu a chloi trafodaethau a golygu negeseuon pobl eraill mewn trafodaethau
  • Cynhyrchu cod paru arsyllwr ar gyfer myfyrwyr
  • Cyhoeddi, cwblhau a dileu cyrsiau
  • Darllen data SIS
  • Anfon negeseuon at ddefnyddwyr cyrsiau eraill ac at holl aelodau cwrs
  • Gweld tudalennau pob grŵp o fyfyrwyr ar gyfer cwrs
  • Gweld cyflwyniadau myfyrwyr a gwneud sylw arnynt
  • Gweld a chysylltu â banciau cwestiynau
  • Gweld a rheoli ymrestriadau ar gyrsiau, gan gynnwys ymrestriadau athrawon eraill, dylunwyr cyrsiau, cynorthwywyr dysgu a myfyrwyr
  • Gweld dadansoddiadau cwrs
  • Gweld llwybr archwilio graddau
  • Gweld, safoni a golygu'r holl raddau
  • Gweld adroddiadau defnyddio'r cwrs

Nid yw Athro yn gallu:

  • Greu cwrs Glasbrint
  • Newid tymor y cwrs cysylltiedig
  • Ffugio fel defnyddiwr arall mewn cwrs
  • Creu dilysiad trydydd parti ar gyfer cwrs
  • Dad-ddirwyn cwrs
  • Llwytho ymrestriadau myfyrwyr i fyny drwy fewngludiadau SIS
  • Gweld logiau newid cwrs

Cyfyngiadau ar Rôl Athro

  • Ni all Athrawon addasu argaeledd unrhyw rai o'r hawliau uchod. Dim ond gweinyddwyr all addasu'r swyddogaethau hyn.  
  • Mae Athrawon yn gallu creu, addasu a safoni cynnwys ar gyfer cyrsiau maent wedi ymrestru arnynt yn unig.
  • Dim ond defnyddwyr sydd â hawliau gweinyddol sy’n gallu mewngludo data SIS. Ni all Athrawon fewngludo data SIS.