Sut ydw i’n gweld pob un o fy nghyrsiau Canvas?

Ar ôl mewngofnodi i Canvas, gallwch weld eich cyrsiau presennol. Efallai y byddwch hefyd yn gallu gweld y cyrsiau blaenorol a’r cyrsiau yn y dyfodol rydych chi wedi ymrestru ar eu cyfer yn Canvas.

Nodyn: Efallai y bydd rhai sefydliadau yn cyfyngu ar yr opsiwn i weld neu gael mynediad at gyrsiau yn y dyfodol cyn y dyddiadau cyfranogiad a/neu gyfyngu ar yr opsiwn i gael mynediad at gyrsiau sydd wedi dirwyn i ben ar ôl iddyn nhw orffen.

00:07: How do I view all my canvas courses as a student? 00:11: In global navigation, click the courses link. 00:13: Then click the all courses link. 00:17: Courses are organized into all courses past enrollments, future 00:21: enrollments and groups. 00:24: Courses can be sorted by favorite status name nickname 00:28: term enrollment status and publish status by selecting. 00:32: The sort icon in the header groups are sorted alphabetically by 00:36: group name. 00:38: If Allowed by your institution, you can do the institutions public course 00:42: index in a catalog format by clicking the browse more courses button. 00:47: All courses are courses that are part of the current semester or term. 00:50: However, depending on access settings, for a course, 00:54: my course is can also display courses that have not yet started or unpublished. 01:00: Active courses that are available to you are listed in blue text, these 01:04: courses have been published and include a link to the course to open 01:08: a course, click the name of the course. 01:11: Courses that are within the current term dates but are not yet available are listed in Black 01:15: text. These courses have not been published and no link is available. 01:20: You can also view any nicknames you have created for courses. 01:24: Is a course, includes a term date. The term date displays. 01:29: Each course includes your role in the course. 01:31: Your Role can be student teacher, ta Observer 01:35: designer or a custom roll created by your Institution. 01:40: Any all courses section. You can customize the courses list and Mark courses 01:44: as favorites. Favorite courses display in the card view dashboard. 01:50: You can change the order that courses are listed by clicking the sort icon in the header. 01:54: The column currently use for sorting displays either the ascending 01:58: or descending icon to indicate the sort order. 02:02: Courses under the past enrollments heading our courses that have concluded, but are still available 02:06: as a read-only archive course. 02:08: You can do course, material and grades but can no longer participate 02:12: in the course. 02:14: Future enrollments are courses. That will be made available as part of an upcoming term 02:18: or specific course start date. Future courses may be published or 02:22: unpublished. However, some institutions May restrict you from being 02:26: published courses before the start date. 02:28: If a future course, includes a link. 02:31: You can do course content but cannot fully participate in the course until 02:35: the start date. Participation include submitting, assignments and 02:39: replying to discussions. It's a future course, does not include 02:44: a link. The course, cannot be viewed until the start date. 02:49: If you are enrolled in groups, the group section displays any groups within 02:53: your current courses. You can do, all your groups in your groups list. 02:58: To view a group home page, click the group named link. 03:03: You can locate your course, ID number at the end of your course URL. 03:08: This guy covered how to view all my canvas courses as a student.

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch y ddolen Pob Cwrs (All Courses) [2].

Gweld Cyrsiau

Caiff cyrsiau eu trefnu yn ôl Pob Cwrs (All Courses) [1], Ymrestriadau Blaenorol (Past Enrollments) [2], Ymrestriadau yn y Dyfodol (Future Enrollments) [3] a Grwpiau (Groups) [4].

Mae modd trefnu cyrsiau yn ôl statws Ffefryn, Enw, Llysenw, Tymor, statws ymrestru, a statws Cyhoeddi drwy ddewis yr eicon Trefnu (Sort) yn y pennawd [5]. Mae grwpiau yn cael eu trefnu yn ôl yr wyddor yn ôl enw’r grŵp.

Os yw wedi’i ganiatáu gan eich sefydliad, gallwch chi weld mynegai cwrs cyhoeddus y sefydliad mewn fformat catalog drwy glicio’r botwm Pori drwy fwy o gyrsiau (Browse More Courses) [6].

