Sut ydw i’n rheoli graddfeydd meistroli deilliannau mewn cyfrif?
Os yw’r opsiwn nodwedd Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel y Cwrs a Lefel y Cyfrif wedi’i alluogi ar gyfer eich cyfrif, mae graddfeydd meistroli a dulliau cyfrifo wedi’u gwahanu o ddeilliannau unigol ac mae’r dudalen Deilliannau’n dangos tabiau Graddfeydd Meistroli a Dulliau Cyfrifo.
O’r tab Meistroli, gallwch chi osod graddfeydd meistroli ar gyfer y cyfrif cyfan.
Nodiadau:
- Bydd galluogi’r opsiwn nodwedd Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel y Cwrs a Lefel y Cyfrif yn effeithio ar ddata cyfrif cyfredol.
- Mae’r sgôr meistroli meini prawf diofyn y dangos graddfa 0-4.
- Os oes cyfarwyddyd sgorio gyda deilliannau wedi’u halinio wedi cael ei ddefnyddio i asesu aseiniad cyn i’r Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel y Cwrs a Lefel y Cyfrif gael eu galluogi, nid yw’r aseiniad yn cael ei effeithio. Ond, mae unrhyw aseiniadau sydd heb gael eu hasesu gan y cyfarwyddyd sgorio yn cael eu heffeithio os bydd sgorau meistroli’n cael eu haddasu.
Agor Cyfrif
![Agor Cyfrif](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/007/949/740/original/167b4d34-2e3f-4046-9aed-39673e67bdab.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Deilliannau
![Agor Deilliannau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/005/832/788/original/cda2108d-b74e-42f3-821e-ad4d0eb5101c.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).
Agor Meistroli
![Agor Meistroli](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/002/669/original/5e28aa74-2709-4775-886b-1df5c4c6c2a3.png)
I weld a rheoli’r raddfa meistroli ar gyfer cwrs, cliciwch y tab Meistroli (Mastery).
Nodyn: Os nad yw’r tab Meistroli i’w weld ar y dudalen Deilliannau, nid yw graddfeydd meistroli deilliannau lefel y cyfrif wedi cael eu galluogi gan eich sefydliad.
Rheoli Graddfeydd Meistroli
Mae’r dudalen Meistroli yn dangos y raddfa meistroli sy’n cael ei defnyddio’n ddiofyn ar gyfer pob cwrs yn eich cyfrif. Yn ddiofyn, mae graddfa meistroli’r cyfrif yn cynnwys pum lefel: Rhagori ar Feistroli, Meistroli, Bron a Meistroli, Heb Feistroli, a Dim Tystiolaeth.
Ar gyfer pob lefel meistroli, gallwch chi weld disgrifiad o’r lefel [1], pwyntiau’r lefel [2], a lliw y lefel [3].
I addasu disgrifiad o’r lefel, rhowch ddisgrifiad yn y maes Disgrifiad (Description) [4].
I addasu’r gwerth pwynt sy’n gysylltiedig â chyflawni’r lefel, rhowch werth yn y maes Pwyntiau (Points) [5].
I nodi’r lefel sy’n nodi meistrolaeth myfyriwr, dewch o hyd i’r lefel yn y rhestr a chlicio’r botwm radio Meistroli (Mastery) [6].
Newid Lliw
![Newid Lliw](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/003/577/original/1a3d5777-8ebe-44f2-9a2e-372435aa78d8.png)
Mae lliw yn cael ei neilltuo i bob lefel meistroli swydd i’w weld wrth edrych ar sgorau deilliannau yn y Llyfr Graddau Meistroli Dysgu. I newid lliw y lefel, cliciwch y botwm Newid (Change) [1]. Yna cliciwch yr eicon ar gyfer y lliw rydych chi eisiau ei ddefnyddio [2] neu roi cod hex y lliw yn y maes testun [3]. Os nad yw’r cod hex yn ddilys, mae’r maes yn dangos eicon rhybudd. Nid yw mathau gwahanol o wyn yn dderbyniol fel lliw.
I gadw eich dewis o liw, cliciwch y botwm Gosod [4].
Ychwanegu Lefel Meistroli
I ychwanegu lefel meistroli newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Lefel Meistroli (Add Mastery Level) [1]. Mae’r lefel newydd i’w gweld ar waelod y rhestr ac nid oes modd ei symud [2]. Ond, bydd y lefelau meistroli’n cael eu trefnu’n rhifol ar ôl i’ch newidiadau gael eu cadw.
Dileu Lefel Meistroli
I ddileu lefel meistroli, cliciwch yr eicon Dileu.
Cadarnhau’r broses Dileu
![Cadarnhau’r broses Dileu](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/003/583/original/d1caf828-2782-4986-b6f0-388208ee740c.png)
I gadarnhau eich bod chi eisiau dileu’r lefel meistroli cliciwch y botwm Cadarnhau (Confirm).
Cadw Graddfa Meistroli
![Cadw Graddfa Meistroli](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/002/673/original/417bff72-3e6c-49cf-8ace-39304345ef71.png)
I gadw’r newidiadau i’r raddfa meistroli, cliciwch y botwm Cadw Graddfa Meistroli (Save Mastery Scale).
Cadarnhau Newidiadau
![Cadarnhau Newidiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/003/585/original/2e5166a7-dd25-47a3-a6e0-86b948108073.png)
Bydd cadw eich newidiadau i’r raddfa meistroli yn diweddaru’r holl gyfarwyddiadau dysgu sydd wedi’i neilltuo i ddeilliannau sydd heb gael eu hasesu yn eich cyfrif. I gadarnhau eich newidiadau, cliciwch y botwm Cadw (Save).