Sut ydw i’n gweld Dadansoddiadau Newydd (New Analytics) ar gwrs fel addysgwr?
Mae data Dadansoddi newydd yn cael ei dynnu o Data Canvas 2 (CD2)/Llwyfan Mynediad Data (DAP). Bydd yr holl ddata’n cael ei symud i CD2/DAP erbyn diwedd mis Medi 2024. Gallwch symud eich data i CD2/DAP cyn hynny, drwy gysylltu â'ch gweinyddwr.
Gallwch weld dadansoddiadau mewn cyrsiau gweithredol a chyrsiau sydd wedi dirwyn i ben. Dim ond ymrestriadau myfyrwyr gweithredol ac wedi’u cwblhau sy’n cael eu cynnwys mewn data ar gyfer Dadansoddiadau Newydd. Ni fydd ymrestriadau defnyddwyr anweithredol neu wedi’u dileu yn cynhyrchu data.
Mae’r dadansoddiadau sydd ar gael yn cynnwys gradd cwrs, gweithgarwch ar-lein wythnosol, a chyfathrebu. Yn ddiofyn, mae’r dudalen dadansoddiadau’n dangos graff siart rhyngweithiol o’r holl ddata. Ond, gallwch chi weld data mewn unrhyw dabl ar unrhyw adeg. Mae dadansoddiadau myfyrwyr yn dangos i chi sut hwyl mae myfyriwr penodol yn ei gael ar eich cwrs.
Dysgu mwy am Ddadansoddiadau Newydd.
Sylwch:
- Os na allwch chi weld y ddolen Dadansoddiadau Newydd yn yr adran Crwydro’r Cwrs, efallai y bydd angen i chi wneud y tab yn weladwy drwy’r tab Crwydro yng Ngosodiadau’r Cwrs. Os nad yw’r ddolen Dadansoddiadau Newydd ar gael yn y tab Crwydro, mae eich sefydliad wedi analluogi’r nodwedd hon.
- Mae data’n cael ei adnewyddu yn yr adran Dadansoddiadau Newydd bob 8 awr. Cadarnhewch yr amser y cafodd y data ei ddiweddaru ddiwethaf yn y cwrs, oherwydd gallai’r cynnwys fod yn hen o’i gymharu â chyflwyniadau myfyrwyr a gweithgarwch diweddar ar y cwrs.
- Er mwyn i’r adran Dadansoddiadau Newydd ymddangos yn Canvas, efallai y bydd angen i gwcis trydydd parti gael eu galluogi yng ngosodiadau eich porwr.
- Oherwydd bod data ymweliadau â thudalennau ar ddyfais symudol yn seiliedig ar osodiadau’r ddyfais a chysylltiad y rhwydwaith, mae’n bosibl y bydd yn wahanol i amser yr ymweliadau â thudalennau. Ni ddylai data ymweliadau â thudalennau gael ei ddefnyddio i asesu hygrededd academaidd.
- Mae Gweithgarwch Ar-lein Wythnosol yn ymddangos mewn fformat Dydd Llun-Dydd Sul.
Agor Cwrs
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch enw’r cwrs [2].
Agor Dadansoddiadau Newydd
I agor Dadansoddiadau Newydd, cliciwch y ddolen Dadansoddiadau Newydd (New Analytics) yn yr adran Crwydro’r Cwrs [1] neu glicio’r botwm Dadansoddiadau Newydd (New Analytics) yn Nhudalen Hafan y Cwrs [2].
Nodyn: Os na allwch chi weld y ddolen Dadansoddiadau Newydd, efallai y bydd angen i chi wneud y tab yn weladwy drwy’r tab Crwydro yng Ngosodiadau’r Cwrs.
Agor Dadansoddiadau Gradd Cwrs
Cliciwch y tab Gradd Cwrs (Course Grade) [1].
Gallwch weld gradd gyfartalog gyffredinol y cwrs [2], graddau ar gyfer aseiniadau, trafodaethau a chwisiau [3], neu gymharu graddau cwrs cyfartalog o ran adrannau, myfyrwyr, neu aseiniadau [4]
Dysgwch fwy am weld dadansoddeg graddau cwrs drwy’r an siart rhyngweithiol a’r tabl data.
Gweld Graff Gweithgarwch Ar-lein Wythnosol
I weld gweithgarwch ar-lein wythnosol myfyriwr, cliciwch y tab Gweithgarwch Ar-lein Wythnosol (Weekly Online Activity) [1].