Gweld Pob Cwrs

Mae’r opsiwn Pob Cwrs yn cynnwys y cyrsiau sy’n rhan o’r semester neu’r tymor presennol. Fodd bynnag, yn ddibynnol ar y gosodiadau mynediad ar gyfer cwrs, gall Fy Nghyrsiau hefyd ddangos cyrsiau nad ydynt wedi dechrau eto neu rai sydd heb eu cyhoeddi.

Mae'r cyrsiau gweithredol sydd ar gael i chi wedi eu rhestru mewn ysgrifen las [1]. Mae'r cyrsiau hyn wedi cael eu cyhoeddi ac yn cynnwys dolen i’r cwrs. I agor cwrs, cliciwch enw’r cwrs.

Mae’r cyrsiau sydd o fewn dyddiadau’r tymor presennol, ond sydd ddim ar gael eto, wedi’u rhestru mewn ysgrifen ddu [2]. Dydy'r cyrsiau hyn ddim wedi’u cyhoeddi a does dim dolen ar gael.

Gallwch hefyd weld unrhyw enwau byr rydych chi wedi’u creu ar gyfer cyrsiau [3].

Os yw cwrs yn cynnwys dyddiad tymor, mae’r dyddiad tymor yn ymddangos [4].

Mae pob cwrs yn cynnwys eich rôl yn y cwrs [5]. Gall eich rôl fod yn fyfyriwr, athro, cynorthwyydd dysgu, arsyllwr, dylunydd, neu rôl bersonol wedi'i chreu gan eich sefydliad.

Yn yr adran Pob Cwrs, gallwch addasu eich rhestr cyrsiau a marcio cyrsiau fel ffefrynnau [6]. Mae hoff gyrsiau yn ymddangos ar y Dangosfwrdd Gwedd Cardiau.

Gallwch chi newid y drefn y mae cyrsiau’n cael eu rhestru drwy glicio’r eicon Trefnu (Sort) yn y pennawd [7]. Mae’r golofn sy’n cael ei defnyddio ar gyfer trefnu yn dangos eicon o’r dechrau i’r diwedd, neu fel arall, i nodi’r drefn [8].

Gweld Ymrestriadau Blaenorol

Mae'r cyrsiau o dan y pennawd Ymrestriadau Blaenorol (Past Enrollments) wedi dirwyn i ben ond maen nhw’n dal ar gael fel cyrsiau darllen-yn-unig wedi'u harchifo. Gallwch chi weld graddau a deunydd cyrsiau ond ni allwch gyfrannu at y cwrs mwyach.

Nodyn: Efallai na fydd rhai sefydliadau’n gadael i ymrestriadau blaenorol ymddangos ar y dudalen Cyrsiau.

Gweld Ymrestriadau yn y Dyfodol

Ystyr Ymrestriadau yn y Dyfodol yw cyrsiau a fydd ar gael fel rhan o dymor sydd i ddod neu sydd â dyddiad dechrau penodol. Gall cyrsiau yn y dyfodol fod yn rhai wedi’u cyhoeddi, neu heb eu cyhoeddi. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai sefydliadau yn eich rhwystro rhag gweld cyrsiau wedi’u cyhoeddi cyn y dyddiad dechrau.

Os bydd cwrs yn y dyfodol yn cynnwys dolen [1], gallwch weld cynnwys y cwrs ond ni allwch gymryd rhan yn llawn yn y cwrs tan y dyddiad dechrau. Mae cymryd rhan lawn yn cynnwys cyflwyno aseiniadau ac ymateb i drafodaethau.

Os nad yw cwrs yn y dyfodol yn cynnwys dolen [2], ni fydd modd gweld y cwrs tan y dyddiad dechrau.

Nodyn: Efallai na fydd rhai sefydliadau’n gadael i ymrestriadau yn y dyfodol ymddangos ar y dudalen Cyrsiau (Courses).

Gweld Grwpiau

Os ydych chi wedi ymrestru mewn grwpiau, bydd yr adran Grwpiau (Groups) yn dangos unrhyw grwpiau sy’n rhan o’ch cyrsiau presennol. Mae modd gweld eich holl grwpiau yn eich rhestr grwpiau.

I weld tudalen hafan grŵp, cliciwch ddolen enw’r grŵp.

Canfod ID Cwrs

Canfod ID Cwrs

Gallwch chi ddod o hyd i’ch rhif ID Cwrs ar ddiwedd eich URL cwrs (ee, canvas.instructure.com/courses/XXXXXX).