Sut ydw i’n llwytho ffeil i fyny i fy ffeiliau defnyddiwr neu grŵp?
Mae modd i chi lwytho ffeiliau i fyny i ffeiliau defnyddiwr a ffeiliau grŵp. Mae modd defnyddio ffeiliau ar gyfer aseiniadau, atebion i drafodaethau, ac atodiadau i sgyrsiau. Hefyd, mae modd plannu ffeiliau sydd yn eich ffeiliau defnyddiwr neu ffeiliau grŵp yn Canvas gan ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor).
Mae’n bwysig gwybod sut i ddod o hyd i’ch ffeiliau defnyddiwr a’ch ffeiliau grŵp.
Nodiadau:
- Er mwyn cyflwyno aseiniadau, gallwch lwytho ffeil i fyny o’ch cyfrifiadur neu ddewis ffeil sydd wedi cael ei llwytho i fyny i’ch ffeiliau defnyddiwr yn barod. Os ydych chi’n dewis ffeil sydd wedi’i llwytho i fyny’n barod, gallwch ddileu’r ffeil ar ôl iddi gael ei chyflwyno er mwyn gwneud lle yn eich ffeiliau defnyddiwr.
- Dydy Canvas ddim yn gallu delio â ffeiliau wedi’u llwytho i fyny sy’n fwy na 5 GB.
- Mae ffeiliau grŵp yn cael eu cyhoeddi’n awtomatig pan fyddan nhw’n cael eu llwytho i fyny i’r grŵp.
Llwytho Ffeil i Fyny
Mewn ffeiliau defnyddiwr neu grŵp, cliciwch y botwm Llwytho i Fyny (Upload).
Agor Ffeil
Cliciwch deitl y ffeil(iau) rydych chi eisiau eu llwytho i fyny [1] a chliciwch y botwm Agor (Open) [2].
Llwytho Ffeiliau i fyny drwy Lusgo a Gollwng
Mae rhai porwyr gwe yn cynnwys nodwedd sy’n gadael i’r defnyddiwr ychwanegu at ffeiliau drwy lusgo a gollwng y ffeiliau o ffenestr ffeiliau yn syth i storfa ffeiliau Canvas. Cliciwch deitl y ffeil rydych chi am ei hychwanegu [1] a llusgwch y ffeil i’ch porwr sydd ar agor [2]. Bydd eich ffeil yn cael ei llwytho i fyny’n awtomatig.
Disodli Ffeil Ddyblyg
Os oes ffeil gyda’r un enw yn bodoli’n barod yn y ffolder lle rydych chi’n llwytho eich ffeil i fyny, bydd angen i chi ddweud a ydych chi am ei disodli neu ei hailenwi.
I ailenwi’r ffeil, cliciwch y botwm Newid Enw (Change Name) [1]. Bydd yr opsiwn hwn yn creu copi dyblyg o’r ffeil gydag enw gwahanol.
I ddisodli’r ffeil, cliciwch y botwm Disodli (Replace) [2].
Gweld Cynnydd y broses Llwytho i Fyny
Bydd bar cynnydd yn ymddangos ar frig y sgrin, yn dilyn cynnydd y broses o lwytho eich ffeil i fyny.
Gweld Ffeiliau
Gweld eich ffeil newydd.