Sut ydw i’n cysylltu cwrs â chwrs glasbrint fel gweinyddwr?
Fel gweinyddwr, gallwch chi gysylltu cyrsiau gweithredol â chwrs glasbrint. Mae cyrsiau cysylltiedig yn cael diweddariadau wedi’u cysoni o’r cwrs glasbrint. Ar ôl i gwrs gael ei gysylltu â chwrs glasbrint, ni fydd modd ei gysylltu ag unrhyw gwrs glasbrint arall.
Mae’r rhaid i gyrsiau cysylltiedig fod yn yr un isgyfrif neu mewn isgyfrif is na'r isgyfrif lle mae’r cwrs glasbrint. Ym mhob cwrs cysylltiedig, caiff enw’r cwrs glasbrint ei ddangos ar y dudalen Gosodiadau'r Cwrs, a bydd defnyddwyr sydd â hawl i reoli'r cwrs glasbrint yn gallu cael mynediad at y cwrs glasbrint drwy ddolen uniongyrchol.
Ni fydd cynnwys y mae modd i addysgwr ei reoli yn cael ei ddiystyru wrth gysoni'r Cwrs Glasbrint â chyrsiau cysylltiedig ac ni effeithir ar gynnwys newydd sy’n cael ei ychwanegu at unrhyw gwrs cysylltiedig chwaith.
Ar ôl cysylltu cwrs â chwrs glasbrint, bydd y cwrs glasbrint yn cysoni am y tro cyntaf gyda holl gynnwys a gosodiadau’r cwrs. Gallwch ddewis cysylltu cyrsiau ar ôl i holl gynnwys cwrs gael ei greu, neu gallwch gysylltu cyrsiau yn syth a chysoni'r cwrs glasbrint yn ddiweddarach ar ôl i’r cynnwys glasbrint gael ei gwblhau.
Cyrsiau wedi’u Dirwyn i Ben
Bydd cyrsiau sy'n gysylltiedig â chwrs glasbrint ac sydd wedi’u dirwyn i ben yn parhau i gael unrhyw newidiadau wedi’u cysoni o’r cwrs glasbrint. Nid yw statws cwrs yn effeithio ar y broses cysoni’r glasbrint. Os na ddylai cwrs wedi’i ddirwyn i ben gael newidiadau wedi’u cysoni o'r cwrs glasbrint, dylai’r cwrs gael ei ddileu fel cwrs cysylltiedig.
Nodiadau:
- Dim ond gweinyddwyr sy'n gallu cysylltu cyrsiau â chwrs glasbrint. Gall unrhyw addysgwr sydd wedi ymrestru ar y cwrs glasbrint wneud newidiadau a chysoni cynnwys â chyrsiau cysylltiedig, ond ni fydd modd iddynt reoli cysylltiadau'r cwrs.
- Gellir effeithio ar adnoddau LTI mewn cyrsiau cysylltiedig. Ar ôl cysoni’r cwrs, bydd angen i chi wirio bod y gosodiadau ar gyfer adnoddau LTI wedi’u ffurfweddu’n gywir mewn cyrsiau cysylltiedig.
- Os bydd cysylltiad cwrs â chwrs glasbrint yn cael ei dynnu, yna ni fydd y cwrs yn parhau i dderbyn diweddariadau wedi'u cysoni ac ni fydd cynnwys y cwrs wedi'i gloi mwyach. Bydd cynnwys sydd wedi'i gysoni o'r cwrs glasbrint yn aros yn y cwrs ar ôl i'r cysylltiad cael ei dynnu.
- Nid yw cyrsiau glasbrint yn cysoni rhai gosodiadau cwrs i gyrsiau cysylltiedig, gan gynnwys tymor, a fformat cwrs.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Cyrsiau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).
Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.
Canfod Cwrs
I ddod o hyd i gyrsiau yn y cyfrif sydd yn gyrsiau glasbrint, cliciwch yr opsiwn Dangos cyrsiau glasbrint yn unig (Show only blueprint courses)
Agor Cysylltiadau
Ar Dudalen Hafan y Cwrs, cliciwch dab bar ochr y Glasbrint (Blueprint) [1], yna cliciwch y ddolen Cysylltiadau (Associations) [2].
Nodyn: Gallwch weld bar ochr y Glasbrint o unrhyw dudalen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs
Hidlo Cyrsiau
Mae’r dudalen Cysylltiadau yn dangos unrhyw gyrsiau sydd wedi’u cysylltu â'r cwrs glasbrint. Ar ôl i gwrs gael ei gysylltu â chwrs glasbrint, ni fydd modd ei gysylltu ag unrhyw gwrs glasbrint arall.
