Sut ydw i’n defnyddio Commons?

Gallwch ddefnyddio Commons i chwilio am gynnwys a’i fewngludo i’ch cyrsiau Canvas. Gallwch hefyd rannu adnoddau â Commons o’ch cyrsiau Canvas.

Dysgu mwy am Canvas Commons.

Nodiadau:

  • I alluogi Commons yn eich fersiwn chi o Canvas, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid. I gael mynediad at Commons, mae gofyn bod gennych chi gyfeiriad e-bost sydd wedi’i gysylltu â’ch cyfrif Canvas.
  • Mae defnyddwyr sy’n gallu creu neu olygu cynnwys cwrs yn Canvas hefyd yn gallu cael mynediad at Commons. Mae hynny’n cynnwys Gweinyddwyr, Athrawon, Dylunwyr a Chynorthwywyr Dysgu. Os nad yw sefydliad eisiau i Gynorthwywyr Dysgu dan hyfforddiant allu cael mynediad at Commons, dylai gweinyddwr cyfrif greu rôl bersonol yn Canvas ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu sydd heb yr hawl i greu na golygu cynnwys cwrs.
  • Mae Commons ar gael ym mhob cyfrif Am-Ddim-i-Athrawon. Mae defnyddwyr Am-Ddim-i-Athrawon wedi’u cyfyngu i ddod o hyd i adnoddau cyhoeddus, eu mewngludo a’u rhannu.
  • Mae’r nodwedd Rhagolygon o Adnoddau yn nodwedd ddewisol ar hyn o bryd, a rhaid iddi gael ei galluogi gan weinyddwr yn Commons. Os nad yw’ch sefydliad wedi galluogi’r nodwedd Rhagolygon o Adnoddau, mae’n bosib y bydd y dudalen manylion adnodd yn edrych yn wahanol.

Agor Commons

Agor Commons

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Commons.

Dod o hyd i Adnoddau

Mae adnodd yn Commons yn gallu bod yn gwrs, modiwl, cwis, aseiniad, trafodaeth, tudalen, dogfen, fideo, delwedd neu ffeil sain. Mae gan bob math o adnodd eicon unigryw. Cadwch lygad am y lliwiau a’r eiconau cysylltiedig hyn wrth chwilio am adnoddau. I ddod o hyd i adnoddau yn Commons, defnyddiwch y maes chwilio (search field) [1]. Gallwch chwilio am allweddeiriau fel awdur, sefydliad neu deitl. Gallwch hefyd chwilio yn ôl deilliant, consortiwm neu grŵp.

I roi’r canlyniadau chwilio mewn trefn yn ôl y rhai Mwyaf Perthnasol, Diweddaraf, Wedi’u Ffefrynnu Amlaf neu Wedi’u Llwytho i Lawr Amlaf, cliciwch y gwymplen Trefnu yn ôl (Sort by) [2].

I ddefnyddio hidlyddion wrth chwilio, cliciwch y botwm Hidlo (Filter) [3].

Ar sail yr hidlyddion rydych wedi’u dewis, bydd y canlyniadau i’w gweld ar y dudalen [4]. I chwilio drwy bopeth sydd ar gael i chi yn Commons, gadewch y maes chwilio a’r hidlyddion yn wag.

Gallwch hefyd weld cynnwys dan sylw (featured content) ar y dudalen ganlyniadau (results page) [5]. Mae'r cynnwys dan sylw yn golygu cynnwys o ansawdd uchel sy’n ymddangos ar dudalen chwilio Commons. Mae’r cynnwys dan sylw yn gallu cael ei fewngludo neu ei lwytho i lawr fel unrhyw gynnwys arall yn Commons.

Nodwch: Gan ddibynnu ar y gosodiadau cyfrif sydd wedi’u gosod gan eich gweinyddwr Canvas, mae’n bosib na fyddwch chi’n gallu gweld a/neu rannu cynnwys cyhoeddus.

