Sut ydw i’n ymateb i neges yn y Blwch Derbyn fel addysgwr?

Mae Canvas yn ei gwneud yn hawdd i chi ateb negeseuon gan ddefnyddwyr eraill yn eich Blwch Derbyn.

Os yw eich rhestr derbynwyr yn cynnwys mwy na 100 o ddefnyddwyr, bydd eich neges yn cael ei hanfon yn awtomatig fel neges unigol at bob defnyddiwr. Byddwch chi, fel yr anfonwr, hefyd yn cael eich cynnwys yng nghyfanswm y derbynwyr.

Os ydych chi am ymateb i sylw ar gyflwyniad, gallwch ymateb drwy ddefnyddio’r sylwadau ar gyflwyniad yn eich Blwch Derbyn, neu’n uniongyrchol o’ch aseiniad neu’ch cwis.

Please accept the cookie policy before viewing this external content.

00:07: Sut ydw i’n ymateb i neges yn y blwch derbyn? 00:11: Yn y ddewislen crwydro’r safle cyfan, cliciwch y ddolen blwch derbyn. 00:15: Cliciwch y sgwrs rydych chi am ymateb iddi. 00:18: Cliciwch yr eicon ateb ym mhennawd y neges neu hofrwch dros y stamp amser a 00:22: chliciwch yr eicon ateb yn y neges. 00:25: Gallwch hefyd glicio'r eicon ateb yn y bar offer. 00:29: Teipiwch eich ymateb yn y maes neges. Gallwch atodi ffeil neu gyfrwng. 00:34: Pan fyddwch chi’n barod, cliciwch y botwm anfon. 00:37: Bydd eich neges yn ymddangos yn y rhagolwg o destun y sgwrs ac ar frig yr edefyn 00:41: unigol. 00:43: Mae’r canllaw hwn yn trafod sut i ymateb i neges yn y blwch derbyn.

Agor Blwch Derbyn

Agor Blwch Derbyn

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Blwch Derbyn (Inbox).

Dewis Sgwrs

Cliciwch y sgwrs rydych chi am ymateb iddi [1]. Cliciwch yr eicon Ymateb ym mhennyn y neges, neu hofran uwchben y stamp amser a chlicio'r eicon Ymateb yn y neges [2]. Gallwch hefyd glicio'r eicon Ymateb yn y bar offer [3].

Nodyn: Os oes mwy nag un derbynnydd, gallwch ymateb i bawb yn y sgwrs a bydd pawb sydd wedi'i gynnwys yn y sgwrs yn gweld eich ymateb.

Ymateb i Neges

Ymateb i Neges

Teipiwch eich ymateb yn y maes neges [1]. Gallwch atodi ffeil neu gyfryngau [2]. Pan fyddwch chi’n barod, cliciwch y botwm Anfon (Send) [3].

Gweld Neges a Anfonwyd

Gweld Neges a Anfonwyd

Bydd eich neges yn ymddangos ar frig yr edefyn unigol.