Sut ydw i’n newid fy nghyfrinair mewngofnodi yn fy nghyfrif defnyddiwr?

Efallai y byddwch chi’n gallu newid eich cyfrinair yn eich gosodiadau proffil.

Os nad oes gennych chi fynediad i newid eich cyfrinair, mae eich cyfrinair yn cael ei reoli trwy eich sefydliad. Cysylltwch â’ch sefydliad i ddysgu sut i newid eich cyfrinair.

Os ydych chi’n gallu newid eich cyfrinair, does dim cyfnodau ailosod cyfrinair, felly gallwch chi newid eich cyfrinair cyn amled â rydych chi eisiau. Ond, gallwch chi gadw cyfrineiriau cryf yn effeithiol drwy eu newid yn aml. Dyma rai canllawiau ar gyfer cyfrineiriau da:

  • Defnyddiwch o leiaf wyth nod (y mwyaf y gorau), ond bydd y rhan fwyf o bobl yn ei chael yn anodd cofio mwy na thua 15 nod.
  • Defnyddiwch gymysgedd o nodau, mawr a bach, rhifau, atalnodau, bylchau a symbolau a hynny ar hap.
  • Peidiwch â defnyddio gair sydd mewn geiriadur, Saesneg neu iaith arall.

Nodyn: Os byddwch chi’n anghofio eich cyfrinair, efallai y byddwch yn gallu ei ailosod. Gallwch ddysgu sut mae ailosod eich cyfrinair.

00:07: How do I change my login password and my user account? 00:11: In global navigation, click the account link then click the settings 00:15: link. 00:17: Click the edit settings button. 00:20: Click the change password checkbox to create a new password type, 00:24: your old password in the old password, field type your new password, in 00:28: the new password field type your new password again in the confirm password 00:32: field. 00:34: Click the update settings button. 00:37: This guide covered how to change my login password in my user account.

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Agor Gosodiadau Defnyddiwr

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings) [2].

Golygu Gosodiadau

Golygu Gosodiadau

Cliciwch y botwm Golygu Gosodiadau (Edit Settings).

Newid Cyfrinair

Newid Cyfrinair

Cliciwch y blwch ticio Newid Cyfrinair (Change Password) [1] i greu cyfrinair newydd. Teipiwch eich hen gyfrinair yn y maes Hen Gyfrinair (Old Password) [2]. Teipiwch eich cyfrinair newydd yn y maes Cyfrinair Newydd (New Password) [3]. Teipiwch eich cyfrinair newydd eto yn y maes Cadarnhau Cyfrinair (Confirm Password) [4].

Nodyn: Os nad oes gennych chi fynediad i newid eich cyfrinair, cysylltwch â’ch sefydliad. Bydd eich sefydliad yn eich helpu i newid eich cyfrinair.

Diweddaru Gosodiadau

Diweddaru Gosodiadau

Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).