Sut ydw i’n mewngludo a gweld adnodd Commons yn Canvas?

Gallwch fewngludo cyrsiau, modiwlau, aseiniadau, cwisiau, trafodaethau, tudalennau neu ffeiliau o Commons i’ch cwrs Canvas. Mae adnoddau wedi’u mewngludo yn cadw eu statws gwreiddiol – wedi eu cyhoeddi, neu heb eu cyhoeddi.

Nodiadau:

  • I alluogi Commons yn eich fersiwn chi o Canvas, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid.
  • Mae Commons ar gael ym mhob cyfrif Am-Ddim-i-Athrawon. Mae defnyddwyr Am-Ddim-i-Athrawon wedi’u cyfyngu i ddod o hyd i adnoddau cyhoeddus, eu mewngludo a’u rhannu.
  • Mae terfynau ar waith ar gyfer storio ffeiliau safonol Canvas.
  • Mae data myfyrwyr yn dal yn breifat wrth rannu a mewngludo adnoddau.
  • Mae adnoddau Commons wedi’u mewngludo yn cadw eu hopsiynau/gosodiadau yn y cwrs newydd heblaw am eu dyddiadau erbyn.
  • Ar hyn o bryd, does dim modd i Commons ddelio â’r broses o rannu/mewngludo banciau cwestiynau sy’n gysylltiedig â chwis.
  • Does dim modd rhannu cynnwys Studio i Commons na’i fewngludo o Commons.
  • Does dim modd mewngludo Cwisiau Newydd o Commons.

Agor Commons

Agor Commons

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Commons.

Dod o hyd i Adnodd

Dod o hyd i adnodd drwy ddefnyddio’r maes chwilio (search field) [1].

Gallwch drefnu adnoddau yn ôl y rhai Mwyaf Perthnasol (Most Relevant), Diweddaraf (Latest), Wedi’u Ffefrynnu Amlaf (Most Favorited), neu Wedi’u Llwytho i Lawr amlaf (Most Downloaded) [2].

Gallwch hefyd hidlo canlyniadau chwilio yn ôl cynnwys wedi’i gymeradwyo (approved content), math o gynnwys (type of content), gradd/lefel (grade/level) a gosodiadau rhannu (sharing settings) [3]. Yma gallwch gael mwy o wybodaeth ynghylch chwilio yn Commons.

Nodyn: Dydy mewngludo cynnwys o Commons ddim ond yn dangos yr opsiynau cwrs o’r enghraifft lle gwnaethoch chi lansio Commons.

Agor Adnodd

Agor Adnodd

I weld manylion adnodd, cliciwch deitl yr adnodd.

Nodyn: Mae modd agor adnoddau mewn tab newydd drwy bwyso Command (Mac) neu Control (PC), wrth hefyd glicio enw'r adnodd yn y dudalen Chwilio, neu drwy dde-glicio enw’r adnodd.

Gweld Adnodd

I fewngludo’r adnodd neu ei lwytho i lawr, cliciwch y botwm Mewngludo/Llwytho i Lawr (Import/Download).

Mewngludo Adnodd

Mewngludo Adnodd

Chwiliwch am y cwrs neu’r cyrsiau rydych am fewngludo'r adnodd (resource) [1] iddynt, neu ddewis y cyrsiau o’r rhestr (list) [2]. Wedyn, cliciwch y botwm Mewngludo i Gwrs (Import into Course) [3].

I lwytho’r ffeil i lawr i’ch cyfrifiadur, cliciwch y botwm Llwytho i Lawr (Download) [4].

