Sut ydw i’n ychwanegu set grwpiau mewn cwrs?
Mae setiau grwpiau yn cadw’r gwahanol grwpiau mewn cwrs. Cyn creu set grwpiau newydd, efallai yr hoffech chi weld y setiau grwpiau sy'n bodoli. Hefyd, gallwch glonio set grwpiau sy'n bodoli. Hefyd, gallwch olygu neu ddileu set grwpiau sy'n bodoli.
Ar ôl i chi greu set grwpiau, gallwch greu grwpiau eich hun yn y set neu greu grwpiau’n awtomatig yn y set. Neu, gallwch chi greu a neilltuo myfyrwyr i grwpiau drwy fewngludo ffeil CSV.
Nodyn: Mae Canvas yn gadael i chi greu hyd at 200 o grwpiau.
Agor yr adnodd Pobl
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Ychwanegu Set Grwpiau
Cliciwch y botwm Ychwanegu Set Grwpiau (Add Group Set). Bydd y ffenestr Creu Set Grwpiau (Create Group Set) yn ymddangos.
Bydd y ffenestr Creu Set Grwpiau (Create Group Set) yn ymddangos.
Cadw Set Grwpiau
Rhowch enw i’r grŵp newydd drwy deipio’r enw yn y maes Enw’r Set Grwpiau (Group Set Name) [1].
Gallwch ganiatáu’r nodwedd cofrestru eich hun drwy roi tic yn y blwch Caniatáu’r nodwedd cofrestru eich hun (Allow self sign-up) [2].
I greu grwpiau eich hun neu greu grwpiau yn defnyddio ffeil CSV, cliciwch yr opsiwn Creu grwpiau rywbryd eto (Create groups later) [3].
O’r gwymplen, dewiswch yr opsiwn Rhannu myfyrwyr yn ôl nifer o grwpiau (Split students by number of groups) [4].
Gallwch chi greu grwpiau’n awtomatig drwy rannu’r myfyrwyr i grwpiau cyfartal neu ddewis nifer y myfyrwyr ym mhob grŵp. I rannu’r myfyrwyr i nifer o grwpiau cyfartal, cliciwch yr opsiwn Rhannu myfyrwyr i [rhif] grŵp (Split students by [number] groups) yn y gwymplen[5].
I greu grwpiau gyda nifer penodol o fyfyrwyr, defnyddiwch y saethau neu deipio nifer y myfyrwyr ym mhob grŵp yn y blwch deialog [6].
Cliciwch y botwm Cadw (Save) [7].
Sylwch:
- Ac eithrio pan fyddwch chi’n creu grwpiau eich hun, gallwch bennu arweinydd grŵp myfyrwyr yn awtomatig.
- Mae’r opsiwn Mynnu bod aelodau’r grŵp yn yr un adran ar gael wrth gofrestru eich hun ac wrth gofrestru’n awtomatig.
- Dim ond hyd at 200 o grwpiau y gall Canvas eu creu ar gyfer set grwpiau sydd wedi'i neilltuo’n awtomatig. Os byddwch chi’n gofyn i Canvas greu mwy na 200 grŵp, dim ond 200 y bydd yn ei greu.