Sut ydw i’n creu banc cwestiynau mewn cyfrif?
Gallwch chi greu banciau cwestiynau ar gyfer eich sefydliad neu isgyfrif. Mae banciau cwestiynau yn storfeydd cwestiynau cwis y gall gweinyddwyr ac addysgwyr eu defnyddio wrth greu cwis. Maent yn ei gwneud yn hawdd cynnig yr un cwestiynau cwis i fyfyrwyr mewn gwahanol gyrsiau.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Banciau Cwestiynau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Banciau Cwestiynau (Question Banks).
Ychwanegu Banc Cwestiynau
Cliciwch y botwm Ychwanegu Banc Cwestiynau (Add Question Bank).
Ychwanegu Enw’r Banc
Teipiwch enw'r banc cwestiynau yn y maes Enw’r Banc (Bank Name). Pwyswch Return (ar fysellfwrdd Mac) neu Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) i greu’r banc cwestiynau.
Rhoi Nod Tudalen ar Fanc Cwestiynau
I roi nod tudalen ar y banc cwestiynau i’ch cyfrif defnyddiwr fel y gallwch ei weld wrth gyrchu cyrsiau eraill, cliciwch yr eicon Nod tudalen (Bookmark).
Agor Banc Cwestiynau
Cliciwch deitl y banc cwestiynau i agor y banc cwestiynau.
Ychwanegu Cynnwys at y Banc Cwestiynau
Defnyddiwch yr adnoddau yn y bar ochr i ychwanegu cynnwys at y banc cwestiynau.