Beth yw’r gofynion cyfrifiadurol sylfaenol ar gyfer Canvas?

Mae hon yn rhestr o ofynion system cyfrifiadurol sylfaenol i'w defnyddio yn Canvas. Mae hi bob amser yn syniad da defnyddio’r fersiynau mwyaf diweddar a’r cysylltiadau gorau. Bydd Canvas yn dal i redeg gyda’r manylebau isaf, ond efallai y bydd yr amseroedd llwytho yn arafach.

Mae Canvas a’i ryngwyneb lletyol wedi’u dylunio i sicrhau’r cydnawsedd gorau posib gyda dim ond ychydig o ofynion.

Maint y Sgrin

Mae Canvas ar ei orau wrth edrych arno gyda chydraniad 800x600 neu fwy. Os ydych chi am edrych ar Canvas ar ddyfais sydd â sgrin lai, rydyn ni’n argymell defnyddio ap symudol Canvas.

Systemau Gweithredu

  • Windows 7 a fersiynau diweddarach
  • Mac OSX 10.10 a fersiynau diweddarach
  • Linux - chromeOS

Cymorth Apiau Cynhenid System Weithredu Symudol

Ers 5 Ionawr 2019, mae apiau Android angen fersiwn 5.0 neu ddiweddarach ac mae apiau iOS angen fersiwn 12 neu ddiweddarach. Mae Android ac iOS yn gallu delio â'r ddwy fersiwn ddiweddaraf o'u systemau gweithredu.

Prosesydd a Chyflymder Cyfrifiadur

  • Defnyddiwch gyfrifiadur 5 oed neu ddiweddarach pan fo hynny’n bosib
  • 1GB o RAM
  • Prosesydd 2GHz

Cyflymder y Rhyngrwyd

  • Ynghyd â chydnawsedd a safonau gwe, mae Canvas wedi ei lunio’n ofalus i ddarparu ar gyfer amgylcheddau lled band isel.
  • 512Kbps o leiaf

Darllenwyr Sgrin

  • Macintosh: VoiceOver (y fersiwn diweddaraf ar gyfer Safari)
  • Cyfrifiadur: JAWS (y fersiwn diweddaraf ar gyfer Firefox)
  • Cyfrifiadur: NVDA (y fersiwn diweddaraf ar gyfer Firefox)
  • Nid yw Chrome yn delio â darllenwyr sgrin ar gyfer Canvas