Hidlo Canlyniadau Chwilio

Hidlo Canlyniadau Chwilio

I chwilio’n fwy penodol, neu i ddefnyddio hidlydd wrth chwilio, defnyddiwch un neu fwy o’r opsiynau hidlo:

  • Adnoddau wedi’u Cymeradwyo (Approved Resources) [1]: Os yw’ch gweinyddwr wedi galluogi adnoddau wedi’u cymeradwyo, gallwch hidlo’r canlyniadau i ddangos dim ond adnoddau wedi’u cymeradwyo.
  • Math (Type) [2]: Gallwch hidlo yn ôl math o adnodd (e.e. Cyrsiau, Modiwlau, Aseiniadau, Cwisiau, Trafodaethau, Tudalennau, Dogfennau, Delweddau, Fideos neu Sain).
  • Mathau o Gynnwys [3]: Gallwch chi hidlo yn ôl templed neu agor gwerslyfr.
  • Gradd/Lefelau (Grade/Levels) [4]: Gallwch ddewis graddau penodol neu lefel benodol o addysg i chwilio’n fwy penodol (e.e. K-12, Israddedig, Graddedig).
  • Wedi Rhannu â (Shared With) [5]: Gallwch hidlo canlyniadau yn ôl adnoddau sy’n cael eu rhannu’n gyhoeddus, yn eich cyfrif, mewn grŵp, neu mewn consortiwm.

Gweld Cerdyn Cynnwys

Gweld Canlyniadau Chwilio

Yn y canlyniadau chwilio, mae manylion adnodd yn ymddangos ar gardiau cynnwys. Mae’r manylion canlynol i'w gweld ar bob cerdyn:

  • Eicon Adnodd wedi’i Gymeradwyo (Approved Resource) [1]: Nodi adnoddau sydd wedi’u cymeradwyo gan sefydliad. Cofiwch ei bod yn rhaid i’r nodwedd adnoddau wedi’u cymeradwyo gael ei galluogi gan weinyddwr cyfrif.
  • Eicon Adnodd (Resource) [2]: Nodi’r math o adnodd
  • Teitl (Title) [3]: Gweld teitl yr adnodd
  • Lefel(au) gradd (Grade level(s)) [4]: Gweld gradd/lefel yr adnodd
  • Awdur (Author) [5]: Gweld awdur yr adnodd
  • Eiconau Ffeiliau wedi’u Llwytho i Lawr a Ffefrynnau (Downloads and Favorites) [6]: Gweld sawl gwaith mae adnodd wedi cael ei lwytho i lawr a’i fewngludo neu ei ychwanegu fel ffefryn.

I weld rhagolwg o adnodd, i weld mwy o fanylion, neu i fewngludo adnodd, cliciwch deitl yr adnodd.

Gweld Adnodd

Mae’r dudalen trosolwg o’r cynnwys yn llwytho’r tab Rhagolwg yn ddiofyn. Mae’r bar ochr yn cynnwys mwy o wybodaeth a dolenni:

  • Ffefrynnau a Ffeiliau wedi’u Llwytho i Lawr (Favorites and Downloads) [1]: Yn dangos sawl gwaith mae adnodd wedi cael ei ychwanegu fel ffefryn neu ei lwytho i lawr
  • Dyddiad y diweddariad diwethaf (Date of last update) [2]: Dyddiad y tro diwethaf i’r cynnwys gael ei ddiweddaru gan awdur
  • Trwydded (License) [3]: Yn dangos trwydded cynnwys Creative Commons neu Hawlfraint
  • Eicon Wedi Cymeradwyo a Mân-lun (Thumbnail and Approved Icon) [4]: Mân-lun adnodd ac, os yw’n berthnasol, yr eicon adnodd wedi’i gymeradwyo
  • Botwm Mewngludo/Llwytho i Lawr (Import/Download) [5]: Botwm i lwytho’r adnodd i lawr neu ei fewngludo
  • Maint a Math (Size and Type) [6]: Maint ffeil(iau) yr adnodd, a’r math o gynnwys
  • Botwm Ffefrynnau (Favorites) [7]: Ychwanegu'r adnodd at eich Ffefrynnau
  • Botwm Copïo Adnodd (Copy Resource) [8]: copïo’r ddolen adnodd at eich clipfwrdd

Gweld Rhagolwg o Adnodd

I weld rhagolwg o gynnwys adnodd, cliciwch y tab Rhagolwg. Mae’r tab Rhagolwg yn ymddangos yn ddiofyn.

