Sut ydw i’n creu trafodaeth ynglŷn ag adolygiad gan gyd-fyfyrwyr?

Wrth greu trafodaeth, gallwch ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr roi sylwadau a rhoi adborth ar waith myfyrwyr eraill.

Dim ond gyda thrafodaethau wedi’u graddio y mae modd creu adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr, a does dim opsiwn dienw.

Ar gyfer adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr, gallwch ddewis neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr eich hun neu neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn awtomatig. I gwblhau'r adolygiad gan gyd-fyfyrwyr, mae gofyn i fyfyrwyr roi o leiaf un sylw. Os ydych chi’n cynnwys cyfarwyddyd sgorio, dim ond cwblhau’r cyfarwyddyd sgorio sydd angen iddyn nhw ei wneud.

Nodyn: I ddysgu sut mae dyddiadau erbyn trafodaethau wedi'u graddio ac adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn ymddangos ar restr myfyriwr o bethau i’w gwneud, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Awgrymiadau Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr.

Agor Trafodaethau

Agor Trafodaethau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).

Ychwanegu Trafodaeth

I greu trafodaeth newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Trafodaeth (Add Discussion).

Dewis Opsiwn wedi'i Raddio

Dewis Opsiwn wedi'i Raddio

Gallwch greu trafodaeth wedi’i graddio drwy ddewis y blwch ticio Wedi Graddio (Graded).

Neilltuo Adolygiadau gan Gyd-Fyfyrwyr

Neilltuo Adolygiadau gan Gyd-Fyfyrwyr

Penderfynwch os ydych chi'n mynd i neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr eich hun [1] neu neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn awtomatig [2]. Dewiswch y botwm radio drws nesaf i’r opsiwn sydd orau gennych chi.

Neilltuo Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr yn Awtomatig

Neilltuo Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr yn Awtomatig

Os ydych chi’n neilltuo adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn awtomatig, bydd y ddewislen yn ehangu. Yn y maes Adolygiadau gan bob Defnyddiwr (Reviews Per User) [1], rhowch nifer yr adolygiadau y bydd gofyn i bob myfyriwr eu cwblhau. Yn y maes Neilltuo Adolygiadau (Assign Reviews) [2], defnyddiwch yr eicon calendr i ddewis dyddiad neu rhowch ddyddiad eich hun o bryd bydd adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn cael eu neilltuo i fyfyrwyr.

I ganiatáu adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr o fewn y grŵp, cliciwch y blwch ticio Caniatáu adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr o fewn y grŵp (Allow intra-group peer reviews) [3].

Nodyn: Os bydd yn cael ei adael yn wag, bydd Canvas yn defnyddio dyddiad erbyn y drafodaeth fel dyddiad neilltuo yr adolygiad gan gyd-fyfyrwyr.

Cadw a Chyhoeddi

Cadw a Chyhoeddi

Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich trafodaeth, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save and Publish) [1]. Os ydych chi am greu drafft o’ch trafodaeth a’i chyhoeddi rywbryd eto, cliciwch y botwm Cadw [2].

Pan fydd eich trafodaeth yn cael ei chadw ar ffurf drafft, gallwch fynd yn ôl i’r dudalen a'i chyhoeddi ar unrhyw adeg drwy glicio’r botwm Cyhoeddi (Publish).

Gweld Trafodaeth wedi’i Chyhoeddi

Gallwch weld y drafodaeth wedi’i chyhoeddi.

Gallwch hefyd atodi cyfarwyddyd sgorio i’r drafodaeth i fyfyrwyr ei lenwi wrth gwblhau eu hadolygiadau gan gyd-fyfyrwyr. I ychwanegu cyfarwyddyd sgorio at y drafodaeth wedi’i graddio, cliciwch yr eicon Opsiynau [1] yna cliciwch y ddolen Ychwanegu Rubric (Add Rubric) [2].