Sut ydw i’n defnyddio’r Blwch Derbyn?
Mae’r Blwch Derbyn wedi'i rhannu i ddau banel ac mae’n dangos negeseuon mewn trefn gronolegol. Gallwch weld sgyrsiau ac ymateb iddyn nhw, a’u trefnu yn ôl cwrs neu fath o flwch derbyn. Does dim cyfyngiadau o ran maint ffeiliau ar gyfer y Blwch Derbyn ei hun; fodd bynnag, bydd atodiadau a gaiff eu hychwanegu at sgwrs yn cael eu cynnwys yn ffeiliau personol yr anfonwr.
Nodiadau:
- Os byddwch yn de-glicio neu’n clicio opsiwn yn y ddolen Blwch Derbyn (Inbox), gallwch agor eich Blwch Derbyn mewn tab pori arall i’w gadw wrth law tra byddwch yn gwneud tasgau eraill yn Canvas.
- Bydd defnyddwyr yn ymddangos yn yr adran sgyrsiau ar ôl iddyn nhw ymrestru ar y cwrs, ac ni all defnyddwyr ymuno â chwrs oni bai ei fod wedi'i gyhoeddi.
- Ar ôl i gwrs ddod i ben, ni fyddwch yn gallu anfon negeseuon at ddefnyddwyr ar y cwrs hwnnw.
00:06: How do I use the Inbox as a student? 00:09: In global navigation click the inbox link It's 00:13: the inbox blank includes the numbered indicator the indicator shows. 00:17: How many unread messages do you have in your inbox? Once you read the new 00:21: messages the indicator will disappear. 00:24: The toolbar includes global message options. 00:28: To load conversations, filter your messages by course or group and type. Filtering by type lets you filter messages by Inbox, Unread, Starred, Sent, Archived, and Submission Comments. 00:43: You can search for conversations by user in the Search by user field. 00:48: To compose a message, click the Compose icon. 00:52: Once you have selected a conversation you can use the other options in the 00:56: toolbar to Reply to a conversation reply 01:00: all to a conversation archived a conversation delete 01:05: a conversation. You can also use the more options icon 24-hour 01:09: market conversation is read or unread and star conversations. 01:15: Conversations for your selected course and Inbox filter appear in the left Inbox panel. 01:21: The Inbox is organized chronologically from newest to oldest with the newest conversations appearing on top and the older conversations at the bottom. 01:30: You can manually mark a conversation as read or unread by hovering over the conversation and clicking the circle to the left of the conversation. 01:39: To star a conversation, hover over the conversation and click the star to the right of the conversation. 01:46: When you select a conversation, all messages in the conversations thread appear in the right Inbox panel. 01:53: The conversation thread displays the title of the conversation. 01:57: Each message with in a conversation displays the names of the message participant 02:01: with the name of the sender in bold. 02:04: You can view the course name the author's personal pronouns if enabled 02:09: and the date and time the message was sent. 02:12: You can also view the message content. 02:15: To deselect the conversation click the return icon. 02:19: To reply to the latest message in a conversation. 02:21: Click the reply icon. 02:24: The reply-all forward archive star or 02:28: delete the entire conversation thread click the more options icon then 02:32: click one of the options. 02:35: You can manage an individual message within a conversation to reply 02:39: to a message with in a conversation. Click the reply icon. 02:44: To reply all forward or delete a message with in a conversation thread 02:48: click the more options icon then click one of the options. 02:53: To select multiple message conversations to Archive. 02:56: Delete Mark as read Mark as unread or Star 03:00: click the check box for each message then click the inbox 03:04: toolbar more options icon and select an option. 03:09: This guide covered how to use the Inbox as a student.
Agor Blwch Derbyn
Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Blwch Derbyn (Inbox).
Os yw'r ddolen i’r Blwch Derbyn yn cynnwys dangosydd rhif, bydd y dangosydd yn dangos faint o negeseuon heb eu darllen sydd gennych chi yn eich Blwch Derbyn. Ar ôl i chi ddarllen y negeseuon newydd, bydd y dangosydd yn diflannu.
Gweld Bar Offer
Mae'r bar offer yn cynnwys opsiynau cyffredinol ar gyfer negeseuon. I lwytho sgyrsiau, ewch ati i hidlo eich negeseuon yn ôl cwrs neu grŵp [1] a'u math [2]. Mae hidlo yn ôl math yn caniatáu i chi hidlo negeseuon yn y Blwch Derbyn, rhai Heb eu Darllen, wedi’u Hanfon, wedi’u Harchifo, rhai â Seren, a Sylwadau ar Gyflwyniadau.
