Sut ydw i’n golygu fy mhroffil yn fy nghyfrif defnyddiwr ?
Efallai y bydd rhai sefydliadau yn galluogi nodwedd o'r enw Proffiliau (Profiles) yn Canvas. Mae Proffiliau yn caniatáu i chi ddiweddaru eich enw, y dulliau cysylltu o’ch dewis, ac unrhyw ddolenni personol ar gyfer eich cyfrif. Bydd pob defnyddiwr ar eich cyrsiau yn gallu gweld gwybodaeth eich proffil.
Nodyn: Os na allwch chi weld y tab Proffiliau (Profiles) yn y ddewislen crwydro – defnyddiwr, nid yw’r nodwedd hon wedi cael ei galluogi ar gyfer eich sefydliad.
00:06: How do I edit my profile in my user account? 00:09: In Global Navigation, click the Account link. 00:13: Then click the Profile link. 00:16: Click the Edit Profile button. 00:19: To upload a profile picture, click the profile picture icon. 00:24: If you are allowed to change your name, type your name in the name field. 00:29: Type your title in the title field. 00:32: If you have connected to any web services, click the checkbox underneath the web 00:36: service to indicate how you wish to be contacted via that service to 00:40: add additional Services. Click the manage registered Services link, please 00:44: note that any selected services will not be shared with other course group members 00:48: unless you have previously selected the sharing checkbox in the manage registered Services 00:52: page. 00:55: The discussion icon automatically appears as a contact method for admins. 00:58: So users can contact them through canvas conversations. 01:01: It cannot be selected by any other users. 01:06: Type your biography in the bio field. You can add hobbies and interesting facts about yourself. 01:12: To add personal links to your profile such as personal websites 01:16: blogs or portfolios enter the title of the link in the title 01:20: field. Type the URL in the URL field 01:25: Click the remove icon to delete the link. 01:28: Click the Add another link button to add another link. 01:32: Click the Save Profile button. 01:35: This guide shows how to edit a profile in the user account.
Agor Proffil
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Proffil (Profile) [2].
Golygu Proffil
Cliciwch y botwm Golygu Proffil (Edit Profile).
Nodyn: Os na allwch olygu eich proffil neu’r sianeli cyfathrebu, mae eich sefydliad wedi’u hanalluogi.
Golygu Llun Proffil
I ychwanegu llun proffil, cliciwch yr eicon llun proffil. Gallwch chi ychwanegu llun proffil drwy lwytho llun i fynnu, tynnu llun, neu lwytho llun Gravatar i fyny.
Nodyn: Mae’r hawl ar gyfer lluniau proffil ar wahân i'r hawl ar gyfer Proffiliau (Profiles). Os nad ydych chi’n gweld llun dros dro, nid yw eich sefydliad wedi galluogi’r nodwedd hon.
Golygu Enw a Theitl
Os ydych chi’n cael newid eich enw, teipiwch eich enw yn y maes Enw (Name) [1].
Os yw wedi’i alluogi gan eich gweinyddwr, gallwch chi ychwanegu ynganiad enw at eich proffil. I ychwanegu ynganiad, teipiwch eich ynganiad yn y maes Ynganiad Enw (Name Pronunciation) [2].
Teipiwch eich teitl yn y maes Teitl (Title) [3].
Ychwanegu Dulliau Cysylltu
Os ydych chi wedi cael eich cysylltu ag unrhyw wasanaethau gwe, cliciwch y blwch ticio o dan y gwasanaeth gwe i ddangos sut hoffech chi i’r gwasanaeth hwnnw gysylltu â chi [1]. I ychwanegu gwasanaethau ychwanegol, cliciwch y ddolen Rheoli Gwasanaethau wedi’u Cofrestru (Manage Registered Services). Sylwch na fydd unrhyw un o’r gwasanaethau dan sylw yn cael eu rhannu ag aelodau eraill o'r grŵp/cwrs oni bai eich bod wedi dewis y blwch ticio rhannu ar y dudalen Rheoli Gwasanaethau wedi’u Cofrestru (Manage Registered Services).
Mae’r eicon Trafodaeth yn ymddangos yn awtomatig fel dull cysylltu ar gyfer gweinyddwyr, er mwyn i ddefnyddwyr allu cysylltu â nhw drwy adran Sgyrsiau Canvas [2]. Ni all defnyddwyr eraill ei ddewis.
Nodyn: Gan eu bod wedi’u creu yn eich proffil defnyddiwr, ni fydd cyfeiriadau e-bost yn ymddangos fel dull cysylltu, a dim ond ar gyfer hysbysiadau Canvas y byddan nhw’n cael eu defnyddio. Dylai defnyddwyr Canvas gysylltu â’i gilydd drwy’r adran Sgyrsiau.
Golygu Bywgraffiad
Yn y maes Bywgraffiad (Biography), ychwanegwch eich hobïau, ffeithiau diddorol, ac unrhyw eitemau eraill amdanoch chi’ch hun.
Golygu Dolenni
Gallwch chi ychwanegu dolenni personol at eich proffil, gan gynnwys blogiau, portffolios a gwefannau personol.
Yn y maes Teitl (Title), rhowch deitl y ddolen [1].
Yn y maes URL, rhowch yr URL [2].
I ddileu’r ddolen, cliciwch yr eicon Dileu [3].
I ychwanegu dolen arall, cliciwch y botwm Ychwanegu Dolen Arall (Add Another Link) [4].
Cadw proffil
Cliciwch y botwm Cadw Proffil (Save Profile).