Beth yw Cynadleddau?

Caiff cynadleddau eu defnyddio yn bennaf ar gyfer rhith ddarlithoedd, rhith oriau swyddfa a grwpiau o fyfyrwyr. Mae modd eu defnyddio hefyd i arddangos technolegau ac i ddatrys problemau technegol ar-lein. I gael y perfformiad gorau, dylai Cynadleddau gael eu cyfyngu i 25 o ddefnyddwyr neu lau. Mae Canvas yn integreiddio â BigBlueButton.

Nodiadau:

  • Mae creu cynhadledd yn un o hawliau cwrs. Os nad oes modd i chi greu cynhadledd, mae eich sefydliad wedi cyfyngu’r nodwedd hon.
  • I gael rhagor o wybodaeth am opsiynau gwe-gynadledda yn Canvas, ewch i weld yr Adnoddau Gwe-gynadledda.

Gwedd Addysgwr

Mae cynadleddau'n ei gwneud hi’n hawdd cynnal darlithoedd cydamserol (amser real) ar gyfer pob defnyddiwr mewn cwrs. Mae cynadleddau'n caniatáu i ddefnyddwyr ddarlledu fideo a sain amser real, dangos enghreifftiau o raglenni, rhannu sleidiau cyflwyniadau neu ddangos enghreifftiau o adnoddau ar-lein.

Pryd fyddwn i’n defnyddio Cynadleddau fel addysgwr?

Pryd fyddwn i’n defnyddio Cynadleddau fel addysgwr?

Mae modd defnyddio Cynadleddau i wneud y canlynol:

  • Cysylltu â’ch myfyrwyr ar gyfer oriau swyddfa ar-lein neu sesiynau astudio sydd wedi’u dylunio i'w helpu i baratoi ar gyfer prawf.
  • Cysylltu â’ch cyd-weithwyr ar gyfer gweminarau datblygiad proffesiynol.
  • Ymarfer cyflwyno ar-lein. Gall myfyrwyr greu cyflwyniadau ymarfer yn eu Grwpiau myfyrwyr.
  • Gwahodd gwesteion arbennig i’ch ystafell ddosbarth drwy eu hychwanegu at eich cwrs fel myfyrwyr neu arsyllwyr.
  • Darlledu darlith neu ddigwyddiad byw i fyfyrwyr pan nad oes modd gwneud hynny ar y safle.
  • Recordio eich cynadleddau fel y gall myfyrwyr eu gweld nhw'n ddiweddarach. Caiff recordiadau eu dileu’n awtomatig 7 diwrnod ar ôl i’r gynhadledd ddod i ben.

Gwedd Myfyriwr

Gall myfyrwyr greu cynadleddau i siarad am aseiniadau cwrs, i gynnal grwpiau astudio ac i gydweithio ar brosiectau.

Pryd fyddwn i’n defnyddio Cynadleddau fel myfyriwr?

Pryd fyddwn i’n defnyddio Cynadleddau fel myfyriwr?

Mae modd defnyddio Cynadleddau i wneud y canlynol:

  • Cysylltu â’ch addysgwr ar gyfer oriau swyddfa ar-lein neu sesiynau astudio
  • Cysylltu â chyd-fyfyrwyr ar gyfer gweminarau datblygiad proffesiynol neu siaradwyr gwadd
  • Ymarfer cyflwyno ar-lein mewn grwpiau o fyfyrwyr neu gyda’r addysgwr mewn cynhadledd yn y dosbarth
  • Cydweithio mewn grwpiau o fyfyrwyr ar gyfer prosiectau grŵp neu waith cwrs arall