Gallwch chwilio am sgyrsiau yn ôl defnyddiwr yn y maes Chwilio yn ôl defnyddiwr (Search by user) [3].
I greu neges, cliciwch yr eicon Creu [4].
Nodyn: Gallai’r bar offer edrych yn wahanol os yw’r gweinyddwr wedi galluogi’r ymateb awtomatig neu’r llofnod. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Sut i reoli gosodiadau fy Mlwch Derbyn (Inbox) fel myfyriwr?
Ar ôl i chi ddewis sgwrs, gallwch ddefnyddio’r opsiynau eraill yn y bar offer i wneud y canlynol:
- Ateb sgwrs
- Ateb pawb mewn sgwrs
- Archifo sgwrs
- Dileu sgwrs
- Gallwch chi ddefnyddio’r eicon Rhagor o Opsiynau i anfon sgwrs ymlaen, marcio bod sgwrs wedi'i darllen neu heb ei darllen, a rhoi seren wrth sgwrs.
Gweld Paneli Blwch Derbyn
Bydd y sgyrsiau ar gyfer y cwrs a'r hidlydd Blwch Derbyn sydd dan sylw yn ymddangos yn y panel Blwch Derbyn ar y chwith.
Gweld Sgyrsiau
Mae'r Blwch Derbyn mewn trefn gronolegol o’r diweddaraf i’r hynaf, gyda'r sgyrsiau diweddaraf yn ymddangos ar y brig [1] a'r rhai hŷn ar y gwaelod.
Gallwch farcio bod sgwrs wedi’i darllen neu heb ei darllen drwy hofran dros y sgwrs a chlicio'r cylch i’r chwith o’r sgwrs [2]. I roi seren wrth sgwrs, gallwch hofran dros y sgwrs a chlicio'r seren i’r dde o'r sgwrs [3].
Gweld Edefyn Sgwrs
Pan fyddwch chi'n dewis sgwrs [1], bydd modd gweld yr holl negeseuon yn yr edefyn sgyrsiau yn y panel Blwch Derbyn ar y dde [2].
Gweld Manylion y Neges
Mae edefyn y sgwrs yn dangos y teitl [1].
Mae pob neges gyda sgwrs yn dangos enwau’r bobl sy’n rhan o’r sgwrs, gydag enw’r anfonwr mewn ffont trwm [2].
Gallwch weld enw’r cwrs, rhagenwau personol yr awdur (os yw wedi’i alluogi), a dyddiad ac amser anfon y neges [3].
Gallwch chi hefyd weld cynnwys y neges [4].
I ddad-ddewis sgwrs, cliciwch yr eicon Yn ôl (Return) [5].
Rheoli Edefyn Sgwrs
O fewn pob edefyn sgwrs, gallwch ateb, ateb pawb, anfon ymlaen, archifo, gosod seren neu ddileu holl edefyn y sgwrs [1].
I ateb y neges ddiwethaf mewn sgwrs, cliciwch yr eicon Ateb (Reply) [1].
I ateb pawb, anfon ymlaen, archifo, gosod seren neu ddileu holl edefyn y sgwrs, cliciwch yr eicon Mwy o Opsiynau (More Options) [2]. Yna, cliciwch un o’r opsiynau [3].
Rheoli Negeseuon Unigol
Gallwch reoli neges unigol mewn sgwrs. I ateb neges mewn sgwrs, cliciwch yr eicon Ateb (Reply) [1].
I ateb pawb, anfon ymlaen, archifo, neu ddileu neges mewn edefyn sgwrs, cliciwch yr eicon Mwy o Opsiynau (More Options) [2]. Yna, cliciwch un o’r opsiynau [3].
Dewis Mwy nag Un Sgwrs
I archifo, i ddileu, i osod seren, neu i farcio eich bod wedi darllen neu heb ddarllen sawl neges mewn sgwrs, cliciwch y blwch ticio ar gyfer pob neges [1]. Yna, cliciwch yr eicon Mwy o Opsiynau (More Options) ar y bar offer Blwch Derbyn [2], a dewis un.
Nodyn: I ddewis neu ddad-ddewis sgyrsiau, gallwch hefyd bwyso'r fysell ‘command’ (Mac) neu’r fysell ‘control’ (Windows) wrth glicio pob neges rydych chi am ei dewis neu ddad-ddewis.