Sut ydw i’n tanysgrifio i ffrwd Calendr (Calendar) gan ddefnyddio Outlook.com fel myfyriwr?
Gallwch chi danysgrifio i Ffrwd Calendr Canvas (Canvas Calendar Feed) drwy ddefnyddio gwefan Outlook.com. Mae ffrwd calendr iCal yn cynnwys digwyddiadau ac aseiniadau o’ch holl galendrau Canvas, gan gynnwys slotiau ar gyfer apwyntiadau yn y Trefnydd (Scheduler) sydd wedi’u cadw. Ar ôl i chi danysgrifio i'r ffrwd calendr, gallwch chi dynnu'r ffrwd calendr unrhyw bryd oddi ar Outlook.com drwy glicio'r eicon Rhagor o Opsiynau (More Options) a dewis yr opsiwn Tynnu (Remove) o'r ddewislen.
Gallwch chi hefyd ychwanegu a mewngludo calendrau i raglen bwrdd gwaith Outlook.
Sylwch:
- Bydd digwyddiadau hyd at 366 diwrnod yn y dyfodol, a digwyddiadau yn y gorffennol o fewn 30 diwrnod, yn cael eu cynnwys pan fyddwch chi’n allgludo calendr Canvas i Outlook.com. Mae'r crynodeb calendr yn gynnwys hyd at 1,000 o eitemau.
- Gall Outlook.com gymryd hyd at 24 awr i gysoni â Canvas Calendar. Efallai na fydd diweddariadau Canvas ar gael i’w gweld yn syth yng nghalendr Outlook.com.
- Os yw eich sefydliad yn defnyddio cyfrif Microsoft Exchange Server, gallwch chi hefyd danysgrifio i’r crynodeb calendr drwy ddefnyddio’r Outlook Web App yn Exchange Server. Mae hyn yn gadael i chi gael gafael ar eich calendr Outlook ar-lein os ydych chi oddi wrth eich dangosfwrdd. Cysylltwch â gweinyddwr TG eich sefydliad i gael rhagor o wybodaeth.
- Ar gyfer eitemau trefnydd, rhaid i apwyntiadau gael eu gweld yn y calendr Canvas i gael manylion llawn yr apwyntiad.
- Nid yw eitemau I’w Gwneud wedi’u cynnwys yn ffrwd y Calendr iCal.
- Ar ôl i chi fewngludo'r ffrwd calendr a'ch bod wedi ymrestru ar gwrs newydd, rhaid i chi ail-fewngludo'r ffrwd calendr i gynnwys calendr newydd y cwrs.
Agor Calendr
Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).
Agor Ffrwd Calendr
Cliciwch y ddolen Ffrwd Calendr (Calendar Feed).
Copïo Ffrwd Calendr
I gopïo dolen y ffrwd calendr, copïwch y testun yn y maes URL [1].
I lwytho'r ffrwd i lawr fel ffeil ICS, cliciwch y ddolen Cliciwch i weld y Ffrwd Calendr (Click to view Calendar Feed) [2].
Agor Calendr Outlook.com
Agor Outlook.com. Yn y bar ochr, cliciwch yr eicon Calendr (Calendar).
Ychwanegu Calendr
Yn y bar ochr, cliciwch y ddolen Ychwanegu calendr (Add calendar).
Tanysgrifio i'r Calendr oddi ar y We
I danysgrifio i galendr oddi ar y we, cliciwch y ddolen Tanysgrifio oddi ar y we (Subscribe from web) [1].
I fewngludo ffeil ICS sydd wedi’i llwytho i lawr, cliciwch y ddolen Llwytho i fyny o’r ffeil (Upload from file) [2].
Gludo Dolen Crynodeb Calendr
Gludwch ddolen y ffrwd calendr o Canvas ym maes url y calendr (calendar url).