Beth yw’r rôl Myfyriwr?

Yn Canvas, fel arfer caiff y rôl Myfyriwr ei defnyddio i ymrestru defnyddwyr a fydd yn cymryd rhan mewn cwrs i gael credyd cwrs. Gall defnyddwyr sydd wedi ymrestru fel Myfyrwyr weld cynnwys cwrs a chymryd rhan mewn aseiniadau a sgyrsiau yn y cwrs. Ni all Myfyrwyr weld na chymryd rhan mewn cwrs nes bydd y cwrs wedi’i gyhoeddi ac wedi dechrau.

Mae gan Canvas rolau defnyddiwr lefel cwrs eraill sydd â mynediad lefel cwrs amrywiol. Gall Dylunwyr weithio gydag Athrawon (sy’n goruchwylio Cynorthwywyr Dysgu) a gyda’i gilydd maent yn creu cynnwys cwrs y mae Myfyrwyr ac Arsyllwyr yn ei ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau defnyddiwr ar lefel y cwrs, edrychwch ar y PDF ar Hawliau Cwrs Canvas.

Gall Myfrwyr hefyd ddefnyddio ap Canvas Student i weld a chymryd rhan mewn cyrsiau.

Defnyddio Rôl Myfyriwr

Prif ddefnydd rôl Myfyriwr yw cysylltu defnyddwyr Canvas â chyrsiau lle gallant gael gafael ar gynnwys cwrs er mwyn cael credyd cwrs. Er enghraifft, mae Myfyrwyr ar gyrsiau Canvas yn aml yn gwneud cwisiau a phrofion ac yn cyflwyno aseiniadau i gael gradd mewn cwrs.

Gall Myfyrwyr gymryd rhan yn unrhyw un o ardaloedd Canvas y mae'r athro wedi eu galluogi ar gyfer y cwrs. Gellir cysylltu Myfyrwyr â un cwrs neu â mwy nag un cwrs a bydd modd iddynt gyflwyno gwaith, gweld graddau, aseiniadau a digwyddiadau yn ogystal â rhyngweithio ag aelodau eraill ar y cwrs.

Gan ddibynnu ar y sefydliad, bydd gan fyfyrwyr wahanol lefelau o fynediad at gyrsiau Canvas. Gall Myfyrwyr gael mynediad at gyrsiau blaenorol, rhai presennol a rhai i’r dyfodol. Hefyd, gellir ymrestru myfyrwyr ar gyrsiau unigol. Mae modd ymrestru myfyrwyr ar gwrs yn awtomatig drwy fewngludo SIS, gall athro ymrestru myfyrwyr ei hun, neu mae modd iddynt hunan-ymrestru.

Mynediad Myfyriwr yn Canvas

Mae hawliau diofyn Canvas ar gyfer y rôl Myfyriwr wedi’u rhestru isod. Fodd bynnag, gall sefydliadau addasu hawliau'r rôl Myfyriwr fel y bo angen. I gael rhagor o wybodaeth am gyfranogiad Myfyriwr yn Canvas, darllenwch Ganllaw Myfyrwyr Canvas.

Mae myfyrwyr yn gallu:

  • Gweld cyhoeddiadau cwrs
  • Cyflwyno aseiniadau
  • Gweld calendr y cwrs
  • Gweld a phostio mewn trafodaethau agored
  • Gweld a chymryd rhan yn y nodwedd Sgwrsio
  • Creu cynadleddau a chydweithrediadau myfyrwyr
  • Llwytho ffeiliau i fyny a’u rheoli
  • Creu e-Bortffolios
  • Creu a rheoli tudalennau grŵp
  • Gweld graddau eu cwrs
  • Gweld rhestr o’r defnyddwyr mewn cwrs
  • Anfon negeseuon at bobl eraill mewn cwrs

Dydy myfyrwyr ddim yn gallu:

  • Ychwanegu, golygu a dileu eitemau yng nghalendr y cwrs
  • Ychwanegu neu gael gwared â phobl eraill mewn cwrs
  • Cyhoeddi, cwblhau a dileu cyrsiau
  • Gweld graddau pobl eraill sy'n cymryd rhan yn y cwrs
  • Ychwanegu a dileu rhaglenni allanol (LTI) ar gyfer cwrs
  • Ychwanegu, golygu a dileu cynnwys, adrannau neu grwpiau o fyfyrwyr mewn cwrs
  • Creu a golygu cyfarwyddiadau sgorio
  • Ychwanegu, golygu neu ddileu deilliannau dysgu sy'n gysylltiedig â chynnwys cwrs
  • Dileu a chloi trafodaethau a golygu negeseuon pobl eraill mewn trafodaethau
  • Darllen data SIS
  • Gweld dadansoddiadau cwrs ac adroddiadau defnydd ar gyfer cwrs
  • Gweld a chysylltu â banciau cwestiynau
  • Gweld tudalennau pob grŵp o fyfyrwyr ar gyfer cwrs
  • Gweld llwybr archwilio graddau

Cyfyngiadau ar Rôl Myfyriwr

  • Ni all myfyrwyr weld cynnwys ar gyfer cwrs oni bai eu bod wedi ymrestru arno.
  • Ni all myfyrwyr weld deunydd cwrs sydd wedi’i gloi neu heb ei gyhoeddi.
  • Os yw wedi’i alluogi ar lefel cyfrif, gall myfyrwyr greu, golygu a dileu apwyntiadau Trefnydd yng nghalendr y cwrs y mae aelodau eraill ar y cwrs yn gallu eu gweld.
  • Gall myfyrwyr weld a gwneud sylw ar gyflwyniadau myfyrwyr eraill os yw’r athro wedi galluogi'r opsiwn hwn ar gyfer aseiniad.
  • Gall pob athro addasu'r dolenni yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs a chyfyngu ar nifer y nodweddion y gall Myfyrwyr (Students) ac Arsyllwyr eu gweld. Mae’n bosib y gall myfyrwyr weld dolenni i nodweddion penodol.