Beth yw’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog?

Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnig bar offer mwy greddfol a chryno sy’n wedi’i grwpio yn ôl eiconau a rhyngweithiadau cyffredin.

Y golygydd cynnwys sydd ar gael unrhyw bryd ar gyfer creu cynnwys newydd. Caiff y Golygydd Cynnwys Cyfoethog ei ddefnyddio mewn nodweddion sy’n delio â'r golygydd (Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Trafodaethau, Cwisiau Newydd, Tudalennau, Cwisiau neu Feysydd Llafur).

Gweld y Golygydd Cynnwys Cyfoethog

Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys yr ardal cynnwys, y bar dewislen, a’r bar offer.

Yn yr ardal cynnwys, gallwch chi ychwanegu a gweld rhagolwg o gynnwys y dudalen [1].

Yn y bar dewislen, gallwch chi ddefnyddio opsiynau’r ddewislen i fformatio cynnwys y dudalen [2].

Yn y bar offer, gallwch chi fformatio testun [3]; mewnosod dolenni, delweddau, cyfryngau a dogfennau [4];agor adnoddau allanol [5]; fformatio paragraffau [6]; clirio fformatio [7]; ychwanegu tablau [8]; mewnosod hafaliad [9]; a phlannu cyfryngau [10]. Pan fo cynnwys mewn ffenestr porwr yn ddigon hir i fod angen bar sgrolio, bydd y bar offer wedi’i osod ar frig ffenestr y porwr.

Nodyn: Os yw wedi’i alluogi gan eich sefydliad, mae Gwneuthurwr Eiconau y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, yn gadael i chi greu eiconau yn eich cwrs o fewn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Pa Nodweddion Canvas sy’n Defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog?

Mae’r nodweddion Canvas canlynol yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog:

  • Cyhoeddiadau
  • Aseiniadau
  • Trafodaethau
  • Cwisiau Newydd
  • Tudalennau
  • Cwisiau
  • Maes Llafur

Agor Bysellau Hwylus

Gall defnyddwyr Canvas ddefnyddio'r nodwedd llywio â bysellfwrdd yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso’r bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd. Hefyd, gallwch chi agor y ddewislen drwy bwyso’r bysellau Alt+F8 (Bysellfwrdd PC) neu’r bysellau Option+F8 (Bysellfwrdd Mac) ar yr un pryd.

Gweld Dewislen Bysellau Hwylus

Mae modd defnyddio’r bysellau hwylus canlynol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog:

  • I agor y dialog Bysellau Hwylus, pwyswch Alt+F8 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+F8 (ar fysellfwrdd Mac)
  • I ganolbwyntio ar y bar offer opsiynau elfen, pwyswch Ctrl+F9 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Cmd+F9 (ar fysellfwrdd Mac)
  • I ganolbwyntio ar far dewislen y golygydd, pwyswch Alt+F9 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+F9 (ar fysellfwrdd Mac)
  • I agor bar offer y golygydd, pwyswch Alt+F10 (ar fysellfwrdd cyfrifiadur) neu Option+F10 (ar fysellfwrdd Mac)
  • I gau dewislen neu ddeialog a dychwelyd i ardal y golygydd, pwyswch y fysell Esc
  • I lywio trwy ddewislen neu far offer, pwyswch y fysell Tab
  • Gallwch chi hefyd ddefnyddio bysellau hwylus eraill