Sut ydw i’n ffurfweddu manylion dilysu Canvas ar gyfer cyfrif?
Drwy'r Gosodiadau Dilysu, gallwch reoli SSO, hunan-gofrestru ar Canvas, a rheoli gofynion Prosesau Dilysu Sawl Cam (MFA). Efallai y byddwch hefyd yn gallu addasu gofynion cyfrinair a rheoli manylion ymgais mewngofnodi.
Yn ddiofyn, mae modd i ddefnyddwyr fewngofnodi’n syth i Canvas gan ddefnyddio dull dilysu Canvas. Ond, rhaid bod gan holl ddefnyddwyr Canvas gyfrif Canvas cyn gallu mewngofnodi i Canvas.
Mae dull dilysu Canvas yn cynnwys opsiwn o’r enw hunan-gofrestru, sy’n gosod baner gofrestru ar dudalen fewngofnodi eich cyfrif, ac sy’n gadael i ddefnyddwyr greu eu cyfrifon Canvas eu hunain. Gallwch chi hefyd ofyn i ddefnyddwyr lenwi ffurflen Captcha cyn cwblhau’r broses gofrestru.
Mae modd defnyddio dull dilysu Canvas heb hunan-gofrestru. Er enghraifft, mae rhai sefydliadau am greu cyfrifon defnyddwyr gyda system gwybodaeth myfyrwyr (SIS) a mewngludo data SIS i Canvas, ond gadael i ddefnyddwyr fewngofnodi gan ddefnyddio tudalen mewngofnodi ddiofyn Canvas. Mae dull dilysu Canvas hefyd yn delio â dull dilysu Mewngofnodi Un Tro (SSO), sy’n gadael i chi addasu eich manylion mewngofnodi, ac mae modd ei ddefnyddio ynghyd â darparwyr dilysu trydydd parti.
Sylwch:
- Yr unig ffordd o ddileu manylion dilysu Canvas o’r dudalen ddilysu yw drwy alluogi darparwr dilysu trydydd parti. Os yw’r unig ddarparwr dilysu sy’n bodoli’n cael ei ddileu, bydd dull dilysu Canvas yn cael ei adfer fel y darparwr diofyn.
- Mae cyfrineiriau dilysu Canvas yn gorfod bod yn o leiaf wyth nod, oni bai eu bod wedi'u haddasu,
Agor Cyfrif
Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adran Dilysu
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Dilysu (Authentication).
Ffurfweddu Gosodiadau SSO
Drwy'r Gosodiadau Dilysu, gallwch ffurfweddu darparwyr dilysu trydydd parti [1].
Gallwch hefyd ffurfweddu gosodiadau Mewngofnodi Un Tro (SSO) ar gyfer eich darparwr dilysu [2].
Ffurfweddu Hunan-gofrestru
Yn ddiofyn, mae Hunan-gofrestru wedi’i analluogi. I ganiatáu hunan-gofrestru ar gyfer pob defnyddiwr, cliciwch y botwm radio Pob Math o Gyfrif (All Account Types) [1]. Mae’r holl gyfrifon yn cynnwys y rhai ar gyfer myfyrwyr, addysgwyr ac arsyllwyr.
- Ar gyfer pob myfyriwr, mae hunan-gofrestru yn cael ei ddefnyddio gyda hunan-ymrestru. Pan fydd defnyddiwr yn cofrestru fel myfyriwr, mae angen cael cod ymuno i gael mynediad at y cwrs. Mae hunan-ymrestru’n creu’r cod ymuno, a gall addysgwyr ei roi i fyfyrwyr er mwyn cofrestru ar y cwrs. Gallwch ddysgu mwy am opsiynau hunan-ymrestru yn eich cyfrif.
- Mae modd i addysgwyr gofrestru ar gyfer cyfrif Canvas drwy hunan-gofrestru os nad yw eich sefydliad yn creu cyfrifon addysgwyr yn barod.
I gyfyngu hunan-gofrestru i arsyllwyr (gan gynnwys rhieni), dewiswch yr opsiwn Cyfrifon Arsyllwyr yn Unig (Observer Accounts Only) [2].
I ofyn i ddefnyddwyr lenwi ffurflen Captcha cyn cwblhau’r broses gofrestru, cliciwch y blwch ticio Gofyn am Captcha ar gyfer Hunan-gofrestru (Require Captcha for Self Registration) [3].
I alluogi defnyddwyr gael cyfrin un-tro drwy SMS, cliciwch y blwch ticio Anfon codau cyfrin un-tro drwy SMS (darparwyr yn yr UD yn unig) (Send one-time passcodes via SMS (US carriers only)) [4].
Nodyn: Os yw’r opsiwn Pob Math o Gyfrif wedi’i ddewis, rydym ni’n argymell bod gofyn i ddefnyddwyr gwblhau ffurflen Captcha i osgoi creu defnyddwyr sbam.
Rheoli Opsiynau Cyfrineiriau
Os yw'r gosodiad Opsiynau uwch ar gyfer cyfrineiriau (Enhance password options) wedi’i alluogi yn Opsiynau Nodweddion Cyfrif, gallwch addasu cyfrineiriau a rheoli ymgeisiau mewngofnodi yn yr adran Opsiynau Cyfrinair. I reoli ymgeisiau mewngofnodi a chyfrineiriau, cliciwch y botwm Gweld yr Opsiynau (View Options) button.
Gofyn am MFA
I ofyn am Broses Ddilysu Sawl Cam (MFA) cliciwch y botwm radio Canvas yn sicrhau'r MFA (Canvas enforces MFA) [1].
I alluogi defnyddwyr ddewis a ydyn nhw eisiau MFA, cliciwch ar botwm radio Defnyddiwr yn gallu optio i mewn (User can opt in to MFA) [2].
Cadw’r Dilysiad
Cliciwch y botwm Cadw (Save).