Sut ydw i'n creu cwis drwy ddod o hyd i gwestiynau mewn banc cwestiynau?
Gallwch greu cwis drwy ddod o hyd i gwestiynau o’r banc cwestiynau.
Gallwch chi ychwanegu cwestiynau o bob banc cwestiynau rydych chi wedi’i greu mewn cyrsiau eraill lle rydych chi’n Addysgwr, banciau cwestiynau sydd wedi cael eu hychwanegu gan eich gweinyddwr i’ch is-gyfrif, a banciau cwestiynau rydych chi wedi gosod nôd tudalen arnynt mewn cyrsiau eraill. Os bydd deilliant yn gysylltiedig â banc cwestiynau, bydd cyfeirio at y banc cwestiynau mewn cwrs yn mewngludo'r deilliant cysylltiedig i'r cwrs.
Bydd Canvas yn cynnwys y cwestiynau y byddwch chi'n eu dewis wrth i bob myfyriwr wneud y cwis. Bydd y cwestiynau hyn yn aros mewn trefn ddilyniannol ac yn aros yn y drefn honno bob tro bydd y cwis yn cael ei wneud neu’n cael ei ragweld. Os ydych chi am drefnu cwestiynau cwis ar hap, gallwch eu hychwanegu at grŵp cwestiynau.
Nodiadau:
- Pan fyddwch chi’n Dod o Hyd i Gwestiynau mewn banc cwestiynau, ni fydd newidiadau i’r cwestiynau yn y banc cwestiynau’n cael eu diweddaru yn y cwis. Ni fydd newidiadau’n cael eu diweddaru yn y cwis oni bai fod y cwestiynau wedi’u cysylltu â banc cwestiynau.
- Pan mae’r opsiwn nodwedd Analluogi Creu Cwisiau Clasurol wedi’i alluogi, does dim modd i chi greu Cwisiau Clasurol newydd. Ond, gallwch chi barhau i olygu, mewngludo a mudo Cwisiau Clasurol sy’n bodoli’n barod i Gwisiau Newydd.
Agor Cwisiau
![Agor Cwisiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/758/575/original/20b03ed7-9dbd-489b-901c-30ea4f5e638c.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Ychwanegu Cwis
![Ychwanegu Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/247/505/original/0eb84bc0-be75-4719-9aec-849af2bce41d.png)
Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis (Add Quiz).
Dewis Peiriant Cwis
![Dewis Peiriant Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/007/787/105/original/013bc7c7-5495-46ac-81c8-c9f5c54625f4.png)
Os oes gan eich cwrs New Quizzes wedi’u galluogi, rhaid i chi ddewis peiriant cwis.
Dim ond yn Classic Quizzes y mae modd defnyddio banciau cwestiynau. I greu cwis clasurol, cliciwch yr opsiwn Classic Quizzes [1].
I gadw eich dewis o beiriant cwis ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch y blwch ticio Cofio fy newis ar gyfer y cwrs hwn (Remember my choice for this course) [2].
Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [3].
Nodiadau:
- Dysgu mwy am greu cwis yn defnyddio New Quizzes.
- Gallwch chi ailosod eich dewis o beiriant cwis o’r ddewislen Opsiynau Cwis ar unrhyw adeg.
Golygu Manylion Cwis
Yn y tab Manylion, rhowch enw eich cwis [1]. Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2], cyflwynwch eich cwis gyda delweddau, fideo, samplau o hafaliadau mathemategol, neu destun wedi’i fformatio. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio’r adnodd gwneud sylw ar gyfryngau i recordio rhagarweiniad i'r cwis.
Llenwch weddill manylion y cwis [3].
Dod o Hyd i Gwestiynau
![Dod o Hyd i Gwestiynau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/767/032/original/c58c3f32-7c7d-4baa-af94-094dc1e26d90.png)
Cliciwch y tab Cwestiynau [1]. Cliciwch y botwm Dod o Hyd i Gwestiynau (Find Questions) [2].
Dod o Hyd i Gwestiwn Cwis
![Dod o Hyd i Gwestiwn Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/767/037/original/17fe8fb6-23c5-44f8-acef-245635559cf5.png)
Dewiswch y banc cwestiynau rydych chi am ddewis cwestiynau ohono.
Nodyn: Pan fyddwch chi’n dod o hyd i gwestiynau mewn banc cwestiynau, ni fydd newidiadau i’r cwestiynau yn y banc cwestiynau’n cael eu diweddaru yn y cwis.
Ychwanegu Cwestiynau
![Ychwanegu Cwestiynau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/767/041/original/8b36fc86-44fa-4721-9ecf-bfc1512630e7.png)
Ticiwch y blychau wrth y cwestiynau rydych chi am eu hychwanegu at eich cwis [1]. Os ydych chi am ddewis yr holl gwestiynau, cliciwch y ddolen Dewis y Cyfan (Select All) [2].
Os ydych chi am ychwanegu’r cwestiynau rydych chi wedi’u dewis at grŵp cwestiynau, dewiswch gwymprestr y grŵp cwestiynau [3]. Gallwch greu grŵp newydd neu ychwanegu at grŵp sy’n bodoli eisoes.
Ar ôl i chi ddewis y cwestiynau rydych chi am eu defnyddio, cliciwch y botwm Ychwanegu Cwestiynau (Add Questions) [4].
Ni waeth beth yw enw’r cwestiwn, bydd y myfyrwyr bob amser yn gweld cwestiynau’r cwis mewn trefn rifol (hy Cwestiwn 1, Cwestiwn 2).
Nodiadau:
- Pan fyddwch chi’n clicio y ddolen Dewis y Cyfan (Select All), bydd Canvas yn dewis y cwestiynau sy’n ymddangos yn y ffenestr ar y pryd. Os oes gennych chi fwy na 50 cwestiwn yn eich banc cwestiynau, cliciwch y botwm Rhagor o gwestiynau (More questions) nes bod yr holl gwestiynau rydych chi am eu dewis yn ymddangos yn y ffenestr.
- Os ydych chi’n gofyn i grŵp cwestiynau ddewis cwestiynau ar hap o fanc cwestiynau, ni fydd y cwestiynau’n cael eu cynnwys ym mhrosesau allgludo'r cwis. Bydd y ffeil QTI yn llwytho manylion y cwis i lawr, ond ni fydd unrhyw gwestiynau’n cael eu cynnwys.
Cadw Cwis
![Cadw Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/767/039/original/326dbe46-deec-4e70-9451-49b1073a82fb.png)
Cliciwch y botwm Cadw i gadw eich gwaith ac i weld rhagolwg o’r cwis.
Nodyn: Ni ddylech gyhoeddi eich cwis nes eich bod wedi’i gwblhau’n derfynol. Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich cwis a’i ddarparu i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).
Cyhoeddi Cwis
![Cyhoeddi Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/620/513/original/96046313-b61e-4a3b-a79a-00e5462dfd6a.png)
I gyhoeddi’r cwis, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [1].
I neilltuo’r cwis i bawb, adran o gwrs, neu fyfyriwr unigol, cliciwch y botwm Rhoi I (Assign To) [2].
Nodyn: Er y gallwch wneud newidiadau i’r cwis ar ôl ei gyhoeddi, ni fydd y myfyrwyr sydd eisoes wedi agor neu gwblhau’r cwis yn gweld y newidiadau, a gallai hynny effeithio ar eu graddau.