Sut ydw i’n creu banc cwestiynau mewn cyfrif?
Gallwch greu Banciau Cwestiynau ar lefel y cyfrif.
Agor Banciau Cwestiynau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Banciau Cwestiynau (Question Banks).
Ychwanegu Banc Cwestiynau
Cliciwch y botwm Ychwanegu Banc Cwestiynau (Add Question Bank).
Golygu Manylion y Banc
Teipiwch enw'r banc cwestiynau yn y maes Enw’r Banc (Bank Name) [1]. Cliciwch yr eicon Nod Tudalen i roi nod tudalen ar y banc cwestiynau [2]. Pwyswch Return (ar fysellfwrdd Mac) neu Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) i greu’r banc cwestiynau.
Agor Banc Cwestiynau
Cliciwch deitl y banc cwestiynau i agor y banc cwestiynau.
Ychwanegu Cynnwys at y Banc Cwestiynau
Defnyddiwch yr adnoddau yn y bar ochr i ychwanegu cynnwys at y banc cwestiynau.
Gweld Cwestiynau
Gweld y cwestiynau yn eich banc cwestiynau. I weld manylion cwestiwn, ticiwch y blwch Dangos Manylion Cwestiwn (Show Question Details).
Mae hi bellach yn bosib cyfeirio at y banc cwestiynau hwn mewn llawer o gwisiau gwahanol.
Nodyn: Nid yw manylion cwestiynau ar gael mewn banciau cwestiynau sydd â mwy na 50 cwestiwn.