Sut ydw i'n ychwanegu digwyddiad at fy nghalendr personol?

Gallwch ychwanegu nodyn atgoffa personol at eich Calendr eich hun i’ch atgoffa o ddigwyddiad sydd ar y gweill.

Nodyn: Gallwch chi hefyd ychwanegu eitem i’w wneud at eich Calendr.

00:07: Learn how to efficiently add an event to your calendar using the instructor application. 00:13: In global navigation click the calendar link 00:17: Click any date on the calendar to add an event or click the arrows 00:21: next to the month name to navigate to a different month and select a date. 00:26: If you don't want to manually locate the date, you can click the add icon. 00:31: Enter a title for the event in the title field. 00:34: Depending on how you added your event the date may be populated for you. 00:38: It's not enter a date and the date field. 00:42: The calendar times may also be populated for you in the front and two fields to 00:46: edit use the drop-down menus or enter the start and end time for your event 00:51: to create an all-day event Lisa from into Fields blank. 00:55: So there is no start or end time for your event. 00:59: In the frequency drop-down menu, you can set recurring calendar events. 01:03: If a location is required enter location for the event. 01:09: To add additional details to your event click the more options button. 01:12: You can use the rich content Editor to a description or resource 01:16: links. 01:19: Otherwise click the submit button 01:22: This guy covered how to add an event to the calendar as a student.

Agor Calendr

Agor Calendr

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).

Ychwanegu Digwyddiad

Cliciwch unrhyw ddyddiad ar y calendr i ychwanegu digwyddiad [1]. Neu, cliciwch y saethau drws nesaf i enw’r mis i fynd i fis gwahanol [2] a dewis dyddiad.

Os nad ydych chi am ddod o hyd i'r dyddiad eich hun, gallwch glicio’r eicon Ychwanegu [3].

Ychwanegu Manylion Digwyddiad

Ychwanegu manylion digwyddiad

Rhowch deitl ar gyfer y digwyddiad yn y maes Teitl (Title) [1].

Yn dibynnu ar sut y gwnaethoch chi ychwanegu eich digwyddiad, mae’n bosib y bydd y dyddiad wedi cael ei lenwi i chi. Os nad yw wedi’i lenwi, rhowch ddyddiad yn y maes Dyddiad (Date) [2].

Mae’n bosib y bydd amseroedd y calendr wedi cael eu llenwi i chi hefyd yn y meysydd O ac I [3]. I olygu, defnyddiwch y gwymplen neu rhowch amser dechrau a gorffen ar gyfer eich digwyddiad. I greu digwyddiad diwrnod cyfan, gadewch y meysydd O ac I yn wag fel nad oes amser dechrau na gorffen ar gyfer eich digwyddiad.

Yn y gwymplen Amlder (Frequency), gallwch chi osod digwyddiadau calendr rheolaidd [4].

Os oes angen lleoliad, rhowch leoliad ar gyfer y digwyddiad [5].

Cyflwyno Digwyddiad

Cyflwyno Digwyddiad

I ychwanegu mwy o fanylion at eich digwyddiad, cliciwch y botwm Mwy o Opsiynau (More Options) [1]. Gallwch ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i ychwanegu dolenni disgrifiad neu adnodd.

Fel arall, cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [2].