Gweld Manylion Adnodd

Yn y tab Manylion, gallwch weld crynodeb o’r adnodd a gwybodaeth gysylltiedig:

  • Disgrifiad (Description) [1]: Esboniad cryno neu grynodeb o’r adnodd
  • Awdur(on) (Author(s)) [2]: Defnyddiwr neu ddefnyddwyr sydd wedi rhannu’r adnodd
  • Cyfrif (Account) [3]: Y cyfrif a ddefnyddiwyd i rannu’r adnodd
  • Gradd/Lefel (Grade/Level) [4]: Lefel(au) gradd a awgrymir ar gyfer yr adnodd
  • Tagiau (Tags) [5]: Allweddeiriau neu dagiau perthnasol i ddynodi’r adnodd
  • Hyd (Duration) [6]: Hyd ffeil fideo neu sain. Dim ond yn berthnasol i adnoddau fideo neu sain
  • Deilliannau (Outcomes) [7]: Deilliannau sy’n gysylltiedig ag adnodd. Dim ond yn berthnasol i adnoddau sydd â deilliannau cysylltiedig
  • Wedi Rhannu â (Shared With) [8]: Gosodiadau rhannu (cyfrif, grŵp neu grwpiau, consortiwm neu gonsortia, cyhoeddus, preifat)
  • Adolygiadau (Reviews) [9]: Adolygiadau gan ddefnyddwyr eraill

Pan rydych chi’n barod i fewngludo adnodd, cliciwch y botwm Mewngludo/Llwytho i Lawr (Import/Download) a dewis cwrs.

Nodwch: Ni fydd yr holl fanylion yn ymddangos ar gyfer pob adnodd. Mae’r manylion sy’n cael eu rhestru yn dibynnu ar y math o adnodd a’r wybodaeth sydd wedi cael ei darparu gan yr awdur.

Gweld Nodiadau Fersiwn

Gweld Nodiadau Fersiwn

I weld unrhyw ddiweddariadau i’r adnodd, cliciwch y tab Nodiadau Fersiwn (Version notes). Mae diweddariadau’n cael eu trefnu yn ôl dyddiad ac amser, ac yn gallu cynnwys disgrifiad o’r newidiadau sydd wedi cael eu gwneud.

Rhannu Adnodd

Rhannu Adnodd

Gallwch rannu amrywiaeth o adnoddau â Commons o’ch cwrs Canvas, gan gynnwys cwrs Canvas, , ffeiliau a chynnwys cwrs.

Nodwch: Dim ond addysgwyr cwrs all ychwanegu cynnwys cwrs at Commons. Gall Gweinyddwyr ychwanegu cynnwys cwrs at Commons os ydyn nhw’n addysgu'r cwrs.

Gweld Canllawiau Commons

I weld rhestr o ganllawiau Commons defnyddiol, cliciwch y ddolen Canllawiau (Guides).

Mynediad at Ganllawiau Commons

Mynediad at Ganllawiau Commons

I gael mynediad at holl ganllawiau Commons, cliciwch y ddolen Canllawiau Canvas Commons (Canvas Commons Guides) [1]. I gael mynediad at ganllaw Commons penodol, cliciwch ddolen y canllaw cyfatebol [2].

Telerau Defnyddio, Polisi Preifatrwydd a Help

Telerau Defnyddio, Polisi Preifatrwydd a Help

Gallwch ddod o hyd i’r Telerau Defnyddio, y Polisi Preifatrwydd a’r adran Help yn y troedyn ar unrhyw dudalen yn Commons.