Beth yw’r Trefnydd?

Mae'r Trefnydd yn adnodd yn y Calendr sy'n creu grwpiau o apwyntiadau mewn cwrs neu grŵp. Gall myfyrwyr gofrestru ar gyfer slot amser o fewn y grŵp apwyntiadau. Efallai mai dim ond un myfyriwr ar y tro fydd yn gallu cofrestru ar gyfer rhai slotiau apwyntiadau, ac y bydd slotiau eraill yn gadael i grŵp cyfan gofrestru.

Dim ond myfyrwyr sy’n gallu cofrestru ar gyfer slotiau apwyntiadau yn y Trefnydd. Os bydd myfyriwr yn cofrestru ar gyfer slot apwyntiad, bydd y sawl sy’n arsyllu’r myfyriwr yn gallu gweld yr apwyntiad yng nghalendr y myfyriwr. Does dim modd i arsyllwyr gofrestru ar gyfer apwyntiad ar ran myfyriwr.

Nodyn: Mae’r adnodd Trefnydd yn ddewisol yn y Calendr. Os ydych chi’n addysgwr ac nad yw’r Trefnydd ar gael i chi, cysylltwch â’ch gweinyddwr Canvas. Os ydych chi’n weinyddwr, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid.

Pryd fyddwn i’n defnyddio’r Trefnydd?

Gall addysgwyr ddefnyddio’r Trefnydd i wneud y canlynol:

  • Creu oriau swyddfa
  • Trefnu sesiynau Cynorthwyydd Dysgu
  • Trefnu cinio
  • Neilltuo amser ar gyfer cyflwyniadau
  • Cynnal cynadleddau Myfyriwr-Athro (gallai myfyrwyr ddod â rhiant neu warcheidwad gyda nhw hefyd)
  • Cynnal apwyntiadau eraill