Sut ydw i’n ychwanegu capsiynau wedi’u creu’n awtomatig at fy ffeil cyfryngau yn Canvas Studio?

Mae Canvas Studio hefyd yn cynnwys adnodd capsiynu sy’n cynhyrchu ffeil trawsgrifiad ar gyfer eich ffeiliau cyfryngau. Mae’r adnodd Cais Capsiynu yn trawsgrifio iaith y ffeil cyfryngau gyda chywirdeb o 85%.

Gallwch chi hefyd lwytho ffeiliau capsiynu i fyny ar gyfer eich cyfryngau Canvas Studio.

Nodyn: Unwaith bod Cyfryngau Canvas Studio yn cynnwys capsiynau, gall defnyddwyr eraill lwytho’r trawsgrifiad o’r cyfryngau i lawr.

Agor Cyfryngau

Yn eich cyfrif Studio, dewch o hyd i’r cyfryngau rydych chi eisiau eu gweld yn y dudalen Fy Llyfrgell [1], neu gan ddefnyddio’r maes chwilio [2].

Mae cyfryngau sy’n cynnwys ffeil capsiynu yn dangos y bathodyn capsiynu [3].

I agor y ffeil cyfryngau, cliciwch y ddolen Gwedd (View) [4].

Agor Capsiynau

Agor Capsiynau

Cliciwch y tab Capsiynau (Captions) [1]. I wneud cais am drawsgrifiad capsiynau, cliciwch y botwm Cais (Request) [2].

Gwneud Cais am Gapsiynau

Gwneud Cais am Gapsiynau

Os nad oes gan y ffeil cyfryngau ffeil capsiynau cysylltiedig yn barod, gallwch chi ddefnyddio’r adnodd Gwneud Cais am Gapsiynau i gynhyrchu trawgrifiad o’r capsiynau. Mae’r adnodd hwn yn cynhyrchu capsiynau’n awtomatig ar gyfer eich cyfryngau gyda chywirdeb o thua 85%

I ddewis yr iaith sy’n cael ei siarad yn y ffeil, cliciwch y gwymplen Iaith (Language) [1].

I gadarnhau eich cais, cliciwch y botwm Cais (Request) [2].

Gweld Cais Capsiynu Mewn Ciw

Gweld y cais capsiynu mewn ciw

Byddwch chi’n cael neges hysbysu mewn e-bost pan fydd Studio wedi gorffen trawsgrifio’r capsiynau.

Gweld Ffeil Capsiynau

Yn y tab Capsiynau, mae’r statws cyhoeddi i’w weld [1].  Er mwyn i gapsiynau ymddangos yn eich cyfryngau, rhaid i chi adolygu a chyhoeddi’r ffeil.  

I adolygu a chyhoeddi’r ffeil, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [2]. Yna cliciwch y ddolen Adolygu a Chyhoeddi (Review and Publish) [3].

Adolygu Ffeil Capsiynau

Yn y Golygydd Capsiynau, gwnewch unrhyw olygiadau i’r ffeil capsiynau.

I gyhoeddi’r capsiynau, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [1].

I gau’r golygydd capsiynau heb gyhoeddi, cliciwch y botwm Cau (Close) [2].  

Rheoli Opsiynau Capsiynau wedi’u Cyhoeddi

Gweld Opsiynau Capsiynau wedi’u Cyhoeddi

I reoli capsiynau wedi’u cyhoeddi, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1]. I adolygu neu olygu capsiynau wedi’u cyhoeddi, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2]. Gallwch chi hefyd lwytho i lawr [3], disodli [4], neu ddileu [5] unrhyw ffeil gapsiynau.

Nodyn: Llwytho ffeilliau capsiynau Canvas Studio i lawr fel ffeiliau SRT. Ar ôl eu llwytho i lawr, gallwch chi newid ffeiliau capsiynau i ffeiliau presesu geiriau ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron.

Galluogi Capsiynau

Galluogi Capsiynau

Yn ddiofyn, mae capsiynau wedi’u diffodd. I roi’r capsiynau ymlaen yn y cyfryngau, cliciwch yn eicon Toglo Capsiynau Ymlaen [1].

Nodiadau:

  • Dim ond os oes gan y cyfryngau gapsiynau y mae’r eicon Toglo Capsiynau Ymlaen yn ymddangos.
  • Mae’r eicon capsiynau ar gael o’r ddewislen Gosodiadau ar sgriniau sydd yn 480px o led neu lai.