Nodiadau:

  • Bydd defnyddwyr Canvas sydd wedi ymrestru ar gwrs fel Addysgwr, Cynorthwyydd Dysgu, Dylunydd neu rôl bersonol sy’n seiliedig ar un o’r rolau a oedd wedi’u rhestru’n barod, yn gweld y rhestr Mewngludo i Gwrs – ar yr amod bod y cwrs maen nhw wedi ymrestru arno yn gyfredol.
  • Os yw cwrs wedi’i osod i ddiystyru dyddiadau tymor, a bod y blwch ticio Dim ond rhwng y dyddiadau hyn y bydd modd i ddefnyddwyr gymryd rhan yn y cwrs wedi’i ddewis, bydd y cwrs yn ymddangos yn y rhestr o gyrsiau os nad yw dyddiad gorffen y cwrs yn y gorffennol.
  • Os yw cwrs yn defnyddio dyddiadau tymor, bydd y cwrs yn ymddangos yn y rhestr o gyrsiau os nad yw dyddiad dechrau’r tymor yn y dyfodol, ac os nad yw’r dyddiad gorffen yn y gorffennol.

Mewngludo Neges Rhybudd

Mewngludo Neges Rhybudd

Os ydych chi’n mewngludo ffeil sy’n fwy na 500MB, bydd Commons yn creu neges rhybudd i roi gwybod i chi na fydd y broses fewngludo yn llwyddiannus o bosib.

Neges Adnodd yn Aros

Neges Adnodd yn Aros

Os byddwch chi’n ceisio mewngludo adnodd sy’n dal i aros, ni fydd y botwm Mewngludo i Gwrs yn weithredol, a bydd Commons yn dangos neges i roi gwybod i chi bod yr adnodd yn dal i gael ei brosesu.

Gweld Hysbysiad Mewngludo

Gweld Hysbysiad Mewngludo

Gallwch weld yr hysbysiad statws mewngludo ar frig eich sgrin. Cofiwch y gallai gymryd ychydig o amser i weld newidiadau yn eich cwrs.

Gweld Adnodd wedi’i Fewngludo

I weld adnoddau ar wahân i gwrs sydd wedi cael eu mewngludo, ewch i'r ardal nodwedd (e.e. Modiwlau, Aseiniadau, Cwisiau, Trafodaethau, Tudalennau neu Ffeiliau) yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs.

Nodyn: Mae cynnwys sy’n cael ei rannu trwy Commons yn cadw statws wedi’i gyhoeddi/heb ei gyhoeddi’r eitem pan gafodd ei rannu’n wreiddiol. Os byddwch chi’n mewngludo cynnwys oedd wedi’i gyhoeddi pan gafodd ei rannu’n wreiddiol, bydd yn mewngludo ac yn cael ei gyhoeddi ar eich cwrs.

Hysbysiad Statws Mewngludo

Hysbysiad Statws Mewngludo

Os yw’r adnodd yn dal i gael ei fewngludo, byddwch chi’n gweld hysbysiad statws wrth agor eich cwrs. Cliciwch y ddolen Statws Mewngludo (Import Status).

Gweld Statws Mewngludo

Mae'r ddewislen Tasgau Presennol (Current Jobs) yn dangos yr adnodd sydd wedi’i fewngludo fel ffeil .imscc Common Cartridge Canvas. Gallwch weld dyddiad ac amser mewngludo’r adnodd. Bydd y ddewislen statws mewngludo yn dangos y statws mewngludo yn ôl lliw:

  • Llwyd [1]: Yn dangos statws Mewn ciw
  • Glas [2]: Yn dangos statws Rhedeg a bar cynnydd sy’n dangos faint o amser sydd ar ôl
  • Gwyrdd/Oren [3]: Yn dangos statws Wedi cwblhau (mae oren yn dangos bod problem gyda’r broses fewngludo; cliciwch y ddolen problemau (issues) i weld y rhestr)

I gywiro unrhyw wall(au) posib gyda’r broses fewngludo, gallwch ddefnyddio’r ddolen problemau wrth ymyl yr eitem mewngludo, neu ddefnyddio’r ddewislen Crwydro’r Cwrs i symud o amgylch y cwrs a chywiro’r gwallau.