I hidlo cyrsiau yn ôl tymor, cliciwch y gwymplen Tymhorau (Terms) [1]. I hidlo cyrsiau yn ôl isgyfrif, cliciwch y gwymplen Isgyfrif (Subaccount) [2].
Gallwch hefyd ddod o hyd i gwrs penodol yn y maes chwilio hefyd [3]. Rhowch deitl, enw byr (cod y cwrs) neu ID SIS ar gyfer cwrs. Does dim modd defnyddio ffugenwau cyrsiau yn y maes chwilio. Nid yw cyrsiau sydd wedi’u dileu’n ymddangos mewn canlyniadau chwilio.
Gweld Canlyniadau Chwilio
Ar ôl dewis tymor neu isgyfrif, bydd y rhestr Cyrsiau yn ehangu ac yn dangos yr holl ganlyniadau yn y tymor neu'r isgyfrif dan sylw. Drwy ychwanegu cofnod at y maes chwilio, bydd y rhestr yn cael ei diweddaru ag unrhyw ganlyniadau chwilio perthnasol.
Mae canlyniadau chwilio’n dangos teitl y cwrs [1], enw byr (cod y cwrs [2], tymor [3], ID SIS [4] ac unrhyw ymrestriadau gan athrawon (addysgwyr) [5].
Nodiadau:
- Bydd y canlyniadau chwilio yn dangos hyd at 100 cwrs. Os ydych chi am gysylltu mwy na 100 cwrs ar y tro, beth am ystyried creu ffeil CSV i lwytho i fyny gan ddefnyddio'r adnodd mewngludo SIS.
- Os oes chwech neu ragor o athrawon yn gysylltiedig â chwr, bydd y golofn Athrawon yn dangos nifer yr athrawon [6].
Ychwanegu Cyrsiau
I gysylltu cwrs â’r cwrs glasbrint, ticiwch y blwch wrth deitl y cwrs [1]. Gallwch ddewis mwy nag un cwrs ar yr un pryd, neu gallwch ddewis pob cwrs drwy roi tic yn y blwch Dewis Pob Cwrs (Select All Courses) [2].
Mae cyrsiau cysylltiedig presennol a chyrsiau i gael eu hychwanegu i’w gweld yn yr adran Cyrsiau Cysylltiedig (Associated Courses) [3]. I gael gwared â chwrs fel cysylltiad, cliciwch yr eicon Tynnu [4].
I gyhoeddi cyrsiau sydd wedi’u dewis i gael eu cysylltu, cliciwch yr eicon Cyhoeddi yn dilyn cysylltiad (Publish upon association) [5].
Nodyn: Bydd y blwch ticio Cyhoeddi yn dilyn cysylltiad ddim ond yn cyhoeddi cyrsiau yn y rhestr I Gael Eu Hychwanegu ac ni fydd yn cyhoeddi cyrsiau oedd wedi’u cysylltu’n barod.
Cadw Cyrsiau
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Cadarnhau Cyrsiau
Gweld bod eich newidiadau cysylltiedig wedi’u cadw.
Addasu Cysylltiadau
Gallwch chi ychwanegu a chadw cyrsiau cysylltiedig ychwanegol, os oes angen.
I gael gwared â chwrs, cliciwch yr eicon Tynnu.
Ar ôl i chi orffen â chysylltiadau cwrs, cliciwch y botwm Gorffen (Done).
Gweld Proses Cysoni
Ar ôl cysylltu cwrs â chwrs glasbrint, bydd y cwrs glasbrint yn cysoni am y tro cyntaf gyda holl gynnwys a gosodiadau’r cwrs.
Ar ôl dechrau cysoni, bydd y bar ochr yn dangos y statws cysoni cyhyd â'ch bod chi’n edrych ar y dudalen. Gallwch adael y dudalen, ond efallai y bydd y broses cysoni’n cymryd ychydig bach o amser.
Nodiadau:
- Os ydych chi’n edrych ar gwrs cysylltiedig yn syth wedyn ac yn methu gweld unrhyw ddiweddariadau, efallai bod y broses cysoni yn parhau. I gael cadarnhad eich bod wedi gorffen cysoni, mae angen i chi alluogi'r hysbysiad cysoni Glasbrint (Blueprint) yng Ngosodiadau’r Defnyddiwr.
- Bydd hanes cysoni'n dangos dyddiad ac amser y broses cysoni ond ni fydd manylion wedi’u cynnwys am y broses cysoni.
- Dim ond cynnwys cwrs meistr BluePrint fydd yn cysoni â chyrsiau cysylltiedig. Ni fydd cynnwys a gafodd ei ychwanegu gennych chi neu ei gopïo yn defnyddio fformat gwahanol yn cysoni.