Mae data’n cael ei ddangos fel siart gyda dwy res: cyfartaledd ymweliad â thudalen [2] a chyfartaledd cymryd rhan [3]. Bydd y gweithredoedd canlynol gan ddefnyddiwr yn achos o gymryd rhan:
- Cyhoeddiadau: postio sylw newydd ar gyhoeddiad
- Aseiniadau: cyflwyno aseiniad
- Cydweithrediadau: llwytho cydweithrediad i weld/golygu dogfen
- Cynadleddau: ymuno â gwe-gynhadledd
- Trafodaethau: postio sylw newydd ar drafodaeth
- Tudalennau: creu tudalen
- Cwisiau: cyflwyno cwis
- Cwisiau: dechrau gwneud cwis
Mae data ar gyfer yr wythnos sy’n mynd rhagddi yn cael ei nodi gan linell o ddotiau [4].
I lwytho CSV o’r data gweithgarwch ar-lein wythnosol, cliciwch y botwm Llwytho i Lawr (Download) [5].
Sylwch:
- Mae’r diffiniad o gymryd rhan yn seiliedig ar ganllawiau ffederal yn ymwneud â phresenoldeb myfyrwyr fel sy’n berthnasol i gyrsiau ar-lein. Sylwch, oherwydd bod cyfathrebu rhwng myfyrwyr ac athrawon yn aml yn digwydd y tu allan i LMS, nid yw wedi’i gynnwys fel metrig cymryd rhan. Ond, fel rhan o’r cynnig Dadansoddiadau Cwrs, mae hanes o negeseuon blwch derbyn sy’n cael eu hanfon rhwng myfyrwyr ac addysgwyr yn cael ei gynnwys fel bod modd ei weld ochr yn ochr â’r metrigau cymryd rhan.
- Does dim modd delio a data cyfranogiad myfyrwyr sy’n defnyddio adnoddau allanol.
Gweld Dadansoddiadau Myfyrwyr
I weld dadansoddiadau ar gyfer pob myfyriwr ar eich cwrs, cliciwch y tab Myfyrwyr (Students) [1].
I weld dadansoddiadau ar gyfer un myfyriwr yn eich cwrs, cliciwch enw'r myfyriwr [2].
I ddod o hyd i fyfyriwr, gallwch drefnu’r tabl yn ôl enw myfyriwr [3], neu unrhyw bennyn colofn arall [4].
Mae’r tabl dadansoddiadau wedi’i dudalennu, felly gallwch weld mwy o fyfyrwyr wrth sgrolio at waelod y dudalen.
Gweld Adroddiadau
I weld a rhedeg adroddiadau ar eich cwrs, cliciwch y tab Adroddiadau (Reports) [1].
I weld gosodiadau Adroddiad, cliciwch y botwm Gosodiadau (Settings) [2].
Aseiniadau Coll (Missing Assignments) [3]: Bydd yr adroddiad hwn yn cynhyrchu rhestr o’r aseiniadau sydd heb gael eu cyflwyno eto.
Aseiniadau Hwyr (Late Assignments) [4]: Bydd yr adroddiad hwn yn cynhyrchu rhestr o’r aseiniadau sydd wedi cael eu cyflwyn’n hwyr.
Aseiniadau wedi’u Hesgusodi (Excused Assignments) [5]: Bydd yr adroddiad hwn yn cynhyrchu rhestr o’r aseiniadau sydd wedi’u hesgusodi.
Rhestr Dosbarth (Class Roster) [6]: Bydd yr adroddiad hwn yn cynhyrchu rhestr o fyfyrwyr sydd wedi ymrestru ar y cwrs ynghyd â manylion cyswllt y myfyrwyr, fel e-bost, ID SIS ac ati. Mae oedi o hyd at 40 awr ar ddata’r adroddiad.
Gweithgarwch Cwrs (Course Activity) [7]: Mae’r adroddiad hwn yn darparu rhestr o ryngweithiadau dyddiol defnyddwyr yn adnoddau’r cwrs, lle mae pob cofnod yn yr adroddiad yn rhoi crynodeb o ymweliadau a chyfraniadau’r defnyddiwr. Mae oedi o hyd at 40 awr ar ddata’r adroddiad, mae cylchfa’r cyfrif yn cael ei ddefnyddio i hwyluso data ymweliadau a chyfraniadau dyddiol. Dydy hidlydd y calendr ddim ond gallu delio â 14 diwrnod yn y gorffennol.
I redeg adroddiad, cliciwch y botwm Rhedeg Adroddiad (Run Report) [8].
Gweld Adroddiad Presenoldeb Ar-lein
Os yw wedi’i alluogi gan eich sefydliad, gallwch chi hefyd weld adroddiad Presenoldeb Ar-lein sy’n nodi a yw myfyrwyr wedi cyrraedd y maen prawf presenoldeb ar gyfer y diwrnodau dosbarth sydd wedi’u nodi. Mae meini prawf presenoldeb ar-lein yn cael eu rheoli gan eich sefydliad.